Rheolwr Gweithredol

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r strategaeth, trwy gysylltu â phartneriaid wrth gynllunio a datblygu a gweithredu prosiectau arbennig sy'n deillio o hynny. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a bydd y cynllun hwn yn ceisio trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a De-ddwyrain Cymru a chwyldroi opsiynau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r rhanbarth lleol.
**Am Y Swydd**
Mae’r swydd hon yn hollbwysig o ran sicrhau bod y ddinas yn tyfu’n llwyddiannus yn y dyfodol. Gan weithio i'r Pennaeth Trafnidiaeth, bydd y rôl yn arwain a rheoli tîm o swyddogion medrus ac ymroddedig iawn. Mae'r Papur Gwyn Trafnidiaeth yn rhoi gweledigaeth yn y dyfodol sy'n cynnwys llwybrau trên tram newydd, gwasanaethau bws newydd a safleoedd Parcio a Theithio ac ail-flaenoriaethu ein strydoedd i roi mwy o le i bobl sy'n cerdded a beicio.

Felly, bydd y gwaith yn cynnwys:

- Cydlynu prosiectau arbennig
- Gweithio gyda'n partneriaid a datblygu'r cysylltiadau hynny
- Gweithio gyda chyrff statudol allanol i sicrhau cyllid
- Arwain timau amlddisgyblaethol a rheoli datblygiad y timau hynny
- Rheoli cyllidebau a sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni o fewn amser a gofynion adnoddau

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r sgiliau arwain a rheoli rhagorol sydd eu hangen i barhau i gyflawni rôl allweddol y Trafnidiaeth wrth lunio dyfodol y ddinas.

Mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, bydd angen ymrwymo’n gryf i werth a rôl Trafnidiaeth wrth sicrhau newid cadarnhaol.

Bydd angen sgiliau rhagorol arnoch i reoli llwyth gwaith trwm, gan wneud y mwyaf o'r cyfraniadau a chefnogi’r gwaith parhaus o ddatblygu tîm talentog a phrofiadol.

Bydd angen i chi hefyd gydnabod pwysigrwydd gweithio gyda'n partneriaid a'n cwsmeriaid allweddol a bod â phrofiad amlwg o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol yn llwyddiannus.

Manylir ar fanylion llawn y rôl a'r cymwyseddau ymddygiadol sydd eu hangen ar gyfer y rôl y bydd yn rhaid eu harddangos yn eich ffurflen gais a thrwy’r broses ddethol yn y dogfennau Disgrifiad Swydd a Phroffil Rôl.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00361


  • Rheolwr Gwasanaeth

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn uchelgeisiol a brwdfrydig chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwelliant parhaus yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, wedi'i leoli yn ein cyfleuster 'o'r radd flaenaf' yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd. Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd cymysg o tua 900 o gerbydau, o geir a...

  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu: Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth. **Am Y Swydd** Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws y swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu tua £140 miliwn o...

  • Rheolwr Prosiectau

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion. Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Rheolwr y RHaglen

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd ar raddfa fawr a llwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Gan ddefnyddio atebion arloesol a symud yn gyflym tuag at safon carbon isel rydym yn...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    10 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig. Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn un...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfleoedd cyffrous i ymuno â’r Gwasanaethau Strydlun, yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Gyrrwr/Llwythwr Penwythnos o fewn y Tîm Masnach, byddwch yn gyfrifol am gasglu deunyddiau...

  • Uwch Geidwad Loc

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn dilyn adeiladu Morglawdd Caerdydd ym 1999, crëwyd Awdurdod Harbwr Caerdydd i redeg, gweithredu a chynnal y Morglawdd o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993 **Am Y Swydd** Gan weithio gyda Rheolwr Sifftiau ac adrodd iddo o fewn amgylchedd tîm, byddwch yn gyfrifol am weithredu'r giatiau loc, y llifddorau a'r llwybrau pysgod gan...

  • Arweinydd Is-adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel Goruchwylydd Dyletswydd Cynorthwyol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Fel y Goruchwylydd Dyletswydd Cynorthwyol, byddwch yn cynorthwyo'r...

  • Arweinydd Grŵp

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol ehangach megis ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chynorthwyo gyda mentrau adfer ar ôl y pandemig. Mae hefyd yn arwain y gwaith o weithredu'r dull o greu lleoedd fel y'i nodwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein swyddogaethau llunio polisïau a Rheoli Datblygu ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran statudol, addysg mewn chweched dosbarthiadau ysgolion & gwasanaeth ieuenctid. Mae 128 o ysgolion yng Nghaerdydd sy’n cynnwys 3...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) Caerdydd. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...

  • Arweinydd Is-adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...