Rheolwr Cydymffurfio

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.

Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae gan y Gyfarwyddiaeth gynlluniau adeiladu tai uchelgeisiol a stoc dai sylweddol a fydd yn fwy na 14,000 o gartrefi erbyn diwedd y flwyddyn.

**Am Y Swydd**
Mae'r swydd o fewn Tîm Cydymffurfio'r Uned Gwella Adeiladu, sy'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod yr holl ofynion statudol mewn perthynas ag Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu yn cael eu cyflawni.

Bydd y Rheolwr Cydymffurfio yn gyfrifol am y canlynol:

- Sicrhau bod yr holl waith a wneir yn y Gyfarwyddiaeth yn cydymffurfio â safonau rheoleiddio a deddfwriaeth.
- Rheoli prosesau a systemau yn effeithiol i sicrhau bod gwasanaethau'n cydymffurfio, gan sicrhau galluedd ac uniondeb
- Goruchwylio gwaith uwch aseswyr cydymffurfio gan sicrhau bod eu gwaith o safon uchel a’i fod yn bodloni dangosyddion perfformiad penodol gan gynnwys diweddaru Risk Monitor Live.
- Cyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth a rheolaeth gyllidebol gadarn.
- Gweithredu yn y rôl fel Rheolwr Diogelwch Adeiladau a enwebwyd gan y Gyfarwyddiaeth.

Mae’r manylion llawn am ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a brwdfrydig iawn sy'n gallu rheoli'r maes cydymffurfio prysur, amrywiol a chynyddol hwn.

Bydd gennych gymhwyster mewn Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu, hanes amlwg o weithio mewn amgylchedd tai cymdeithasol mewn maes cymhleth tebyg a byddwch yn gallu rheoli blaenoriaethau niferus. Bydd angen i fod â dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth bresennol ac arfaethedig, yn gallu gweithio gyda phartneriaid allanol a chyflwyno data cymhleth i ddefnyddwyr gwasanaethau ac uwch reolwyr.

Mae’r manylion llawn am ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Wrth gwblhau’r ffurflen gais, sicrhewch fod eich datganiad yn dangos tystiolaeth eich bod yn bodloni pedwar Cymhwysedd Ymddygiadol craidd y Cyngor, ynghyd â’r sgiliau a’r profiad hanfodol/dymunol yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02834



  • Cardiff, United Kingdom Transport for Wales Full time

    **Global Centre of Rail Excellence (GCRE)** **Risk & Compliance Manager** Transport for Wales are proud to promote a fantastic opportunity to play a critical role in a high-profile organisation, GCRE. The Global Centre of Rail Excellence (‘GCRE’) is a special purpose vehicle being established by the Welsh Government in partnership with Powys County...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**: 12302 **Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth (Arholiadau) **Contract**: Llawn Amser, Cyflenwi Cyfnod Mamolaeth hyd at fis Chwefror 2025 **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro **Cyflog**: £23,152 - £23,930 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn yr Adran...

  • Swyddog Arweiniol

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol i gefnogi'r gwaith o gyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Caerdydd fel y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC). **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r tîm CCDC sy'n gyfrifol am gyflawni ein swyddogaeth Cymeradwyo Draenio...

  • Arweinydd Is-adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Arweinydd Is-adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description An exciting opportunity has arisen to join the HEAM Buildings and Structures CEFA/CAFA Programme team as it embarks upon the next stage of expansion. W&W HEAM B&S CEFA/CAFA programme team carries out work region wide from Fishgaurd in the West Wales, through the major cities of Cardiff, Swindon, Reading, London and Plymouth down to...