Cadeirydd Amddiffyn a Diogelu Plant

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.**

Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych brofiad perthnasol o weithio gyda a deall rolau Swyddog Adolygu Annibynnol a chadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn Plant. Dylech hefyd allu dangos sgiliau cadeirio ac adolygu cynlluniau gofal.

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfder, gan ddefnyddio Arwyddion Diogelwch. Mae gwybodaeth a phrofiad o'r dull hwn yn hanfodol, ond darperir hyfforddiant.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn angerddol a chreadigol ymuno â'n Hyb Adolygu newydd. Mae'r Hyb Adolygu yn dwyn ynghyd ein Gwasanaeth Diogelu ac Adolygu sefydledig, yn ogystal â gwasanaethau adolygu pwysig eraill. Mae swyddogaethau allweddol yr Hyb yn cynnwys y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, Cynadleddau Amddiffyn Plant, Adolygiadau Cynllun Gofal a Chymorth yn ogystal â swyddogaethau Diogelu pwysig eraill.

Mae’r Swyddog Adolygu Annibynnol a Chadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn Plant yn rôl ddeuol, lle byddwch yn gyfrifol am adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth Plant sy'n Derbyn Gofal, yn ogystal â chadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant. Mae cyfleoedd i weithio'n hyblyg yn unol â pholisi gweithio hyblyg Caerdydd.

Mae Rheoliadau Lleoli Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 yn gofyn bod SAA yn cadeirio adolygiadau o blant sydd mewn lleoliad mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei roi; yn Derbyn gofal sy’n destun gorchymyn statudol neu mewn llety gyda chaniatâd rhiant a Phobl ifanc mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc sy’n destun Gorchymyn Gofal neu ar remánd fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol a Deddf Cosbi Troseddwyr 2012 (LASPO 2012)

Mae dealltwriaeth o 'Ganllawiau Safonau Ymarfer ac Arferion Da' AFA Cymru a Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn amlinellu ymhellach swyddogaeth y SAA a Chadeirydd y Gynhadledd Amddiffyn Plant.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Prif ddyletswyddau deiliad y swydd fydd sicrhau eich bod yn canolbwyntio ar anghenion plant a sicrhau yr eir i’r afael â nhw, lleihau drifftio a gwirio cysondeb cynllunio gofal a phrosesau penderfynu.

Dylech fod yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol cofrestredig, bod â phrofiad o weithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â’r gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynau amser ac amserlenni caeth. Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu da yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Treena Morris drwy ffonio ffôn 029 22330900 / **_07971979986_**.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Rydym yn dîm sy’n dda i deuluoedd, sy’n hyrwyddo gweithio’n hyblyg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Cyflwyno Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO03215

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...

  • Uwch Swyddog Polisi

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r rôl Uwch Swyddog Polisi hwn wedi'i leoli ar draws ein Tîm Diogelu Strategol yng Nghyngor Caerdydd. Mae'r tîm Diogelu Strategol yn bodoli i hwyluso cydweithio ar draws adrannau a’r ddinas i gyflawni ein blaenoriaethau diogelu, i ddarparu llwyfan ar gyfer arloesi drwy gyflawni prosiectau gwella â blaenoriaeth, i nodi a rhannu...

  • Uwch Swyddog Polisi

    15 hours ago

  • Rheolwr Cofrestredig

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol. Mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...

  • Cymorth Busnes

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad gweinyddol, a hoffai gynorthwyo tîm yr hyb ymyriadau gan gynnwys gwasanaethau Ar Ffiniau Gofal a Chymorth i Deuluoedd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm prysur yn Stryd Neville, Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel rhan o'r rôl Cymorth...

  • Cogydd Cynorthwyol

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Bydd y...

  • Cogydd Cynorthwyol

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Wedi...

  • Swyddog Effro’r NOS

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...

  • Swyddog Effro’r NOS

    16 hours ago

  • Cynorthwyydd Dysgu

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, iechyd meddwl a chymdeithasol. **Am Y Swydd** Mae Bryn y Deryn yn darparu addysg a lles i ddysgwyr gydag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol heriol. Mae Canolfan Carnegie yn darparu addysg a lles i...

  • Cogydd Arweiniol

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Bydd y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...

  • Cogydd Cynorthwyol

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Yn...

  • Cogydd Arweiniol

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Ynglŷn...

  • Cogydd Arweiniol

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Wedi...