Arweinydd Is-adran

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru. Mae’r Cyngor eisoes yn gweithio gyda’n partneriaid rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i wneud yn siŵr bod y seilwaith trafnidiaeth cywir ar gael i roi dewisiadau go iawn i bobl sy’n teithio i Gaerdydd o’r rhanbarth ehangach. Bydd rheoli defnydd dros dro o'r briffordd gyhoeddus a rheoli a chyflawni'r swyddogaeth trwyddedu ac arolygu priffyrdd wrth i'r Ddinas dyfu yn hanfodol i gyflawni'r cynlluniau yn llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle gwych i fod wrth wraidd un o economïau mwyaf cyffrous a deinamig y DU ar adeg gyffrous yn natblygiad y Ddinas ac i newid y ffordd y mae pobl yn symud o gwmpas ein dinas sy'n tyfu.

**Am Y Swydd**
Fel swyddog arwain is-adran, byddwch yn gyfrifol am gymeradwyo’n dechnegol yr holl gyflwyniadau ar gyfer ffyrdd a gynigir i'w mabwysiadu o dan Adran 38 ac Adran 278 o’r Ddeddf Priffyrdd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r Cyngor. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod y dyluniadau yn rhoi ystyriaeth lawn i'r amodau cynllunio perthnasol, mewn cysylltiad â'r tîm Gweledigaeth a Strategaeth Trafnidiaeth, a gofynion Safonau Technegol Caerdydd. Yn yr adolygiad bydd angen i chi ystyried pa mor adeiladol yw'r cynigion a'r gofynion mynediad yn unol ag hierarchaeth defnyddwyr. Fel y bo’n briodol, bydd hyn yn cynnwys cysylltu ac ymgynghori â Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor a thimau perthnasol yn eich Gwasanaeth eich hun.

Fel rhan o’r broses gytundeb, bydd rhaid i chi drefnu paratoadau o gyfarwyddiadau cyfreithiol a chaffael cytundebau cyfreithiol drwy dimau cyfreithiol pwrpasol y Cyngor.

Bydd angen i Arweinydd yr Is-adran gydlynu'r adolygiad o'r Archwiliadau Diogelwch ar y Ffyrdd a gyflwynwyd i'r tîm, gan gynnwys paratoi'r Ymateb i'r Sefydliad Goruchwylio, drafftio a therfynu'r Camau y cytunwyd arnynt.

Mae deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am gynnal a diweddaru Safonau Technegol presennol Caerdydd yn ôl yr angen.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae'r rôl allweddol hon yn gofyn am unigolyn brwdfrydig a threfnus gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, ynghyd â chymwysterau perthnasol a/neu brofiad blaenorol mewn dylunio/adeiladu priffyrdd, ac yn ddelfrydol rywfaint o wybodaeth am egwyddorion draenio SDCau a diogelwch priffyrdd. Bydd angen gwybodaeth am Ddeddf Priffyrdd 1980 hefyd - yn benodol Adrannau 38, 142, 177, 219/220, 228 a 278. Bydd angen i ymgeiswyr fod â dealltwriaeth gref o'r amgylchedd sy'n gysylltiedig â phriffyrdd a thrafnidiaeth, Archwiliadau Diogelwch Ffyrdd, teithio cynaliadwy a chymhwyso datrysiadau dylunio priffyrdd. Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion o nifer o ddatblygiadau parhaus, a delio ag ymholiadau rheolaidd gan ymgynghorwyr, aelodau lleol, cyfreithwyr, ac aelodau'r cyhoedd mewn ffordd broffesiynol, gan gydymffurfio'n llawn â Chodau Ymddygiad a Pholisïau Corfforaethol y Cyngor.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd yn barhaol ac yn addas i’w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jason Dixon, Rheolwr Gweithredol, Datblygu Trafnidiaeth Strategol, ar 029-2087-3271

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00279

  • Arweinydd Is-adran

    4 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Arweinydd Adran yn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflawni i gynorthwyo’r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni...

  • Arweinydd Is-adran

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Arweinydd Is-adran

    4 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Arweinydd Is-adran weithio yn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu, yn rheoli Dyluniadau, Contractau ac Adeiladu mewn cysylltiad ag amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni...

  • Arweinydd Adran

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Arweinydd Is-adran

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Arweinydd Is-adran

    1 day ago

  • Arweinydd TÎm

    4 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Arweinydd Tîm y Tîm Gofal Cwsmeriaid yn y Gwasanaethau 24/7. Y Tîm Gofal Cwsmeriaid yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid sy'n ymwneud â Theleofal Caerdydd a Phryd ar Glud. Mae Pryd ar Glud yn danfon prydau poeth, maethlon i gwsmeriaid ar draws y ddinas ac yn cynnig wyneb...

  • Arweinydd Tim

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Strategaeth ac Angen Tai am Arweinydd Tîm Gosod o fewn yr Uned Gosod ac Ailgartrefu **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli’r Tîm Dyraniadau sy’n gyfrifol am ddyrannu tai cymdeithasol y Cyngor i ymgeiswyr ar y Rhestr Aros Tai, gan sicrhau bod llety’r cyngor yn cael...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Arweinydd Canolfan Trawsnewid a Llwyddiant Digidol x2** **Contract: Llawn Amser, Parhaol** **Oriau: 37** **Cyflog: £37,806 - £39,921 y flwyddyn** Rydym ar ben ein digon o gyhoeddi dwy swydd arweinydd arbennig yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd ein Harweinwyr Canolfan Llwyddiant Digidol a Chyfoethogi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...

  • Arweinydd Tîm

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae buddsoddi yn y Ddinas yn golygu bod canol y ddinas yn cael ei adfywio'n helaeth. Mae gan y Cyngor dîm o beirianwyr priffyrdd proffesiynol...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r...

  • Dirprwy Arweinydd Tim

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Cynnal Gweithrediadau Priffyrdd ar Gyrrwr Peiriant Draenio **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y rôl rheng flaen hon yw cadw’r briffordd yn rhydd rhag dŵr wyneb drwy wneud gwaith a gynllunnir ac ymatebol i lanhau gylïau a sicrhau eu bod yn cael eu gwagio a bod cysylltiadau’n rhydd o...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi o fewn tîm y llwybr cyflymder uchel (HSR) o weithrediadau cynnal a chadw priffyrdd ar gyfer Gweithredwr Gosodwr / Gyrrwr. **Am Y Swydd** Bydd swyddogaeth graidd y swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i osod cynllun sector rheoli traffig 12A/B a gosod ac atgyweirio ffensys diogelwch (systemau atal cerbydau) i safon...