Current jobs related to Arweinydd Tîm Rheoli Cynaliadwy Morol - Cardiff - Cyfoeth Naturiol Cymru Natural Resources Wales

  • Arweinydd Is-adran

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a sicrhau trwydded neu gyflogi asiant trwyddedig ar eu rhan i gyflawni tasgau gosod a rheoli eiddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi’i ddynodi fel yr awdurdod trwyddedu sengl i weinyddu’r ddeddfwriaeth hon yng Nghymru. Sefydlwyd y gwasanaeth ym mis Tachwedd 2015. Mae’n...


  • Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    **Eich gwaith** - Gweithio yn y Vulcan, gan oruchwylio'r tîm yn uniongyrchol a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol bob amser - Bod yn atebol am sicrhau bod y Vulcan yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth a rheoliadau, gan gynnwys diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch - Sicrhau’r gwerthiant ac elw gorau posibl a chyrraedd targedau trwy...

  • Rheolwr Tîm

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn ceisio recriwtio Rheolwyr Tîm yn ein gwasanaeth Iechyd ac Anableddau Plant. Mae'r swydd hon yn agored i'r rheiny sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rheiny sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm cymwys addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Bydd y rôl hon yn rheoli timau gwaith cymdeithasol yn y gymuned, gan weithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu a llunio'r gwasanaeth ochr yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm sydd â chymwysterau addas weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae dwy rôl Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r...

  • Swyddog Arweiniol

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordirol i gefnogi'r gwaith o gyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Caerdydd fel y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCDC). **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r tîm CCDC sy'n gyfrifol am gyflawni ein swyddogaeth Cymeradwyo Draenio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 5 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 4 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y tîm Polisi a Strategaeth Parcio. Rydym yn cydnabod bod ein dull o ymdrin â pholisi parcio a rheolaeth ymyl y ffordd yn effeithio ar brofiad pawb o Gaerdydd. Fel Peiriannydd Polisi Parcio, byddwch yn flaenllaw wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth parcio ar gyfer y ddinas. O fynd i'r afael â...

  • Rheolwr Tim

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae'r rôl hon yn denu taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (pro-rata), a adolygir yn flynyddol. Bydd lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 (pro rata) hefyd yn cael ei dalu os yw'r meini prawf cywir yn cael eu bodloni. Mae cyfleoedd cyffrous wedi codi ar gyfer Rheolwyr Tîm â chymwysterau...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description You will lead the development and implementation of the route strategy and the route asset management plans, managing and directing the maintenance and renewals work banks, specifications and acceptance criteria.You will act as client representative for renewal activity and assets and, as the asset management lead, you will agree key...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. ***Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae hon yn rôl Rheolwr Tîm sydd ar gael yn y Gwasanaeth Cyswllt ac Asesu sy'n gweithio gyda phobl dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rheoli Adeiladu yn ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus deinamig ac amrywiol sy'n arbenigo mewn Rheoliadau Adeiladu a diogelwch y cyhoedd yn bennaf drwy Ddeddf Adeiladu 1985. Fel aelod gweithgar o LABC Services, mae Rheoli Adeiladu Caerdydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau lleol a chenedlaethol ac awdurdodau lleol ledled...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta a Chwarae Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg. Mae Rhieni a Mwy yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd. Mae'n cael ei gydnabod gan y Sefydliad Rhieni a Babanod fel tîm Perthynas Rhieni-Babanod Arbenigol. Mae'r tîm yn gweithio gyda rhieni sy'n...

  • Rheolwr Prosiect

    7 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor. **Am Y Swydd** Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Prif Beiriannydd

    6 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...

Arweinydd Tîm Rheoli Cynaliadwy Morol

7 months ago


Cardiff, United Kingdom Cyfoeth Naturiol Cymru Natural Resources Wales Full time

Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau

Cyflog cychwynnol: £41,150 yn codi i £46,147 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser)

Math o gytundeb: Parhaol 

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)

Dyddiad cyfweld: 21 Tachwedd 2023

Rhif swydd: 203640

Y rôl

Byddwch yn arwain tîm amlddisgyblaethol mawr Cymru gyfan, gan gyfrannu at gyflawni Rhaglen Forol CNC a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd y tîm yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni gofynion y Datganiad Ardal Morol, yn rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol, a hefyd bod yn gyfrifol am reoli pysgodfeydd cocos yn Aber Afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn, ynghyd ag arwain a chyflawni gofynion Gwarchodaeth Dyfrdwy. Gall y rhaglen tîm hefyd ehangu i gynnwys gwaith pellach yn ymwneud â rheoli adnoddau morol yn gynaliadwy yn ôl yr angen. 

