Arweinydd Tîm

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae buddsoddi yn y Ddinas yn golygu bod canol y ddinas yn cael ei adfywio'n helaeth.

Mae gan y Cyngor dîm o beirianwyr priffyrdd proffesiynol a rheolwyr prosiectau yn adran Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd sy'n darparu prosiectau adfywio priffyrdd y cyngor.

Ar hyn o bryd mae gan y tîm bortffolio o waith gwerth £24 miliwn ac mae'n darparu hyd at £8 miliwn o gynlluniau'r flwyddyn. Mae'r portffolio'n cynnwys gwaith priffyrdd, amgylcheddol, adfywio eiddo a chloddwaith. Mae enghraifft o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn cynnwys beicffordd ar wahân gwerth £6 miliwn, adfywio canol y ddinas gwerth £9 miliwn ac estyniad o £2.5 miliwn i'r Fynwent.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle wedi codi i Arweinydd Tîm weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi gan ddarparu cefnogaeth i'r Rheolwr Gweithredol drwy arwain y tîm wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.

Bydd angen i ddeiliad y swydd arwain y tîm mewn amgylchedd heriol sy'n cael ei yrru gan elw, gan ddarparu cynlluniau priffyrdd ar gyfer Caerdydd a'r awdurdodau cyfagos. Rhai o brif ofynion y rôl fydd:
Rheoli gwaith llwyddiannus y tîm Dylunio, Contractau a Chyflenwi priffyrdd er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel ac effeithiol, sy'n cyflawni amcanion a osodir gan y Gyfarwyddiaeth.

Arwain ar raglenni cyflenwi, sicrhau gweithredu cynlluniau / prosiectau seilwaith yn effeithiol a datblygu cynllun strategol i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl.

Rheoli cyllidebau a chyfrannu at gaffael ymgynghorwyr a chontractwyr sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau.

Arwain datblygiad strategol a masnachol y gwasanaeth, gan nodi meysydd i’w gwella a chyflawni rhaglenni newid i wella perfformiad a sicrhau y cyrhaeddir yr holl dargedau perfformiad.

Monitro perfformiad, gosod mesurau llwyddiant i'r tîm a mesur perfformiad yn erbyn cynghorau ac ymgynghorwyr eraill.

Gweithredu fel Uwch Gynrychiolydd i'r Cyngor o dan gytundeb NEC 4.

Dylunio Cynlluniau Priffyrdd yn seiliedig ar ddeddfwriaeth bresennol ac arfer da.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad amlwg o gyflenwi prosiectau priffyrdd, rhaglennu a sicrhau adnoddau, profiad o fonitro ariannol ac adrodd ar gynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fewn awdurdod lleol, dealltwriaeth o ddylunio priffyrdd a chontractau NEC4 a bod yn fedrus yn y defnydd o Microsoft Project.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Rhaid dangos ymrwymiad hefyd i bolisïau'r Cyngor ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gyda hygrededd, egni a phenderfyniad, byddwch yn effro ac yn ymatebol gyda'r gallu i ddatrys ystod eang o broblemau yn gyflym, gan weithio'n gyflym, o dan bwysau i derfynau amser tra'n cynnal cywirdeb.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ei adnoddau pobl a bydd y rôl yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygiad personol gyda'r ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan yng Nghymru gyfan, dinasoedd craidd a rhwydweithiau a fforymau rhyngwladol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00281

  • Arweinydd TÎm

    6 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Arweinydd Tîm y Tîm Gofal Cwsmeriaid yn y Gwasanaethau 24/7. Y Tîm Gofal Cwsmeriaid yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid sy'n ymwneud â Theleofal Caerdydd a Phryd ar Glud. Mae Pryd ar Glud yn danfon prydau poeth, maethlon i gwsmeriaid ar draws y ddinas ac yn cynnig wyneb...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Strategaeth ac Angen Tai am Arweinydd Tîm Gosod o fewn yr Uned Gosod ac Ailgartrefu **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli’r Tîm Dyraniadau sy’n gyfrifol am ddyrannu tai cymdeithasol y Cyngor i ymgeiswyr ar y Rhestr Aros Tai, gan sicrhau bod llety’r cyngor yn cael...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...

  • Arweinydd Adran

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Arweinydd Tim

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Y Sefydliad Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Dyma mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddweud _'Cafodd fy mab ei eni yn ystod y pandemig, felly ni chafodd lawer o gyfle i ryngweithio â phlant eraill. Mae bron yn 2 oed ac mae ei araith wedi gwella cymaint ers i ni fod yn mynychu Aros a Chwarae, mae'n dweud bod brawddegau llawnach yn cyfathrebu ei anghenion yn dda iawn ac mae...

  • Arweinydd Is-adran

    6 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Arweinydd Adran yn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflawni i gynorthwyo’r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...

  • Cardiff, United Kingdom Cyfoeth Naturiol Cymru Natural Resources Wales Full time

    Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau Cyflog cychwynnol: £41,150 yn codi i £46,147 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser) Math o gytundeb: Parhaol  Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor –...

  • Rheolwr Tîm

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio recriwtio Rheolwyr Tîm yn ein gwasanaeth Iechyd ac Anableddau Plant. Mae'r swydd hon yn agored i'r rheiny sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rheiny sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag...

  • Rheolwr Tîm

    2 weeks ago

  • Dirprwy Arweinydd Tim

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Cyf**: 12058 **Teitl y Swydd**: Arweinydd Undeb y Myfyrwyr a Llais y Dysgwr **Cytundeb**: Llawn Amser, Tymor Penodol tan Gorffennaf 2023 **Cyflog**: £28,648 - £30,599 (Pro Rata) **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro** - **pob safle Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Arweinydd Undeb y Myfyrwyr a Llais y Dysgwr i ymuno â’n tîm Bywyd y Myfyriwr...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Caerdydd. Mae gan y Gronfa 42 o gyflogwyr cyfranogol a thros 45,000 o aelodau cyfredol, gohiriedig a rhai sy’n bensiynwyr. Ein nod yw darparu gwasanaeth i'n haelodau sy’n gywir ac sy'n canolbwyntio ar...

  • Arweinydd Is-adran

    1 month ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Arweinydd Canolfan Trawsnewid a Llwyddiant Digidol x2** **Contract: Llawn Amser, Parhaol** **Oriau: 37** **Cyflog: £37,806 - £39,921 y flwyddyn** Rydym ar ben ein digon o gyhoeddi dwy swydd arweinydd arbennig yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Bydd ein Harweinwyr Canolfan Llwyddiant Digidol a Chyfoethogi...