Swyddog Cymorth Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

3 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol:

- Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig
- Mynediad at Raglenni Rhianta
- Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu.

Gofal plant rhan-amser i blant 2-3 oed

**Am Y Swydd**
Ydych chi'n unigolyn brwdfrydig sy'n gallu cyflawni pethau? Os felly, gallech fod y Swyddog Cymorth Lleoliadau nesaf.

Bydd y Swyddog Cymorth Lleoliadau Gofal Plant yn gyfrifol am:

- Gynllunio, trefnu a darparu gwasanaeth lleoliadau effeithiol yn unol â gofynion y Cyngor, Canllaw Llywodraeth Cymru a gofynion statudol.
- Cefnogi’r gwaith o gasglu, monitro ac adolygu data er mwyn cynnig gwybodaeth mewn perthynas â darparu lleoliadau.
- Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf o ran ymholiadau mewn perthynas â lleoliadau.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl bolisïau, gweithdrefnau, deddfwriaeth a gofynion statudol sy’n ofynnol.

Mae llawer o'n timau wedi symud i weithio hybrid - mae hyn yn golygu gweithio ar-lein a gweithio gartref yn ogystal â gwaith swyddfa. Pan fydd angen gweithio gartref, byddwch yn cael yr offer angenrheidiol, ond bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad eich hun â’r rhyngrwyd. Fel rhan o'r rôl hon, bydd disgwyl i chi ymweld yn rheolaidd â'r Lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg.

Mae dwy swydd ar gael: un llawn amser (37 awr yr wythnos), un rhan-amser (22.2 awr yr wythnos), o ddydd Llun i ddydd Gwener a dros dro tan 31 Mawrth 2025. Nodwch ar eich cais pa un o'r rolau hyn yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg yn dibynnu arnom i ddarparu'r lleoliad gofal plant y mae gan eu plentyn hawl iddo. Rydym yn chwilio am unigolion a all:

- weithio’n effeithiol gydag ystod o gydweithwyr a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- ystyried amrywiaeth o opsiynau er mwyn datrys problemau yn effeithiol a gwneud penderfyniadau rhesymol.
- rheoli eu llwyth gwaith eu hunain mewn amgylchedd prysur a chyflym.
- dangos y gallu i flaenoriaethu a gorffen gwaith yn unol â therfynau amser.
- arwain eraill i gyflawni pethau.
- defnyddio ystod o raglenni technolegol, yn benodol Outlook, Word ac Excel.

Mae’r swydd hon:

- yn gofyn am hyblygrwydd.
- yn gofyn am y gallu i deithio ar hyd a lled Caerdydd yn ymweld â lleoliadau, a mynediad i gerbyd.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl drwy roi enghreifftiau yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth wneud cais am y swydd uchod.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02904

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi dod o amrywiaeth o opsiynau sydd wedi’u profi i ysgogi canlyniadau gwell i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys: - Gofal plant rhan...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant. Mae'r swydd ran amser, dros dro hon yn cael ei hariannu tan 31. Mai 2025 ar hyn o bryd. Byddwch yn rhan o Dîm Cymorth Busnes Gofal Plant sefydledig sy'n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno cyfle newydd cyffrous o fewn y gwasanaethau plant yng Nghaerdydd. Rydym yn lansio tîm y tu allan i oriau sy'n chwilio am weithwyr ymyrraeth pwrpasol i ddarparu cefnogaeth hanfodol i blant a theuluoedd yn ystod cyfnodau o angen. Rydym yn deall y gall heriau godi ar unrhyw adeg, ac mae angen eich help arnom...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r gwasanaeth** Yng Nghaerdydd credwn y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn cydnabod bod canlyniadau ar eu gorau i blant pan dderbyniant gefnogaeth er mwyn tyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau, gan fod teuluoedd yn deall eu plant hwy eu hunain. Dyma’ch cyfle i ymuno ag un o’r...

  • Swyddog Effro’r NOS

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio tîm newydd o weithwyr Gofal Plant Preswyl ar gyfer ein cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith....

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Rôl** Gan weithio yn unol â’n datganiad o ddiben, byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am redeg y sefydliad yn esmwyth a diogel gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwasanaeth sensitif sy'n bodloni eu hanghenion cymdeithasol, hiliol, seicolegol, addysgol, diwylliannol ac o ran eu hunaniaeth gorfforol a'u hanghenion gofal...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...

  • Swyddog Effro’r NOS

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Gweithiwr Cymorth

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i staff weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol ac Allanol** **Teitl y Swydd**:Swyddog Llesiant Gweithredol (Prentisiaid Iau)** **Contract**:Llawn amser, Tymor Penodol hyd at Gorffennaf 2024** **Cyflog: £25,930 - £28,143 y flwyddyn** **Lleoliad: Caerdydd a'r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Swyddog Llesiant Gweithredol wedi'i leoli o fewn y tîm Diogelu a Llesiant...