Prentis Corfforaethol

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.

Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu at ein gwasanaeth i’n helpu i ddarparu.

Mae’r Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu ac anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda’r nod o gyflawni eu hamcanion.

Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm cymorth medrus iawn i ddatblygu sgiliau, mewn modd sydd â phobl yn ganolog iddo, i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni’r deilliannau a nodir yn eu Cynllun Gwasanaeth Dydd.

**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Prentis Corfforaethol (Lefel 2) **hon, byddwch yn dysgu sut i:
Fel Prentis Corfforaethol sy'n ymgymryd â Phrentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Lefel 2, byddwn yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich cefnogi gyda'ch gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cael eich annog i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys rhoi cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd, y bydd llawer yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, gan gysylltu â theuluoedd defnyddwyr gwasanaeth a gwasanaethau eraill, cadw cofnodion, cyflawni tasgau gweinyddol, cyfrannu at y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chymryd rhan mewn cyfarfodydd staff a rhaglenni datblygu staff.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein ac i weithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu rhwng 8.00am a 4.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaeth Llywodraeth Cymru mewn **Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) ar Lefel 2**.** *Gwiriwch eich cymhwysedd i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**

**Mae graddedigion ond yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**

Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Mae’r swydd hon dros dro am 18 mis os yw’n waith llawn amser neu'n hirach na hynny os caiff yw’n waith rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.

Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £9.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i Dâl Atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl drwy roi enghreifftiau yn yr adran **Gwybodaeth Ategol**, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymg