Swyddog Ansawdd a Sicrwydd Data

4 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran statudol, addysg mewn chweched dosbarthiadau ysgolion & gwasanaeth ieuenctid.

Mae 128 o ysgolion yng Nghaerdydd sy’n cynnwys 3 ysgol feithrin, 99 ysgol gynradd, 18 ysgol uwchradd, 7 Ysgol arbennig & 1 Uned Atgyfeirio Disgyblion.

Mae 53,715 o ddysgwyr ar gofrestr ysgol o’r dosbarth Meithrin i Flwyddyn 11 Cwricwlwm Cenedlaethol (oedrannau 3 - 16) a 3,280 o ddysgwyr ar y gofrestr ôl 16. Ym mis Ionawr 2023, roedd cyfanswm o 56,995 o ddysgwyr mewn ysgolion Caerdydd. Mae hefyd 338 o ddysgwyr Addysg Heblaw yn yr Ysgol ychwanegol, 308 cyn 16 a 30 ôl-16.

Rhennir gwaith y Gyfarwyddiaeth yn bedwar maes gwasanaeth Cyflawniadau, Cynhwysiant, Gwasanaethau i Ysgolion & Ad-drefnu, Mynediad a Chynllunio Ysgolion.

Mae pob un o’r rhain yn ateb diben cyffredinol gwella cyflawniad dysgwyr. Mae’r Gyfarwyddiaeth hefyd yn comisiynu Consortiwm Canolbarth y De i ddarparu Gwasanaethau Gwella Ysgolion i bob un o’i hysgolion.
**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Tîm Systemau Gwybodaeth arloesol a rhagweithiol i gefnogi’r gwaith o ddigideiddio gwasanaethau ac ysgogi newid diwylliannol yn y ffordd y mae systemau rheoli gwybodaeth yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddiaeth Addysg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda rheolwyr a staff drwy’r Gyfarwyddiaeth gyfan, ynghyd â'n Hysgolion, i gefnogi’r gwaith o gynnal a datblygu systemau data a rheoli gwybodaeth craidd er mwyn darparu gwybodaeth o ansawdd uchel a gwybodaeth am berfformiad, a sicrhau ansawdd a dibynadwyedd data sy'n cael ei ddefnyddio o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes. Mae cyfleoedd datblygu proffesiynol gwych yn rhan o'r swydd hon.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg yn chwilio am swyddog profiadol ac arloesol i gefnogi’r gwaith o drawsnewid prosesau busnes a systemau rheoli gwybodaeth; gan roi’r gwybodaeth ac arbenigedd technegol i sicrhau cywirdeb ansawdd data wrth gasglu a storio data a’r dulliau adrodd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda rheolwyr, staff, yr adran TGCh ac Ysgolion i sicrhau a gwella llif cywirdeb data yn y System Rheoli Addysg ganolog er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn ddefnyddiwr cymwys o ran cronfeydd data ac offer adrodd, bod yn llawn cymhelliant a gallu nodi a datrys problemau er mwyn cyflawni atebion cadarnhaol, yn ogystal â gallu i roi sylw i fanylion at lefel uchel.

Dyma swydd allweddol sy’n ganolog i gyflawni cynlluniau gwella rheoli gwybodaeth yn y Gyfarwyddiaeth.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Rodel Currie, y Rheolwr Systemau Gwybodaeth ar 07974 597355.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00768

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerdydd yn chwilio am Reolwr Sicrwydd Ansawdd i arwain ar y gwaith gweithredu: Strategaeth Sicrwydd Ansawdd ac Archwilio ar gyfer Gwasanaethau Plant ac Oedolion Prosesau Sicrwydd Ansawdd cadarn ar draws y Gyfarwyddiaeth. **Am Y Swydd** Yn y rôl o Reolwr Sicrwydd Ansawdd byddwch yn ymuno â thîm ymroddgar...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael i unigolyn ymroddedig ymuno â’n Gwasanaeth Byw’n Annibynnol. Mae'r Gwasanaeth yn dîm amlddisgyblaeth sy'n cefnogi oedolion i aros yn annibynnol gartref ac aros yn rhan o’u cymuned, gan alluogi pobl i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. **Am Y Swydd** Y Rheolwr Sicrwydd Ansawdd sy'n gyfrifol am...

  • Swyddog Ansawdd

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12185** **Teitl y Swydd**:Swyddog Ansawdd** **Cytundeb: Llawn amser parhaol** **Oriau: 37** **Lleoliad: Campws Canol y Ddinas** **Cyflog: £29,057 - £31,036 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ansawdd yn ein hadran Ansawdd, Dysgu ac Addysgu yn y coleg. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brosiectau cyflogadwyedd a ariennir yn...

  • Aseswr Adeiladu

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Ref: 11576** **Teitl y Swydd: Aseswr Adeiladu / Sicrwydd Ansawdd Mewnol** **Contract: Amser llawn, parhaol** **Cyflog**:£30,313 - £32,313** **Lleoliad**:Coleg Caerdydd a’r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a fydd yn cefnogi dysgwyr yn y gweithle i gyflawni fframweithiau perthnasol....

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y gwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau i recriwtio Swyddog Datblygu yn y Ganolfan Achredu (SDCA) Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achredu sefydledig sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno a chefnogi rhaglenni hyfforddi i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae...

  • Cardiff, United Kingdom One Voice Wales Full time

    **Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw a Swyddog Cefnogi** **Lleoliad**:Caerdydd / Gweithio gartref yn bennaf **Cyflog **£33315 yf (Codiad cyflog yn yr arfaeth) - Gweithio gartref **Math o swyddi**:Llawn Amser, Contract Cyfnod Penodol (Tan 31 Mawrth2026) Mae Un Llais Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect Argyfwng Costau Byw a Swyddog Cefnogi Prosiect...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 5 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...

  • Swyddog RHestr Aros

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu Uned Dyraniadau ac Ailgartrefu hygyrch o ansawdd uchel. Mae gan y Gwasanaeth swydd wag ar gyfer un Swyddog Rhestr Aros dros dro llawn amser ar hyn o bryd. **Am Y Swydd** Prif swyddogaethau’r swydd fydd cynorthwyo â gweinyddu’r Rhestr Aros Gyffredin ar gyfer tai cymdeithasol, gan fewnbynnu ac asesu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Swyddog Llety a Reolir

    2 months ago

  • Swyddog Hyb

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12197** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cefnogi Prosiectau** **Contract: Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cefnogi Prosiectau yn adran Prosiectau a Chyllid Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymroddgar i weithio yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai i helpu cleientiaid sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Y prif amcan fydd atal digartrefedd a chefnogi unigolion a theuluoedd i sicrhau llety. **Am Y Swydd** - Gweithio gyda landlordiaid y sector preifat ac asiantau gosod i adeiladu...