Arweinydd Tim
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru.
Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n defnyddio systemau gwe a ddyluniwyd ar gyfer y cwsmer, technoleg ffôn canolfannau cyswllt, a threfniadau partneriaeth gyda’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru.
Mae hwn yn gyfle unigryw i chi fod ar flaen y gad wrth broffesiynoli'r sector rhent preifat yng Nghymru.
**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm i gynorthwyo â’r gwaith o reoli Canolfan Gyswllt Rhentu Doeth Cymru a bod yn bersonol gyfrifol am oruchwylio tîm o Swyddogion Trwyddedu sy’n delio ag ymholiadau dros y ffôn, e-bost ac yn y post gan ein defnyddwyr gwasanaeth, a phrosesu ceisiadau am drwyddedau. Bydd yr Arweinydd Tîm yn gyfrifol am arwain a datblygu grŵp mawr o staff a bydd yn gweithio gyda Rheolwr y Ganolfan Gyswllt a’r Arweinydd Grŵp i ddatblygu ffyrdd ymarferol o ddefnyddio technoleg y Ganolfan Gyswllt.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, bydd ganddo sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a bydd yn frwd ac yn gyfrifol wrth ei waith.
Bydd ganddo wybodaeth weithiol dda o feddalwedd o fewn amgylchedd MS Windows (neu debyg) a bydd ganddo brofiad hefyd o hyfforddi a goruchwylio a/neu gymhwyster rheoli/goruchwylio a gydnabyddir a phrofiad uniongyrchol o fod mewn rôl rheoli llinell gyntaf (goruchwyliol).
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES00964
-
Uwch Swyddog Pensiynau
7 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...