Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**: 12302

**Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth (Arholiadau)

**Contract**: Llawn Amser, Cyflenwi Cyfnod Mamolaeth hyd at fis Chwefror 2025

**Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro

**Cyflog**: £23,152 - £23,930 y flwyddyn

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn yr Adran Arholiadau yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Yn atebol i’r Swyddog Arholiadau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu cymorth ar bob agwedd ar yr adran, yn cynnwys y canlynol:

- Ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol yn y swyddfa, yn cynnwys cofrestru, ymrestriadau arholiadau a chasglu canlyniadau.
- Ymateb i ymholiadau cyffredinol gan staff a myfyrwyr pan fydd hyn yn ofynnol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau cofrestru a chanlyniadau.
- Sicrhau bod yr uchod wedi’i gadarnhau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru a Chyrff Dyfarnu.
- Diweddaru’r system myfyrwyr fewnol i sicrhau nad yw’r dysgwyr sydd wedi tynnu’n ôl/symud wedi cofrestru ar eu cwrs bellach, a bod dysgwyr gorffenedig yn cael eu prosesu’n gywir.
- Cydymffurfio â gweithdrefnau JCQ a’r coleg wrth baratoi ar gyfer arholiadau, ac yn ystod arholiadau.
- Arolygu arholiadau pryd bynnag mae angen, gan roi cyfarwyddiadau i fyfyrwyr, datrys unrhyw broblemau a chynorthwyo’r Rheolwr Arholiadau i drefnu arolygwyr.
- Sganio a ffeilio tystysgrifau, i'w cadw at ddibenion archwilio a/neu arolygu, ac unrhyw geisiadau rhyddid gwybodaeth.
- Ymgymryd â dyletswyddau cyffelyb i’r uchod, i gefnogi adrannau eraill sydd y tu hwnt i brif adran y gyflogaeth, yn ôl yr angen gan y Rheolwr Arholiadau.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir addysgol cadarn neu brofiad cymesur amlwg. Mae’n rhaid i’r ymgeisydd delfrydol feddu ar hanes amlwg o gyflawni yn y sector addysg bellach a’r gallu i gyfathrebu materion cymhleth i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 01/03/2024 am 12:00pm**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth **Contract**: Llawn amser, Parhaol **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro **Cyflog**: £21,030 - £22,469 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...

  • Prentis Corfforaethol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...

  • Cynorthwyydd Dysgu

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, iechyd meddwl a chymdeithasol. **Am Y Swydd** Mae Bryn y Deryn yn darparu addysg a lles i ddysgwyr gydag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol heriol. Mae Canolfan Carnegie yn darparu addysg a lles i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** A oes diddordeb gennych mewn gyrfa Gwaith Cymdeithasol? Mae dod yn Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd. Mae Gwasanaethau Plant Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Caerdydd yn chwilio am 5 Cynorthwyydd Adnoddau Gwaith Cymdeithasol llawn amser ar gontractau o 12 mis. Mae'r swyddi yn rhan o'r gwasanaeth Pobl Hŷn ac Anableddau Corfforol ac yn helpu i sicrhau bod dinasyddion yn ddiogel ac yn byw'n dda yn eu cymunedau. Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy’n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig a phrofiadol ymuno â'r gwasanaeth. Cynigir y swydd fel swydd barhaol a bydd yn rhan o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. **Am Y Swydd** Goruchwylio staff gweinyddol a helpu i redeg y Ganolfan o ddydd i ddydd er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth o fewn Cyngor Caerdydd, er mwyn gweinyddu gofynion Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rheoleiddio tai sector rhent preifat yng Nghymru drwy ofyn i landlordiaid gofrestru ac un ai ddod yn drwyddedig eu hunain neu roi cyfarwyddyd i asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. Sefydlwyd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn...


  • Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Teitl: Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth** **Lleoliad: Cartref gydag o leiaf 2 ymweliad y mis â’r swyddfa (9 Village Way, Parc Busnes Greenmeadow Springs, Tongwynlais, CF15 7NE)** **Cyflog: £6,801.60 y flwyddyn am 12 awr yr wythnos, gyda phosibilrwydd o estyniad** **Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol tan 31 Ionawr 2024.** A allech chi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae gennym swydd gwag ar gyfer gyrwyr/gofalwyr yn ein Canolfannau Dydd yng Nghaerdydd, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio yn rhan...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Cynghori Tai a Chymunedau. Mae Gwasanaeth Cynghori'r Cyngor yn cynnwys y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith, y tîm Datrysiadau Tai ac Atal, y tîm Cyngor Ariannol a'r Llinell Gymorth Cyngor a Thai. Gyda'i gilydd, mae'r timau yn darparu pecyn cyflawn o gymorth, gwybodaeth ac arweiniad...

  • Swyddog Cyswllt

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...

  • Cynorthwyydd Dysgu

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, iechyd meddwl a chymdeithasol. Rydyn ni'n ehangu ym mis Medi - Ydych chi eisiau bod yn rhan o'r cynnig newydd cyffrous hwn? Rydym yn bwriadu recriwtio tîm o athrawon ar gyfer ein darpariaeth CA3 newydd a fydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â maes Strategaeth, Ansawdd a Chomisiynu Gwasanaethau Oedolion. Mae'r swyddi'n canolbwyntio'n benodol ar Ymgysylltu a Rheoli’r Farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartrefi Gofal i gefnogi cyflawni dyletswyddau statudol Cyngor Caerdydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)...