Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu.

Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â swyddogion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i sicrhau bod prosesau’r Cyngor yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data.

Bydd y swydd hon yn rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad yn y gweithle, yn ogystal â meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o’r gwaith a’r cyfrifoldebau sy’n rhan o weithio mewn Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd.

**Am Y Swydd**
Mae tîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor yn cynnig gwasanaeth mynediad i wybodaeth a gwasanaeth Rheoli Cofnodion a Diogelu Data i holl wasanaethau a dinasyddion y Cyngor.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gofnodi a phrosesu ceisiadau am wybodaeth dan y Ddeddf Diogelu Data, gan gynnwys chwilio am fideo o ran ceisiadau CCTV, creu adroddiadau ar gyfer y Swyddog Diogelu Data ynghylch y ddarpariaeth a chydymffurfiaeth gyda Diogelu Data ledled y Cyngor a chynorthwyo’r Uwch Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd a’r Swyddog Preifatrwydd a Sicrwydd gyda gweithredu dilynol yn sgil digwyddiadau ac adroddiadau sicrwydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.

Bydd angen i chi allu dadansoddi data a chydymdeimlo ag amgylchiadau cwsmeriaid a rhoi cyngor manwl gywir ac ystyrlon i gwsmeriaid, uwch swyddogion y cyngor ac aelodau eraill o’r tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd ar sail secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais trwy ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Bydd angen caniatâd gan y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, ar raddfa RhG2 o leiaf, neu gan y Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y swydd, cysylltwch â

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01120


  • Disgrifiad Swydd

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Ganolfan Gyswllt arobryn ac uchel ei pharch, yn cynnig ymateb sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i ymholiadau ynghylch ystod o wasanaethau’r Cyngor gan drigolion Caerdydd a defnyddwyr gwasanaeth eraill drwy sawl cyfrwng gan gynnwys dros y ffôn, cyswllt dros y we, sgyrsiau ar y we, SgyrsBot, e-bost, negeseuon llais a thestun. Os...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...

  • Rheolwr Cydymffurfio

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu...

  • Swyddog Cydymffurfio

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf a mwyaf medrus yng Ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth cynllunio yn cynnwys tri Thîm. Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu a Chreu Lle; a Rheoli Datblygu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd...

  • Athro Cynhwysiant

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau am addysg blynyddoedd cynnar, addysg oedran ysgol statudol, addysg mewn chweched dosbarth ysgolion ac opsiynau Ôl-16, yn ogystal â gwasanaeth ieuenctid.Mae gwaith y Gyfarwyddiaeth wedi'i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Addysgu Cymunedol yn gweithio gyda dysgwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r ysgol oherwydd iechyd ac amgylchiadau esgusodol. Mae'r tîm yn gweithio ar draws y ddinas mewn lleoliadau cymunedol ac adeiladau’r cyngor. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos â dysgwyr, teuluoedd, ysgolion, darparwyr EOTAS, gweithwyr...


  • Cardiff, United Kingdom CANCER RESEARCH WALES Full time

    **Manyleb y Swydd** **Cydlynydd Gwirfoddolwyr - Mehefin 24.docx** **Buddion**: - Cyfle i gael dylanwad arwyddocaol ar y gymuned. - Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. - Pecyn buddion. **Cais** Dyddiad cau **Hanner dydd, 10 Mehefin 2024


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cynhwysiant yn gweithio gyda gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, eu teuluoedd a'u lleoliadau addysg gan eu cefnogi a chydlynu i sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad i'w hawl gyda phontio di-drafferth i ystod o leoliadau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr,...


  • Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time

    **Unit**: Business Development Unit **Salary**: £35,333 - £42,155 **Location**: Cardiff **Please quote reference**: 20576 Permanent, Full-Time post **Closing Date**: 20 January, 2023 - 12:00 Noder mai rôl gweithio Hybrid yw'r hon gydag un diwrnod yr wythnos o leiaf yn Swyddfa Caerdydd. Mae angen teithio ledled Cymru hefyd. **Newid eich gyrfa, newid...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bwyso’r botwm ar eu crogdlws neu uned ymateb bydd ein cwsmeriaid yn cysylltu’n uniongyrchol â’n tîm cyfeillgar a fydd yn cymryd camau ar unwaith i’w helpu. Gallai hyn gynnwys cysylltu ag aelod o’r teulu, meddyg, gofalwr, neu’r gwasanaethau brys. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rhan o dîm...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...

  • Swyddog Cynllunio

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...

  • Bar Supervisor

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Royal Welsh College of Music and Drama Full time

    **Professional and Support Services Limited** **Disgrifiad Swydd - Pennaeth Cyllid** **Bar Supervisor** **Starting salary £22,662** Our hospitality colleagues are very valued at the Royal Welsh College of Music and Drama and we are looking to appoint a Bar Supervisor to join our team. Our Bar Supervisor ensures operational standards are maintained and...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y gwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Asesydd Datblygu’r Gweithlu. Byddwch yn gweithio fel aelod o dîm Datblygu ac Achredu’r Gweithlu sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae’r timau yn gweithio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...