Cynorthwy-ydd Ymchwil a Datblygu Polisi

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector.
Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Prif flaenoriaethau'r Gwasanaeth yw:
Mae'r sector gofal cymdeithasol yn darparu'r gofal cymdeithasol o'r ansawdd uchaf posibl
- Gweithio mewn partneriaeth ag iechyd a gofal cymdeithasol i fonitro darpariaeth gofal a chymorth ar draws y sector.
- Sicrhau bod anghenion yr unigolyn yn cael eu diwallu yn y ffordd y maent am fyw eu bywyd.
- Cynnig ansawdd a gwerth am arian i'r Cyngor a dinasyddion Caerdydd.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm ac yn cynorthwyo i ddatblygu, gweithredu a chynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol, prosesau monitro a systemau ansawdd i sicrhau bod darparu gwasanaethau'n effeithiol ac effeithlon wrth ddiwallu anghenion unigol a strategol.

**Am Y Swydd** **Bydd y swydd yn gweithio o fewn y Tîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion.:
Gweithio o fewn y tîm cynllunio a chomisiynu fel adnodd cymorth prosiect wedi'i gomisiynu hyblyg, gan ddarparu cymorth prosiect ar draws amrywiaeth eang o wasanaethau i oedolion Cyngor Caerdydd.
- Cyflawni blaenoriaethau a phrosiectau comisiynu ar draws y swyddogaethau arbenigol
- Helpu gyda gwaith casglu a dadansoddi data sy'n llywio prosiectau a gwaith comisiynu penodol.
- Ymgymryd ag ymchwil, gweithgareddau meincnodi a nodi arfer gorau a chynnig amrywiaeth o opsiynau/atebion posibl pan fo angen ar draws yr awdurdod.
- Cefnogi gwaith gyda Darparwyr, swyddogion y Cyngor, unigolion sy'n derbyn gwasanaethau a rhanddeiliaid eraill i nodi cyfleoedd a datblygu trefniadau ar gyfer cyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd neu ailgynllunio rhai sy'n bodoli eisoes er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i unigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth.
- Helpu i ddylunio, creu a gweithredu fframwaith monitro a sicrhau ansawdd ar gyfer gofal cymdeithasol.
- Bod yn gyswllt allweddol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol (e.e. Darparwyr, Defnyddwyr Gwasanaethau, Gweithwyr Cymdeithasol, Arolygiaeth Gofal Cymru, yr Heddlu, Iechyd) i sicrhau bod cydymffurfiaeth gytundebol a'r canlyniadau gorau yn cael eu sicrhau i drigolion Caerdydd a'r Awdurdod Lleol.
- Cyfrannu at gyflawni amcanion strategol a gweithredol blaenoriaethau'r Cyngor a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae pobl leol (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed) yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yng Nghaerdydd, ac sydd â gwybodaeth am y sector Gofal Cymdeithasol gan gynnwys profiad monitro contractau.

Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o weithio o fewn y maes gofal cymdeithasol, a dealltwriaeth o gomisiynu gofal cymdeithasol, caffael a deddfwriaeth.

I fod yn rhan o Dîm sy’n ymrwymedig i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.
Person sy'n gwerthfawrogi ymarfer proffesiynol.

Dull rhagweithiol o sicrhau ansawdd o fewn y gwasanaeth, gan geisio hyrwyddo arfer da.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn addas i’w rhannu. Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03595



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n tîm deinamig. Byddwch yn rheoli'r tîm Polisi a Datblygu. **Am Y Swydd** Ynglŷn â’r swydd** Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli, datblygu, gweithredu a monitro strategaethau a pholisïau allweddol. Byddwch yn cymryd rôl arweiniol wrth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Diben y Tîm Gweithredu Lleol yw gwella cymdogaethau drwy greu lleoedd gwell, glanach a diogelach i fyw ynddynt i drigolion. Mae’r Tîm yn cydweithio â thrigolion yn y gymuned i feithrin perthynas dda ac yn annog y gymuned i ymgysylltu â’r gwaith o gynnal a chadw'r ardaloedd lleol. Mae’r tîm yn chwilio am Gynorthwy-ydd Gweithredu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Chwarae Teg Full time

    Please also see our website for the full job description **HEAD OF POLICY, PUBLIC AFFAIRS AND RESEARCH** **Permanent position - £40,900 per annum.** **Closing date - Wednesday 16th August 2023 at 9:00am** **Interviews - 21st & 22nd August 2023** **Equality, Diversity and Inclusion** The Head of Policy, Public Affairs and Research will report to the...

  • Prentis Corfforaethol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf a mwyaf medrus yng Ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth cynllunio yn cynnwys tri Thîm. Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu a Chreu Lle; a Rheoli Datblygu...


  • Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Senior Evaluation Lead** Cardiff or St Asaph (with hybrid working) **The Organisation** At Social Care Wales, we provide leadership and expertise in social care and early years in Wales. Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers. To do this, we lead on developing and regulating the...


  • Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Y Sefydliad Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Rewilding Britain Full time

    Rewilding Britain - Cydlynydd Eiriolaeth Cymru Ers i Rewilding Britain gael ei sefydlu yn 2015, mae ailwylltio wedi newid o fod yn syniad arbenigol i chwarae rôl bwysig yn y frwydr yn erbyn rhai o'r heriau byd-eang mwyaf a wynebir gennym. Mae Rewilding Britain yn rhan annatod o'r newid hwn, yn gweithredu fel catalydd ar gyfer trafod a gweithredu, ac yn...

  • Swyddog Cynllunio

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu...


  • Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    **Eich gwaith** - Gweithio yn y Vulcan, gan oruchwylio'r tîm yn uniongyrchol a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol bob amser - Bod yn atebol am sicrhau bod y Vulcan yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth a rheoliadau, gan gynnwys diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch - Sicrhau’r gwerthiant ac elw gorau posibl a chyrraedd targedau trwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn torri tir newydd ymysg rhanbarthau’r Deyrnas Unedig o ran hyrwyddo clystyrau diwydiannol blaenoriaethol sy’n cyflawni ar uchelgais ac sydd o safon orau’r byd. Rydym wedi cyflawni llawer yn barod mewn Technoleg Ariannol, Technoleg Feddygol, Seiberddiogelwch,...

  • Senior Lecturer

    1 month ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...


  • Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Digital Innovation Lead** Cardiff or St Asaph (with hybrid working in the UK) **The Organisation** At Social Care Wales, we provide leadership and expertise in social care and early years in Wales. Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers. To do this, we lead on developing and...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    2 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...