Uwch Swyddog Polisi

3 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r rôl Uwch Swyddog Polisi hwn wedi'i leoli ar draws ein Tîm Diogelu Strategol yng Nghyngor Caerdydd.

Mae'r tîm Diogelu Strategol yn bodoli i hwyluso cydweithio ar draws adrannau a’r ddinas i gyflawni ein blaenoriaethau diogelu, i ddarparu llwyfan ar gyfer arloesi drwy gyflawni prosiectau gwella â blaenoriaeth, i nodi a rhannu arfer effeithiol ac i gefnogi arfer a arweinir gan ddata drwy ddadansoddiadau o ansawdd uchel ac adroddiadau mewnwelediad.

Er mwyn cyflawni'r gwaith yn llwyddiannus, yn dilyn ehangu rhaglen waith y tîm, rydym am ehangu’r tîm ac yn chwilio am Uwch Swyddog brwdfrydig i ymuno â'n tîm ac i gyfrannu at waith ein tîm i wella'r canlyniadau a'r profiad i blant ac oedolion sy’n agored i niwed ym mhrifddinas Cymru.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â'r tîm wrth i ni weithio i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel yn ein dinas ac wrth i’r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid gyflawni eu cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol i gadw pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed yn ddiogel rhag niwed.

**Am Y Swydd**
Mae gan y tîm Diogelu Strategol raglen waith amrywiol a chyffrous, sy'n darparu ymchwil, prosiectau ar y cyd ac eiriolaeth polisi i gefnogi Cyngor Caerdydd, gwasanaethau plant a chymorth yn y ddinas.

Yn ogystal, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau allweddol sydd â’r nod o gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ac o sefydlu dull cyd-destunol o ddiogelu ledled y Ddinas.

Byddwch yn gweithio’n rhan o'r adran Diogelu Strategol, yn rheoli tîm bach, i gydlynu'r gwaith o weithredu a chyflawni ein hamcanion allweddol er mwyn cyflawni ein dyletswyddau diogelu corfforaethol fel awdurdod.

Byddwch yn cefnogi cyfarwyddiaethau ym mhob rhan o’r Cyngor i gyflawni hyn gan weithio i ddatblygu pob maes o'r cynllun cyflawni gan gynnwys hyfforddiant, cyfathrebu, codi ymwybyddiaeth, gwerthuso a sicrhau'r defnydd gorau o ddata.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o:

- Ddatblygu mecanweithiau clir i wella, ymwreiddio a monitro prosesau hunanarfarnu diogelu corfforaethol. Cefnogi gwasanaethau ym mhob rhan o’r Cyngor i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd a meysydd i'w gwella mewn perthynas â'u cyfrifoldebau diogelu corfforaethol ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed.
- Casglu blaenoriaethau a datblygu a mynegi cyfeiriad strategol yr awdurdod lleol a phartneriaid i ymateb i faterion allweddol drwy ddull cyd-destunol o ddiogelu.
- Datblygu ffyrdd o fonitro a gwerthuso cynnydd.
- Cynnal a datblygu perthynas â rhwydwaith amrywiol o randdeiliaid.
- Datblygu ffyrdd o sicrhau bod llais a phrofiad bywyd plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu hymgorffori'n systematig wrth ddatblygu a gweithredu strategaeth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae hwn yn gyfle i ymgeisydd brwdfrydig a llawn cymhelliant sydd â diddordeb yn y maes hwn.

Mae eich agwedd gadarnhaol, eich brwdfrydedd dros gyflawni'r canlyniadau gorau i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'r gallu i drefnu eich gwaith yn effeithiol yn bwysicach na phrofiad mewn rôl debyg.

Fodd bynnag, hoffem weld eich bod yn gyfarwydd â gwaith prosiect, y sector cyhoeddus a rôl y Gwasanaethau Plant ac Oedolion a llywodraeth leol (er nad oes angen profiad arnoch o weithio yn y sector cyhoeddus) a'ch gallu i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig o ansawdd uchel.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gallu gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd cyflym a blaenoriaethu ei waith yn effeithiol.

Mae gan ein tîm ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol a byddwch yn cael eich annog i gymryd rhan mewn hyfforddiant perthnasol, i feithrin eich sgiliau ac i wella eich arbenigedd i lwyddo yn y rôl hon ac i gyflawni eich dyheadau gyrfaol.

Rydym yn croesawu ceisiadau o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol gan gynnwys y rhai sydd am drosglwyddo o'r sectorau preifat a gwirfoddol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd barhaol. Mae'n gyfle gwych i ymgeisydd addas ddatblygu ei yrfa.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais trwy'r post.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02632

  • Uwch Swyddog Polisi

    4 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r rôl Uwch Swyddog Polisi hwn wedi'i leoli ar draws ein Tîm Diogelu Strategol yng Nghyngor Caerdydd.Mae'r tîm Diogelu Strategol yn bodoli i hwyluso cydweithio ar draws adrannau a'r ddinas i gyflawni ein blaenoriaethau diogelu, i ddarparu llwyfan ar gyfer arloesi drwy gyflawni prosiectau gwella â blaenoriaeth, i nodi a rhannu arfer...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Yn gweithio yn y Tîm Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn yr adran Tai a Chymunedau, mae’r Swyddog Strategaeth Tai (Polisi) yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro Polisïau a Strategaethau Tai a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig **Am Y Swydd** Byddwch...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...

  • Uwch Swyddog Hyb

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson ymrwymedig â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych ymuno â’n tîm Datrysiadau Tai yn yr Hybiau ar draws y ddinas. **Am Y Swydd** Bydd yr Uwch Swyddog Hyb yn gyfrifol am: Cefnogi cwsmeriaid yn yr Hybiau i ymuno â'r rhestr aros am dai cymdeithasol, cynnal cyfweliadau cofrestru ar gyfer cwsmeriaid...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod.**Am Y Swydd**Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a Datblygu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o'r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd.Mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth ac Adran Asesu Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed y mae angen tai arnynt. Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Oherwydd pandemig Covid19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â'n tîm deinamig. Yn gweithio yn y Tîm Datblygu a Gwella Gwasanaeth yn yr adran Tai a Chymunedau, mae'r Swyddog Strategaeth Tai (Polisi) yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a monitro Polisïau a Strategaethau Tai a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig**Am Y Swydd**Byddwch yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd.Mae Rhieni yn Gyntaf yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Cymorth Cynnar Caerdydd....

  • Uwch Swyddog Cynghori

    3 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    2 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...