Gosodwr/gyrrwr Gweithredol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle wedi codi o fewn tîm y llwybr cyflymder uchel (HSR) o weithrediadau cynnal a chadw priffyrdd ar gyfer Gweithredwr Gosodwr / Gyrrwr.

**Am Y Swydd**
Bydd swyddogaeth graidd y swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i osod cynllun sector rheoli traffig 12A/B a gosod ac atgyweirio ffensys diogelwch (systemau atal cerbydau) i safon cynllun sector gan ddefnyddio cerbydau LGV (trwydded yn hanfodol). Bydd gofyn i chi wneud gwaith cynnal a chadw sy'n gysylltiedig â'r briffordd fabwysiedig ac asedau cysylltiedig (gwaith stryd) ynghyd ag ymateb i alwadau brys i wneud atgyweiriadau priffyrdd neu wneud rhannau o'r briffordd yn ddiogel i'w defnyddio.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Profiad o weithio ym maes adeiladu / peirianneg / priffyrdd. Rhaid bod yn gymwysedig i safonau cynllun sector 12D, 12A/B, a gosod ffensys diogelwch a meddu ar gymhwyster gwaith stryd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd barhaol. Mae’r swyddi hyn yn addas ar gyfer rhannu swydd. Rydym yn croesawu ceisiadau drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir drwy gyfrwng y Gymraeg eu trin yn llai ffariol na cheisiadau Saesneg.

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Chris Mitchell, Arweinydd Adran Gweithrediadau Cynnal a Chadw Priffyrdd ar 029 22 330980.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00274



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfleoedd cyffrous i ymuno â’r Gwasanaethau Strydlun, yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Gyrrwr/Llwythwr Penwythnos o fewn y Tîm Masnach, byddwch yn gyfrifol am gasglu deunyddiau...