Rheolwr RHaglen
3 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol.
Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a chynnig darpariaeth arbenigol ar gyfer timau gwasanaethau cymdeithasol. Rydym yn cydweithio â thimau a phartneriaid mewnol fel Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Llywodraeth Cymru i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ariannu a chyflwyno prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn y ddinas.
O ganlyniad i'r amrywiaeth gynyddol o brosiectau a rhaglenni cyffrous y byddwn yn parhau â hwy, rydym yn recriwtio Rheolwr Rhaglenni i helpu i ddylunio ein prosiectau. Mae angen y bobl gywir arnom sydd â phrofiad perthnasol ac sy'n rhannu ein hangerdd dros ymgysylltu â'n cymunedau i ymuno â'n tîm a helpu i wireddu ein dyheadau.
**Am Y Swydd**
Bydd deiliad y swydd llwyddiannus yn darparu gwasanaethau rheoli a dylunio prosiectau effeithiol sy'n cyfrannu'n weithredol at weithredu prosiectau Datblygu ac Adfywio Strategol y Cyngor. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl hanfodol wrth oruchwylio a rheoli'r broses ddylunio ar gyfer ein prosiectau cyfalaf, gan sicrhau bod datrysiadau dylunio o ansawdd uchel yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus. Byddwch yn rhan annatod o'r tîm cleientiaid trwy gamau dylunio a chyflwyno'r prosiect; rheoli'r prosesau mewnol ac allanol; ac adeiladu timau prosiect effeithlon wrth fentora staff iau i annog y lefel uchaf o ddylunio a boddhad defnyddwyr terfynol.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm adfywio presennol yn canolbwyntio ar reoli ansawdd a sicrhau bod cysondeb ar draws ein rhaglenni a'n prosiectau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau mewnol y cyngor, rhanddeiliaid allanol, busnesau a thrigolion i ddylunio a chyflawni ein gwaith i’r safon uchaf.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan ddeiliad y swydd o leiaf bum mlynedd o brofiad mewn adfywio neu ddatblygu a phrofiad sylweddol o bensaernïaeth neu ddylunio ar gyfer yr amgylchedd adeiledig. Gwir ddiddordeb mewn dylunio, pensaernïaeth a'r amgylchedd adeiledig o ansawdd da a'r brwdfrydedd dros ein helpu i gyflawni ein rhaglen helaeth o waith.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau arwain a chyfathrebu rhagorol, gyda hanes llwyddiannus o weithio gyda rhanddeiliaid mewn prosesau dylunio a chyflawni prosiectau. Bydd ganddo hanes llwyddiannus o gyflawni cynlluniau sy'n bodloni eu hamcanion gwreiddiol a sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu dilyn.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03124
-
Rheolwr Prosiect
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...
-
Rheolwr Cyflogadwyedd
1 month ago
Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time**Unit**: The Open University in Wales **Salary**: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 7) **Location**: Cardiff **Please quote reference**: 20515 Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2023, 37 awr yr wythnos **Closing Date**: 5 January, 2023 - 12:00 **Uned**: Brifysgol Agored yng Nghymru **Cyflog**:£35,333- £42,155 y flwddyn (Gradd 7) **Lleoliad**:Gweithio...
-
Rheolwr Sicrwydd Ansawdd a Datblygu
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...
-
Swyddog Cymorth
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm Cyllid o fewn Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd. Mae'r tîm Cyllid yn cefnogi Priffyrdd, Trafnidiaeth a Gorfodi Parcio Sifil, **Am Y Swydd** Bod yn atebol i’r Arweinydd Tîm/Is-adran am: Monitro, dyrannu ac adrodd ar weithgaredd ariannol Trafnidiaeth, Priffyrdd a GPS. Rheoli anghenion...
-
Arweinydd Tîm Helpu Teuluoedd
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**About The Service** Deiliad y swydd fydd yn bennaf gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd a monitro perfformiad effeithiol y tîm ymweliadau Ymgynghorwyr Helpu Teuluoedd. Bydd yn arwain, datblygu, cefnogi a chyfathrebu â grŵp staff o faint sylweddol sy'n gweithio'n agos gyda rheolwr Porth Teuluoedd a’r Gwasanaethau Cymorth Cynnar i barhau i ddatblygu'r...
-
Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12079** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg - Adran Cyfryngau Creadigol.** **Contract: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog**:£22,891 - £24,923 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg - Cyfryngau Creadigol yn adran Greadigol Coleg...
-
Swyddog Datblygu'r Ganolfan Achredu
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Datblygu’r Ganolfan Achredu Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achredu sefydledig sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno a chefnogi rhaglenni hyfforddi i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae ein...
-
Arweinydd Tim Helpu Teuluoedd
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...
-
Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12080** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg - Adran Fusnes.** **Contract: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog**:£22,891-£24,923 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Hyfforddwr Cyfrwng Cymraeg yn adran Busnes Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y swydd hon...
-
Ymarferydd RHianta
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...
-
Aseswr Plymio a Gwresogi
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Ref**: 11784** **Teitl y Swydd**: Aseswr Plymio a Gwresogi** **Contract**: Llawn amser, Parhaol** **Cyflog**: £30,313 - £32,331 y flwyddyn** **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro** Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr o fewn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Mae’r rôl yn ymwneud...
-
Aseswr Plymio a Gwresogi
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Ref**: 11784 **Teitl y Swydd**: Aseswr Plymio a Gwresogi **Contract**: Llawn amser, Parhaol **Cyflog**: £30,313 - £32,331 y flwyddyn*** **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr o fewn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol. Mae’r rôl yn ymwneud ag...
-
Swyddog Cyswllt Porth I’r Teulu X 2
10 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...
-
Swyddog Cyflawni Prosiectau Tgch
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...