Cymorth Busnes

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Fel rhan o'r rôl Cymorth Busnes, bydd dyletswyddau’n cynnwys ystod eang o dasgau gweinyddol, gan gynnwys delio â gwybodaeth gyfrinachol, prosesu hawliadau arian mân a defnyddio prif gronfa ddata'r Gwasanaethau Plant - Carefirst. Dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol a gallu gweithio gyda systemau TG.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddai profiad o weithio mewn swyddfa o fudd ond nid yw’n hanfodol. Dylech chi feddu ar sgiliau prosesu geiriau cywir (35 gair y funud) a gallu gweithio dan bwysau i fodloni terfynau amser. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus agwedd gadarnhaol a bydd yn gallu perfformio mewn lleoliad gwaith prysur. Bydd gofyn i chi weithio'n hyblyg er mwyn ymateb yn gadarnhaol i amgylchedd sy'n newid yn gyflym ac unrhyw heriau sy'n dod i'r amlwg.

Bydd hon yn rôl heriol ond hefyd yn rôl werthfawr fydd yn cynnwys cyfrannu at waith y Gwasanaethau Plant gan wneud gwahaniaeth i fywydau plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Cyflwyno Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02907



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth busnes o ansawdd uchel i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae tîm canolog Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn darparu cymorth busnes a galluogi i fabwysiadu ledled Cymru. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cenedlaethol bach a'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes Gofal Plant. Mae'r swydd ran amser, dros dro hon yn cael ei hariannu tan 31. Mai 2025 ar hyn o bryd. Byddwch yn rhan o Dîm Cymorth Busnes Gofal Plant sefydledig sy'n rhoi cyngor, cymorth ac arweiniad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i weithio gyda'r Tîm Cymorth Busnes i helpu i roi cymorth busnes i dîm rheoli’r Gwasanaethau 24/7. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Teleofal, Pryd ar Glud a'r Ganolfan Derbyn Larymau. **Am Y Swydd** - Helpu i gyflawni rôl weinyddol amlswyddogaethol ar gyfer y Gwasanaeth yn ôl yr angen. - Cynorthwyo â’r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol (37 awr yr wythnos) llawn-amser yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth gweinyddol i’r gwasanaeth a’r rheolwr ac yn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth. **Beth Rydym Ei...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol (37 awr yr wythnos) llawn-amser yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhoi cymorth gweinyddol i’r gwasanaeth a’r rheolwr ac yn cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth. **Beth Rydym Ei...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r gwasanaeth** Yng Nghaerdydd credwn y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn cydnabod bod canlyniadau ar eu gorau i blant pan dderbyniant gefnogaeth er mwyn tyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau, gan fod teuluoedd yn deall eu plant hwy eu hunain. Dyma’ch cyfle i ymuno ag un o’r...


  • Cardiff, United Kingdom Welsh National Opera Full time

    ** BI-LINGUAL TEXT - PLEASE SCROLL DOWN FOR ENGLISH ** **Partner Busnes Cyllid** Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dysgu a Datblygu** **Contract**:29.6 awr yr wythmos (0.8 FTE), Parhaol** **Cyflog: £31,828 - £33,948 y flwyddyn (£25,462 - £27,158 pro rata)** **Lleoliad: Caerdydd a'r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Hyfforddwr Dysgu a Datblygu wedi'i leoli ar ein Campws Canol y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran statudol, addysg mewn chweched dosbarthiadau ysgolion & gwasanaeth ieuenctid. Mae 128 o ysgolion yng Nghaerdydd sy’n cynnwys 3...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth x 2 **Contract**: Llawn amser, Parhaol **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro **Cyflog**: £21,030 - £22,469 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y...


  • Cardiff, United Kingdom Venture Graduates Full time

    **LOCATION**: Cardiff **EMPLOYER NAME**: spire renewables **APPLICATION DEADLINE**: 13/08/2023 **SALARY**: 21k/year - 21k/year **Great opportunity for a Graduate to become part of Spire Renewables: a fast-growing MCS accredited Renewable Energy Company based in Taff’s Well, Cardiff who design, supply and commission Air, Ground and Water Source Heat...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ond hefyd yn cynnig mynediad rhwydd i arfordir a chefn gwlad gwych ardal de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel gyda...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Gynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol brwdfrydig a phrofiadol neu'n Weithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol, neu’n dod o gefndir gwaith tebyg ac yn barod i ddatblygu eich gyrfa? Mae cyfle unigryw wedi codi i Uwch Gynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol ymuno â'r Tîm ThG Cymunedol sydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Rhyddhau...