Cynorthwy-ydd Gweinyddol Comisiynu

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd rôl allweddol o ran prynu gwasanaethau a rheoli a monitro'n gyffredinol y gwasanaethau hyn i gefnogi oedolion a phlant sy'n agored i niwed, ar draws holl swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o wasanaethau allanol i ddinasyddion Caerdydd.

Prif flaenoriaethau'r Gwasanaeth yw:
Darparu gwasanaethau cymdeithasol o’r ansawdd uchaf posibl
- Integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol
- Goresgyn y rhwystrau a chydlynu gwasanaethau yn y Gymuned ac ar draws y Cyngor
- Sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a thrigolion Caerdydd cymaint â phosibl

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at wasanaeth cymorth busnes effeithiol yn Nhîm Contractau a Chomisiynu’r Gwasanaethau Oedolion yn unol â pholisïau, prosesau cymorth busnes a gweithdrefnau’r Cyngor.
**Am Y Swydd**
Bydd y Cynorthwy-ydd Gweinyddol Comisiynu yn gweithio o fewn Tîm Contractau a Chomisiynu’r Gwasanaethau Oedolion.

Bydd y rôl yn gyfrifol am y canlynol:

- Cynnig gwasanaeth derbynfa i’r tîm a chynnal systemau cymorth busnes effeithiol o safbwynt negeseuon ffôn, prosesu geiriau, cronfeydd data, cofrestrau, gohebiaeth, ysgrifennu cofnodion, ffotocopïo, ffeilio a chyflenwadau nwyddau swyddfa.
- Cefnogi'r tîm i gyflawni blaenoriaethau a phrosiectau comisiynu ar draws y swyddogaethau arbenigol
- Helpu gyda’r gwaith o weinyddu systemau sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae pobl leol (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed) yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yng Nghaerdydd.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol o fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03664



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau 18.5hrs Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n...

  • Prentis Corfforaethol

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...