Uwch Swyddog Strategaeth a Datblygu

2 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod.
**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a Datblygu clodwiw a gynhelir gan Gyngor Caerdydd. Prif ffocws yr Uwch Swyddog Strategaeth a Datblygu fydd datblygu, cynnal a rheoli'r gwaith o gyflawni polisi lles (buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol, lleihau carbon, gwaith teg, a chaffael economi sylfaenol), gan gynnwys methodoleg, dogfennaeth, canllawiau a hyfforddiant priodol ar gyfer Cynghorau Ardal. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gefnogi Uwch Reolwyr ar draws Cynghorau Ardal a'n Timau Rheoli Categori gweithredol i sicrhau darparu’r lles gorau posibl drwy weithgarwch caffael Ardal.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym eisiau penodi unigolyn hunan-gymhellol fydd yn ddelfrydol â phrofiad o gaffael yn y sector cyhoeddus yn bennaf, er nad yw hyn yn hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn cael cymorth perthnasol o ran rheoli, hyfforddiant a chymorth tîm, trefniadau gweithio hyblyg, adolygiadau gan gymheiriaid a rhannu sgiliau i’w alluogi i lwyddo yn ei rôl a datblygu’n broffesiynol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar ddeiliad y swydd a bydd angen iddo ddangos ei fod yn gallu bodloni'r gofynion a'r profiad a nodir yn y Fanyleb Person. Mae prif gyfrifoldebau a gofynion y rôl yn cynnwys: - Datblygu, gweithredu a rheoli cyflwyno polisi lles caffael (buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol, lleihau carbon, gwaith teg, a chaffael economi sylfaenol), gan gynnwys methodoleg, dogfennaeth, canllawiau a hyfforddiant priodol ar gyfer Cynghorau Ardal*. *Ardal yw'r enw ar y gwasanaeth caffael sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd sy'n darparu gwasanaethau caffael i Gynghorau Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg - Cefnogi Timau Categori a Gwasanaethau i ymgorffori gofynion polisi lles caffael yn y broses dendro, cefnogi gwerthuso tendrau a monitro darpariaeth ac effaith. - Datblygu a darparu addysg a hyfforddiant polisi lles caffael i staff, cyflenwyr a chontractwyr y Cyngor a rhanddeiliaid eraill. - Goruchwylio a chydlynu'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol drwy weithio gyda rheolwyr contractau, cyflenwyr a chontractwyr, timau categori ac amrywiaeth o dimau'r Cyngor a all elwa a chefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau budd cymunedol a gwerth cymdeithasol. - Adrodd ar ddarparu ymrwymiadau buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol gan gynnwys cyhoeddi astudiaethau achos. - Ymgymryd ag ymchwil ar ystod o faterion sy'n ymwneud â chaffael er mwyn cefnogi datblygiad polisïau a gweithdrefnau lles caffael. - Arwain datblygiad adnoddau addysg, canllawiau a hyfforddiant ar-lein, a chyfathrebu ar gyfer pob agwedd ar y cylch caffael a gweithredu polisi.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Job Reference: RES01188

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed y mae ganddynt anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o ehangu’r...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth ac Adran Asesu Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed y mae angen tai arnynt. Mae ein gwasanaethau yn rhedeg 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Oherwydd pandemig Covid19, bu'n rhaid i'n gwasanaeth wneud newidiadau mawr a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel ymdrech hirdymor, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i seilio ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol, sy’n cwmpasu deg Awdurdod Lleol De-ddwyrain Cymru, sy’n addasu’n gyson i fynd i’r afael â heriau diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol mawr y dydd. Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol sydd newydd ei...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Arweinydd Grŵp

    6 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol ehangach megis ymateb i'r argyfwng hinsawdd a chynorthwyo gyda mentrau adfer ar ôl y pandemig. Mae hefyd yn arwain y gwaith o weithredu'r dull o greu lleoedd fel y'i nodwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ein swyddogaethau llunio polisïau a Rheoli Datblygu ac...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Uwch Swyddog Cynghori

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous...

  • Uwch Reolwr Prosiect

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mae Tîm y Rhaglen Drafnidiaeth a'r Tîm Teithio Llesol a Diogelwch Ffyrdd yn gyfrifol am gyflawni rhaglenni a phrosiectau allweddol sy'n gysylltiedig â Phapur Gwyn y Cyngor Gweledigaeth Trafnidiaeth. Mae'r prosiectau'n cynnwys datblygu canol y ddinas, llwybrau...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am Brif Swyddog Cynaliadwyedd (Bwyd) i ymuno â'n Tîm Ynni a Chynaliadwyedd sy'n tyfu yn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd. **Am Y Swydd** Yn ddiweddar, mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi Caerdydd Un Blaned, ei strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Mae gweledigaeth Caerdydd Un Blaned ar gyfer...

  • Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    This is an exciting opportunity to play a key role in taking the Learned Society of Wales forward: ensuring we are operating at our very best - as an effective, well-governed and professional organisation - so that we can deliver our ambitious new five year strategy to benefit Wales. This post would suit a proactive and organised governance professional who...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Menter genedlaethol / awdurdod lleol yw Maethu Cymru a’i nod yw cynyddu nifer y gofalwyr maeth awdurdod lleol. Ydych chi am ddefnyddio eich sgiliau i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc o fewn eich cymuned leol? **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Marchnata Rhanbarthol ddatblygu’r strategaeth...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o'n Prosiect Lluosi, sy'n rhan o'r Tîm Llwybr i Mewn i Waith. Nod Prosiect Lluosi yw cefnogi dinasyddion anodd eu cyrraedd i uwchsgilio, gan ganolbwyntio ar...

  • Swyddog Cyllid

    4 weeks ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag amser llawn ar gyfer uwch Swyddog Cyllid graddedig yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyfrifol am adfer ôl-ddyledion rhent ar gyfer ardal o'r ddinas a chymryd yr holl gamau adfer...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Comisiynu Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a gomisiynir yn allanol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy’n hysbys i, neu sy'n ymwneud â, Gwasanaethau Plant Caerdydd. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio gyda'r farchnad a'i datblygu i gynyddu nifer ac ansawdd y gwasanaethau sydd...