Swyddog Cymorth

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm Cyllid o fewn Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd.

Mae'r tîm Cyllid yn cefnogi Priffyrdd, Trafnidiaeth a Gorfodi Parcio Sifil,
**Am Y Swydd**
Bod yn atebol i’r Arweinydd Tîm/Is-adran am:
Monitro, dyrannu ac adrodd ar weithgaredd ariannol Trafnidiaeth, Priffyrdd a GPS.

Rheoli anghenion gweinyddol cyffredinol Cyllid CTA, gan gynnwys codi archebion prynu, biliau allanol a thalu anfonebau, darparu cyngor a chefnogaeth ar weithdrefnau a rheoliadau ariannol y Cyngor.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig tystiolaeth ei fod wedi gweithio gyda systemau ariannol (SAP yn ddelfrydol) a dealltwriaeth o reolaethau a gweithdrefnau ariannol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn drefnus ac yn frwdfrydig gydag agwedd o allu gwneud ac yn cael eich gyrru i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gan arddangos y cymwyseddau ymddygiadol craidd sy'n cefnogi gwerthoedd y Cyngor.

Bydd gennych y gallu i ddadansoddi a byddwch yn drefnus gyda llygad craff am fanylion.

Bydd gennych y gallu i holi gwybodaeth, nodi anghysondebau a bod yn rhagweithiol wrth gael atebion posibl.

Byddwch yn hyderus gyda phobl ac mae gennych ddawn ar gyfer dysgu.

Byddwch yn gyfforddus yn gyrru gwelliannau ac yn defnyddio technoleg i hwyluso hyn.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae datblygu parhaus yn cael ei gydnabod gan y Cyngor fel dull hanfodol er mwyn cynnal safonau uchel o ddarpariaeth gwasanaeth yn ogystal â chyfranogiad cyflogeion.

Cyflog gydag adolygiadau cyflog blynyddol a dilyniant cynyddrannol. Ystod o fanteision i wella’r pecyn cyflog cyffredinol gan gynnwys amser fflecsi, hawl awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Lywodraeth Leol, fel sy'n briodol. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar becyn gwyliau blynyddol helaeth ynghyd â manteision eraill.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Pauline Jefferies ar:
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00364

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Systemau yn y gwasanaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Systemau yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu systemau TG yn effeithiol ac am ddarparu gwybodaeth ystadegol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Trawsnewid Digidol yn gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Cymorth Systemau sy'n gyfrifol am ddatblygu a rheoli technolegau newydd yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymroddgar i weithio yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai i helpu cleientiaid sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Y prif amcan fydd atal digartrefedd a chefnogi unigolion a theuluoedd i sicrhau llety. **Am Y Swydd** - Gweithio gyda landlordiaid y sector preifat ac asiantau gosod i adeiladu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...

  • Cardiff, United Kingdom One Voice Wales Full time

    **Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw a Swyddog Cefnogi** **Lleoliad**:Caerdydd / Gweithio gartref yn bennaf **Cyflog **£33315 yf (Codiad cyflog yn yr arfaeth) - Gweithio gartref **Math o swyddi**:Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol (Tan 31 Mawrth2026) Mae Un Llais Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw a Swyddog Cefnogi Prosiect...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae uned Gwasanaethau 24/7 Cyngor Caerdydd yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau Categori 2, sydd wedi’i hachredu gan ISO a’r Bwrdd Archwiliadau Systemau a Larymau Diogelwch (BASLD) / ystafell reoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) sy’n defnyddio detholiad o dechnoleg i sefydlu trawsyriant gyda safleoedd ledled y ddinas ac yn...

    **Am Y Gwasanaeth** Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol: - Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig - Mynediad at Raglenni Rhianta - Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu. Gofal...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth busnes o ansawdd uchel i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae tîm canolog Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn darparu cymorth busnes a galluogi i fabwysiadu ledled Cymru. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cenedlaethol bach a'i...

  • Swyddog Gweinyddol

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...

  • Swyddog Gweinyddol

    2 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Swyddog Arweiniol

    2 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Swyddog Llety a Reolir

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cefnogi unigolion sy'n chwilio am waith neu sydd am uwchsgilio. Mae'r tîm wedi'i wasgaru ar draws y ddinas yn cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth un i un wedi’i bersonoli, ym maes cyflogaeth, hyfforddiant, dysgu neu...