Swyddog Cymorth Busnes

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant.

Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am Swyddog Cymorth Busnes a’i rôl fydd canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddatblygu, cynnal a chadw a chyfathrebu ar gyfer ein llwyfan 'Beth Nesaf? Caerdydd’. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cymorth gweinyddol ehangach ar draws prosiectau ychwanegol sy'n rhan o flaenoriaeth Llwybrau Dysgu y Fenter.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gartref yn bennaf ond bydd angen iddo fynd i Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, CF10 4UW a lleoliadau eraill ledled Caerdydd weithiau.

**Am Y Swydd**
Ydych chi’n meddu ar y canlynol
- Angerdd am lwyfannau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol?
- Diddordeb mewn datblygu a chynnal a chadw gwefannau?
- Diddordeb mewn cyfathrebu a marchnata?
- Dawn greadigol a sylw ar fanylion?
- Dealltwriaeth o negeseuon cyfryngau cymdeithasol "ar duedd" a llwyfan digidol?
- Brwdfrydedd dros gefnogi plant a phobl ifanc Caerdydd?
- Y gallu i siarad Cymraeg?

Yn y rôl Swyddog Cymorth Busnes hon, byddwch yn cefnogi'r Swyddog Ôl-16 i ddatblygu a chynnal ein llwyfan 'Beth Nesaf? Caerdydd’. Bydd hyn yn cynnwys archwilio cynnwys, ychwanegu, dileu a threfnu cynnwys, a sicrhau bod pob agwedd ar y wefan yn parhau i fod yn weithredol. Ar brydiau, bydd gofyn i chi gysylltu â rhanddeiliaid i gasglu cynnwys newydd a hyrwyddo eu defnydd o'r llwyfan.

Byddwch hefyd yn cefnogi ein gwasanaeth drwy ddysgu cyfathrebu negeseuon ar draws y cyfryngau cymdeithasol drwy greu ac amserlennu negeseuon, ail-rannu negeseuon gan bartneriaid Addewid Caerdydd a chwarae rhan wrth weithredu ymgyrchoedd marchnata wedi'u targedu fel rhan o'n strategaeth cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Busnes sy'n greadigol, yn arloesol, yn ddyfeisgar ac yn rhywun sy'n gallu dysgu defnyddio llwyfannau dylunio graffig fel Canva i frandio negeseuon a dogfennau fformat y gellir eu rhannu'n fewnol ac yn allanol i'r Cyngor. Mae angen i chi fod yn berson brwdfrydig ac yn barod i gyfrannu syniadau ar sut i hyrwyddo Addewid Caerdydd.

Byddwch hefyd yn darparu cymorth drwy weithredu a chynnal systemau gweinyddol, ac ar adegau, bydd disgwyl i chi hefyd fynychu cyfarfodydd mewn swydd arsylwadol a darparu nodiadau manwl ar gyfer aelodau eraill y tîm. Mae cyfle hefyd i ddatblygu eich sgiliau ymchwil drwy nodi darpariaeth a chyfleoedd newydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant i bobl ifanc 16-24 oed yng Nghaerdydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein Swyddogion Cymorth Busnes yn ennill profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Dylech deilwra eich cais i'r rôl a nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf. Peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o roi’r wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

I gefnogi eich cais neu gyfweliad posibl yn y dyfodol efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael gwybod ychydig mwy am rôl ehangach Addewid Caerdydd drwy ein dilyn ar Twitter, Facebook, Instagram, a LinkedIn.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00642



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau TG rhagorol i ymuno â'r Tîm Trawsnewid Digidol fel Swyddog Cymorth Systemau yn y gwasanaeth Oedolion, Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Cymorth Systemau yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu systemau TG yn effeithiol ac am ddarparu gwybodaeth ystadegol...

  • Swyddog Gweinyddol

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    Cymraeg:Rydym yn Cyflogi: Swyddog GweithrediadauMae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth symud Cymdeithas Ddysgedig Cymru ymlaen: a sicrhau ein bod ni'n gweithredu ar ein gorau - fel sefydliad effeithiol, proffesiynol, sydd wedi'i lywodraethu'n dda - fel y gallwn gyflawni ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol newydd er budd Cymru. Mae ein...


  • Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Remote Work Freelance Full time

    Cymraeg: Rydym yn Cyflogi: Swyddog Gweithrediadau Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth symud Cymdeithas Ddysgedig Cymru ymlaen: a sicrhau ein bod ni’n gweithredu ar ein gorau - fel sefydliad effeithiol, proffesiynol, sydd wedi'i lywodraethu'n dda - fel y gallwn gyflawni ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol newydd er budd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau’r Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Swyddog Gweinyddol Llawn-amser ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol: - Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig - Mynediad at Raglenni Rhianta - Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu. Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Cymorth Busnes

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel rhan o'r rôl Cymorth...

  • Swyddog Arweiniol

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen i drigolion Caerdydd. Rydym yn prosesu ceisiadau trwyddedau parcio preswylwyr, ceisiadau bathodynnau anabl ac yn prosesu hysbysiadau tâl cosb. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu’r cynllun parcio i breswylwyr yn effeithlon a rhoi cymorth gweinyddol yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...