Swyddog Llety a Reolir

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol:

- Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol
- Gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw
- Gwasanaethau Cymorth

Mae'r gwasanaeth yn ffordd newydd o fodloni anghenion y rheiny sydd angen llety, gan greu cyfle cyffrous i unigolion ymuno â'r tîm wrth i'r gwasanaeth ddatblygu a thyfu yn y dyfodol.

**Ynglŷn â’r swydd**
Rydym am recriwtio Swyddog Llety a Reolir i weithio yn ein Gwasanaeth Llety a Reolir newydd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am y canlynol:
Sicrhau effeithlonrwydd wrth Reoli Tai

Sicrhau y cedwir at Iechyd a Diogelwch a Chynnal a Chadw Adeiladau

Darparu ymyrraeth fer i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu cefnogi

Ceir holl fanylion Rôl a Diben y Swydd yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person wedi’u hatodi.

**Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi**
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos gallu ac awydd i weithio gyda phobl sydd wedi profi digartrefedd a dylai fod ganddo ddealltwriaeth gadarn o ddarparu Gwasanaethau Cymorth o fewn cyd-destun Amlddisgyblaethol.

Byddwch yn berson llawn cymhelliant, gan ddangos ymrwymiad i'r gwasanaeth gyda'r gallu i feithrin perthynas gadarnhaol â sefydliadau mewnol a phartner.

Byddwch yn gallu dangos eich bod yn ddeinamig, yn frwdfrydig ac yn greadigol a bydd dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu unigolion digartref o fantais.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd aros yn ddigyffro dan bwysau, cynnal a datblygu ei wybodaeth am ddeddfwriaeth a chyflwyno mentrau a gweithdrefnau newydd i hyrwyddo safonau ar draws y gwasanaeth.

**Gwybodaeth ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd y rôl hon yn rhan o rota ar alw, y tu allan i oriau swyddfa arferol.

Mae trwydded yrru ddilys a llawn, a defnydd o’ch cerbyd eich hun yn un o ofynion hanfodol y swydd hon.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Job Reference: PEO02739



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth ac Adran Asesu Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed y mae angen tai arnynt. Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Oherwydd pandemig Covid19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i bobl sengl sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau'n rhedeg 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn ac oherwydd newidiadau diweddar mae ein gwasanaeth wedi ehangu i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein darpariaeth. **Am Y...

  • Swyddog Llety

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig reoli tîm o Swyddogion Llety sy'n helpu cleientiaid y mae angen llety dros dro a chymorth arnynt. Mae hwn yn wasanaeth heriol a chyflym - mae'r tîm yn ymdrin â heriau dyddiol i sicrhau y darperir llety i gleientiaid sy'n agored i niwed. **About the job** Mae'r galwadau ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed y mae ganddynt anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o ehangu’r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Gan fod y rôl hon yn rhan o ailstrwythuro, rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr Cyngor Caerdydd gan gynnwys gweithwyr Caerdydd ar Waith a gweithwyr asiantaeth eraill sy'n gweithio i'r Cyngor.** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Welsh Headings

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Oherwydd y pandemig Covid19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd...

  • Swyddog Asesu

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** **Ynglŷn â’r swydd** Bydd Swyddogion Asesu yn cynnal asesiadau digartrefedd ar sail argyfwng, ac yn cwblhau atgyfeiriadau ar gyfer llety fel y bo'n briodol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal ymchwiliadau ac asesiadau ar gleientiaid sy'n dweud eu bod yn ddigartref ar y diwrnod, a rhoi cyngor ac atebion tai pwrpasol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Sport Wales Full time

    **_ADMINISTRATIVE OFFICER - PART TIME_** **_DEPARTMENT AND SALARY_** Department - Customer Services Salary - Grade 3 (£23,258.00 - £24,154.31 per annum, pro-rata) Working Hours - 30 hours (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy) **_WHO WE ARE_** Sport Wales is the national organisation...