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Andrea Winterton at

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4–8 wythnos i'r dyddiad cau.

Amdanom ni

Mae hwn yn dîm newydd sy’n rhan o’r Gwasanaeth Morol yn ein Cyfarwyddiaeth Gweithrediadau. Mae’n gyfrifol am reoli’r safle’n uniongyrchol o fewn ein dwy bysgodfa gocos reoledig, ac yn gyfrifol am ddyletswyddau Awdurdod yr Harbwr ar Aber Afon Dyfrdwy yn ogystal â chyflawni gwaith sy’n ymwneud â Datganiadau Ardal Morol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hwn yn un o 5 tîm morol yn y Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau sy’n adrodd i’r Rheolwr Gwasanaeth Morol, ac mae’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau morol o’r dechrau i’r diwedd yn CNC, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr yn ein timau Polisi a Thrwyddedu, yn ogystal â thimau gweithrediadau eraill sy’n gwneud gwaith tebyg yn yr amgylchedd daearol. Gosodir blaenoriaethau yn flynyddol fel rhan o Raglen Forol CNC.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Arwain a datblygu staff i sicrhau bod cyfraniadau tîm i Gynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol CNC yn cael eu cyflawni yn ogystal â blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol ac adrannol ehangach. Bod yn atebol am lesiant, datblygiad a pherfformiad tîm mawr gwasgaredig yn ddaearyddol a chadw at bolisïau a gweithdrefnau CNC. Llywio datblygiad Cynllun Gwasanaeth Morol a Rhaglen Forol CNC, yn ogystal â chynlluniau a strategaethau perthnasol eraill, yn fewnol ac yn allanol. Cynnal a datblygu arbenigedd technegol mewn rheoli a datblygu’r amgylchedd morol ac arfordirol, er mwyn (a) darparu trosolwg technegol o waith y tîm, a (b) darparu cyngor technegol (ysgrifenedig, llafar a chyflwyniadau), yn fewnol i gydweithwyr ac uwch-reolwyr ac yn allanol i randdeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol, ar gylch gwaith y tîm. Rheoli llwythi gwaith adweithiol a phrosiectau gwaith achos lluosog, weithiau'n ddadleuol ac adnabyddus eu natur, a sicrhau darpariaeth amserol. Gweithio ar y cyd ar draws y Gwasanaeth Gweithrediadau Morol, yn ogystal â grwpiau gweithrediadau eraill megis timau monitro a’r Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu, a chyda swyddogaethau perthnasol yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Rheoli cyllideb y tîm a sicrhau defnydd effeithlon a phriodol o adnoddau. Sicrhau bod y tîm yn cynnal lefelau sgiliau priodol ar draws ei aelodau. Sicrhau bod o leiaf un aelod o'ch tîm yn siarad Cymraeg hyd at Lefel 4. Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau. Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd. Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd. Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs. Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon. Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Pwy ydych chi – cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf canlynol wrth lunio rhestr fer a chyfweld. Defnyddiwch y dull STAR i ddangos sut rydych chi'n bodloni'r gofynion a amlinellir isod yn y cais am swydd.

Profiad o reoli tîm mawr gwasgaredig yn ddaearyddol sydd â rolau ac arbenigeddau amrywiol. Profiad sylweddol o waith achos yn y sector morol, a dealltwriaeth dechnegol ohono. Dealltwriaeth ragorol o fframweithiau rheoleiddio a deddfwriaethol morol, cadwraeth a chynllunio. Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes y sector morol (gan gynnwys pysgodfeydd). Profiad o gynllunio wrth gefn ym maes llygredd morol ac ymateb iddo. Sgiliau hyfforddi a mentora. Profiad o gysylltu â rhanddeiliaid a gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd, weithiau'n ymwneud ag achosion a materion dadleuol ac adnabyddus. Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r holl randdeiliaid, gan egluro materion a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu ar lefel uwch. Sgiliau trefnu, rheoli amser a rhyngbersonol cadarn.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: – gallu ynganu Cymraeg a defnyddio ymadroddion sylfaenol. Dymunol: – Gallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.

Noder : Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Beth fyddwch chi’n ei gael: ein buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

gweithio ystwyth a hyblyg cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol manteision a chymorth o ran iechyd a lles awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Daliwch ati i ddarllen

Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r rôl hon, ond nad ydych o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y swydd-ddisgrifiad, mae croeso i chi gysylltu â ni o hyd a byddwn yn hapus i drafod y rôl yn fwy manwl gyda chi.

Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu ansawdd heb ystyried anabledd, niwrowahaniaeth, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, mynegiant rhyw a hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, diwylliant neu grefydd. Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.

Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.

Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.

Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â