Cynorthwy-ydd Gweinyddol

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr ymuno â ni yn un o'n timau ffyniannus.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig sy’n meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â’n timau Hyb/Llyfrgell ledled Caerdydd.

Mae ein tîm yn cefnogi cwsmeriaid sy'n defnyddio ein Hybiau a’n Llyfrgelloedd, gan geisio ateb ymholiadau Llyfrgelloedd.

Mae'r rôl hon yn gofyn am ymddygiad proffesiynol gan mai chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau cyffredinol dros y ffôn neu drwy e-bost, gan geisio datrys ar y pwynt cyfathrebu cyntaf lle bynnag y bo modd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddarparu gwasanaeth Llyfrgell llawn, ynghyd â chyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol gan gynnwys defnyddio systemau cymorth digidol a Llyfrgell

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Darparu gwasanaeth gweinyddu Llyfrgell proffesiynol o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Datrys ymholiadau lle bynnag y bo modd ar gyswllt cyntaf y cwsmer. Lle nad yw hyn yn bosibl, cyfeirio at swyddogion neu adrannau eraill, yn dilyn prosesau atgyfeirio y cytunwyd arnynt.

Denu aelodau newydd a chynnig gwasanaeth Llyfrgell gwybodus sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Annog cynhwysiant ariannol a digidol drwy roi cymorth a chyngor ymarferol.

Trefnu apwyntiadau i gwsmeriaid yn ôl yr angen ac i weithredu fel eiriolwr cwsmeriaid, gan gymryd perchnogaeth o ymholiadau a sicrhau y caiff cwynion eu datrys cyn gynted ag y bo modd.

Bod yn weithgar yn yr Hybiau/Llyfrgelloedd, gan sicrhau bod aelodau’r tîm yn cyfathrebu’n dda gyda’i gilydd, a chyfrannu at waith y tîm yn gyffredinol.

Cyflenwi ar gyfer Swyddogion eraill, a newid lleoliad ar fyr rybudd, pan fo

angen

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02812



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau 18.5hrs Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n...

  • Prentis Corfforaethol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai’n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai’n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol,...