Rheolwr Arweiniol Comisiynu Strategol

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws y swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu tua £140 miliwn o wasanaethau allanol i ddinasyddion Caerdydd.
Prif flaenoriaethau'r Gwasanaeth yw:

- Darparu’r gwasanaethau cymdeithasol o’r ansawdd gorau posibl
- Integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gyflym ac eang
- Chwalu'r rhwystrau, gan gydgysylltu gwasanaethau yn y Gymuned ac ar draws y Cyngor
- Rhoi cymaint â phosib o werth am arian i'r Cyngor a thrigolion Caerdydd

Bydd deiliad y swydd yn cynnig rheolaeth ac arweinyddiaeth i’r tîm Comisiynu Plant er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu comisiynu a'u darparu i safon uchel, gan weithio'n agos gyda darparwyr gofal cymdeithasol allanol, ac o fewn cyfraith a deddfwriaeth caffael.

**Am Y Swydd**
Bydd y Rheolwr Arweiniol Comisiynu Strategol yn gweithio o fewn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflawni swyddogaeth gomisiynu a rheoli contractau effeithiol sy'n canolbwyntio ar wasanaethau sy'n darparu cymorth i blant a phobl ifanc. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Rheolw(y)r Gweithredol i gomisiynu gwasanaethau cost-effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o ansawdd uchel ac yn gost-effeithiol, a disgwylir iddo/iddi ddarparu arweinyddiaeth ac arbenigedd i'r swyddogaeth gomisiynu mewn meysydd comisiynu a rheoli contractau penodol, gan gynnwys caffael.

Bydd y rôl yn gyfrifol am y canlynol:

- Comisiynu, contractio, monitro gwasanaethau plant gan gynnwys comisiynu ar gyfer anghenion cymhleth ac ymyrraeth gynnar.
- Comisiynu, contractio a monitro gwasanaethau eraill sy'n cefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, yn ôl y gofyn
- Cyfrannu at ail-ddylunio gwasanaethau.
- Rheoli ymgysylltiad mewn amrywiaeth o drefniadau partneriaeth gydag asiantaethau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.
- Rheoli'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy'n cael eu comisiynu'n effeithiol sy'n adlewyrchu anghenion unigolion a chymunedau ehangach, ac sy'n darparu ar gyfer profiad cadarnhaol i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
- Rheoli cydweithio ac ymgysylltu effeithiol â Rheolwyr Gweithredol, y Tîm Comisiynu a Chaffael canolog, staff o rannau eraill o'r Cyngor ac asiantaethau partner mewn gweithgarwch comisiynu.

Gweinyddu mecanwaith effeithiol ar gyfer rheoli'r Broses Uwchgyfeirio Pryderon yn ôl y galw

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae pobl leol (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed) yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn yr amseroedd mwyaf heriol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yng Nghaerdydd, ac sydd â sgiliau, profiad a gwybodaeth helaeth am gomisiynu a chaffael o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o reoli prosiectau a hanes rhagorol o weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, darparwyr a'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau y mae Cyngor Caerdydd yn eu comisiynu.

Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o weithio ar lefel rheoli.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02832

  • Rheolwr Comisiynu

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro’r gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Comisiynu sydd wedi cymhwyso'n briodol i arwain ar gomisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol allanol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o...

  • Swyddog Arweiniol

    2 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r rôl hon yn rhan o Dîm Diogelwch Cymunedol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion troseddu a gwrthgymdeithasol sy'n cael eu hwynebu ledled Caerdydd. Mae'r tîm yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n cynnwys ffyrdd o fyw ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau, atal trais, datrys problemau...

  • Rheolwr Prosiectau

    3 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Datblygu ac Adfywio'r Cyngor yn gweithio'n galed i gyflawni cynlluniau adfywio cynaliadwy o ansawdd uchel ledled Caerdydd. Rydym yn angerddol am ymgysylltu â'n cymunedau a chyflawni prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn y ddinas. Rydym yn canolbwyntio ar wella ardaloedd lleol a chanolfannau siopa, gwella ein...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Datblygu ac Adfywio'r Cyngor yn gweithio'n galed i gyflawni cynlluniau adfywio cynaliadwy o ansawdd uchel ledled Caerdydd. Rydym yn angerddol am ymgysylltu â'n cymunedau a chyflawni prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn y ddinas. Rydym yn canolbwyntio ar wella ardaloedd lleol a chanolfannau siopa, gwella ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...

  • Rheolwr RHaglen

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...

  • Rheolwr RHaglen X 2

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Byddwch yn rheoli'r tîm Polisi a Datblygu. **Am Y Swydd** Ynglŷn â’r swydd** Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli, datblygu, gweithredu a monitro strategaethau a pholisïau allweddol. Byddwch yn cymryd rôl arweiniol wrth...

  • Rheolwr Datblygu

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn canolbwyntio ar wella ein canolfannau ardal ac wrth gyflawni'r agenda 'dinas 15 munud' ledled ein cymunedau,...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros...

  • Welsh Headings

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran statudol, addysg mewn chweched dosbarthiadau ysgolion & gwasanaeth ieuenctid. Mae 128 o ysgolion yng Nghaerdydd sy’n cynnwys 3...

  • Rheolwr Prosiect

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae uned Gwasanaethau 24/7 Cyngor Caerdydd yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau Categori 2, sydd wedi’i hachredu gan ISO a’r Bwrdd Archwiliadau Systemau a Larymau Diogelwch (BASLD) / ystafell reoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) sy’n defnyddio detholiad o dechnoleg i sefydlu trawsyriant gyda safleoedd ledled y ddinas ac yn...