Gyrrwr/llwythwr (Masnach)

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfleoedd cyffrous i ymuno â’r Gwasanaethau Strydlun, yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Fel Gyrrwr/Llwythwr Penwythnos o fewn y Tîm Masnach, byddwch yn gyfrifol am gasglu deunyddiau gwastraff ac ailgylchu ledled y Ddinas. Byddwch yn gyrru ac yn cynnal a chadw unrhyw gerbyd a ddyrennir i’r adran cyfleusterau a chasgliadau gan sicrhau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol bob amser. Byddwch hefyd yn gyfrifol am gwblhau ffurflenni gwybodaeth dyddiol gan sicrhau bod unrhyw ddiffygion ar gerbyd yn cael eu hadrodd. Rhaid rheoli deddfwriaeth tacograff yr UE a glynu ati bob amser.

**Sylwch: Mae'r swydd hon yn 27.45 awr yr wythnos gydag oriau gweithredol o ddydd Sadwrn i ddydd Llun 6.00 am - 3.45 pm.**

*** (Telir gwaith dydd Sadwrn a / neu ddydd Sul fel rhan o'r wythnos waith arferol fel ychwanegiad o amser a hanner am yr oriau a weithiwyd)**

**Pan fydd Dydd Nadolig, Dydd San Steffan neu Ddydd Calan yn disgyn ar ddiwrnod gwaith dan gontract, bydd diwrnodau dal i fyny dilynol, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau, yn ofyniad gorfodol**

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Mae Trwydded Yrru Dosbarth 2 yn hanfodol ar gyfer y rôl hon yn ogystal â hyfforddiant neu wybodaeth am Dechnegau Codi a Chario ac Iechyd a Diogelwch yn y gwaith.**

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn tîm gweithredol mawr a chysylltu’n uniongyrchol â’r cyhoedd, a bydd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Bydd angen i chi hefyd gael profiad o yrru cerbydau nwyddau mawr

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Byddwch yn gallu addasu'n gyflym i dechnolegau a ddefnyddir gan y gwasanaeth. Bydd angen i chi ddeall a gweithredu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor. Rhaid i chi gynnal enw da’r Cyngor drwy fabwysiadu dull proffesiynol a chwrtais o weithio.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â Jason Davies, Rheolwr Gweithrediadau Masnach ar 029 2071 7534.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00500