Arweinydd Arloesedd Digidol

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

Y Sefydliad

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Rydym nawr yn chwilio am Arweinydd Arloesedd Digidol i ymuno â’n tîm Ymchwil, Data ac Arloesedd ar sail barhaol, amser llawn.

Y Manteision
- Cyflog o £43,659 - £48,042 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Arweinydd Arloesedd Digidol, byddwch yn ein helpu i ddeall pa gymorth sydd ei angen ar bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i ymgysylltu ag arloesiadau digidol. Byddwch yn canolbwyntio ar sut y gallwn wneud y gorau o'n gwaith gyda phartneriaid i gefnogi arloesedd digidol.

Trwy eich gwaith, byddwch yn dangos sut y gall arloesi digidol gefnogi dulliau gofal cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Yn benodol, byddwch yn arwain ein dull o gefnogi arloesedd digidol, yn darparu cyngor, yn coladu ac yn rhannu tystiolaeth ar ddulliau digidol ac yn chwilio am gyfleoedd i wella cymorth ar gyfer arloesi digidol.

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried ar gyfer rôl Arweinydd Arloesedd Digidol, bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o reoli prosiectau digidol mewn gofal cymdeithasol neu faes cysylltiedig
- Y wybodaeth ddiweddaraf am y dirwedd ddigidol a thechnoleg ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Y gallu i feithrin perthnasoedd cydweithredol a phartneriaethau ffurfiol gyda rhanddeiliaid allanol
- Profiad o reoli prosiectau ac adnoddau i gyflawni amcanion busnes
- Profiad o ddadansoddi a dehongli data i ddysgu, asesu effaith a gwneud argymhellion
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyd-ddylunio a chydgynhyrchu i ddatblygu prosesau a chynigion
- Hanes o ddefnyddio dull cyd-ddylunio a chydgynhyrchu i ddatblygu prosesau a dulliau
- Dealltwriaeth o gyd-destun polisi Cymru a sut mae gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn cael eu trefnu, eu hariannu a'u darparu yng Nghymru
- Datblygiad proffesiynol, ar ffurf gradd neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol, a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 8 Ionawr 2023.

Gall sefydliadau eraill alw’r rôl hon yn Rheolwr Arloesedd Digidol, Arweinydd Dulliau Digidol, Arweinydd Trawsnewid Digidol, Rheolwr Perfformiad Digidol, Rheolwr Prosiect Digidol neu Reolwr Cyflawni Digidol.

Felly, os ydych am gamu i rôl newydd ddifyr a gwerth chweil fel Arweinydd Arloesedd Digidol, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.


  • Digital Manager

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Rheolwr Digidol** Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid) **Y cwmni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...

  • Trainee Journalist

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom ITV Jobs Full time

    **Newyddiadurwr dan hyfforddiant** **(Rhaglenni Cymraeg)** **ITV Cymru Wales** **2 x cytundeb 12 mis** **Lleoliad : Caerdydd** **Cyflog : £21.324 -** **£26329** **Mae eich gwaith yn bwysig** Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac...

  • Digital Producer

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom ITV Jobs Full time

    **Cynhyrchydd Digidol (Cynnwys Cymraeg)** **ITV Cymru Wales** **Cytundeb 6 mis** **Lleoliad : Caerdydd** **Cyflog : £33,225 - 36,359** **Mae eich gwaith yn bwysig** Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac rydym ar flaen y gad yn y...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Job Description Associate Tutor in Photography - Job Description Associate Tutor in Photography - Package: Casual Contractual hours: 0Job category/type: AcademicJob descriptionIn 2020, the University was named The Sunday Times 'Welsh University of the Year 2021'; in 2021 it became the Times Higher Education 'UK and Ireland University of the Year 2022'; and...