Hwylusydd Grŵp RHieni Noddfa

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r gwasanaeth**
Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd ac mewn lletyau fel hosteli. Mae'r swydd wag bresennol o fewn rhan gynyddol o'r gwasanaeth, lle rydym wedi bod yn ymateb i anghenion sy’n datblygu yng Nghaerdydd, gan gefnogi teuluoedd sy'n ceisio lloches neu sy'n ffoaduriaid.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd 0-18 - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook - chwiliwch am Cardiff Parenting - Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.

Ar ôl gweithio gyda ni, mae rhieni wedi dweud: '**_Mae hwn yn lle diogel i fi a fy mhlant chwarae, gallwn ni fod yn hapus yma ac ymlacio. Mae'r merched yn garedig iawn ac yn gymwynasgar.'_**

**Ynglŷn â’r swydd**

Rydym yn edrych i ehangu a datblygu ein gwaith gyda chymunedau sy'n ceisio noddfa a lloches ledled Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae Tîm Grwpiau Dechrau'n Deg Caerdydd yn darparu sesiynau galw heibio anffurfiol i deuluoedd mewn llety pontio dros dro ledled y ddinas. Rydym yn ceisio adeiladu ar y cynnig hwn. Mae ein gwaith ehangach yn cynnwys cyflwyno bwydlen o Raglenni Rhianta.

Cyd-hwyluso gydag Uwch Hwylusydd Grŵp Rhieni, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at gynllunio, darparu, monitro, a gwerthuso, rhaglenni effeithiol o gefnogaeth ac ymyrraeth, sy'n arbennig o gynhwysol o ran teuluoedd sy'n ceisio lloches, neu sy'n ffoaduriaid. Byddant yn cyfrannu'n rhagweithiol at greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol sy'n sensitif i anghenion oedolion a phlant sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn. Byddant yn meithrin lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio, i gefnogi llesiant a gwella sgiliau rhianta cadarnhaol. Gan gynnwys arwain ar ddarpariaeth crèche lle mae'n cefnogi teuluoedd i gael mynediad at gymorth grŵp rhianta.

**Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Mae cymhwyster L3 mewn Gofal Plant, Dysgu, Chwarae a Datblygu yn hanfodol (gweler y disgrifiad swydd a’r manyleb person i gael rhagor o fanylion am gymwysterau). Wrth wneud cais, cyfeiriwch at sut rydych chi'n bodloni meini prawf hanfodol y manyleb person sydd ynghlwm.

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, meithrin a chefnogi datblygiad plant a chynnig lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio i gefnogi llesiant a gwella sgiliau magu plant cadarnhaol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n profi trawma a gofid felly bydd angen bod yn greadigol yn eu hymagwedd tuag at eu cefnogi. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw ymagwedd nad yw’r barnu, gan ddangos empathi a dealltwriaeth.

Rhaid i ymgeiswyr fod â gwybodaeth gynhwysfawr am anghenion datblygiadol plant ac yn gallu cyflwyno gwybodaeth i rieni am ddatblygiad eu plentyn neu ddulliau magu plant mewn modd sensitif. Bydd deilydd y swydd yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo rhyngweithio rhwng rhieni a phlant, meithrin a chefnogi datblygiad plant a chynnig lle diogel i rieni a phlant chwarae a rhyngweithio i gefnogi llesiant a gwella sgiliau magu plant cadarnhaol.

Bydd deiliad y swydd yn derbyn ac angen datrys problemau ac ymateb yn briodol i ddatgeliadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n ymwneud â phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, amddiffyn plant a/neu gam-drin domestig. Ceisio cefnogaeth a chyngor gan yr Uwch hwylusydd i ddilyn protocolau a gweithdrefnau yn effeithlon yn ôl yr angen

Mae’n rhaid cael trwydded yrru lân a cherbyd i’w ddefnyddio oherwydd bydd gofyn teithio trwy holl ardaloedd y ddinas fel rhan o’r rôl.

Job Reference: PEO02678



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio tîm newydd o weithwyr Gofal Plant Preswyl ar gyfer ein cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith....