See more Collapse

Swyddog Cynllunio

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu Lleoedd; a Rheoli Datblygu Anstrategol a Gorfodaeth. Gyda’n gilydd, rydym yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni a rheoli twf y ddinas drwy gyfrwng y gwaith canlynol:

- gweithredu fframwaith polisi yn seiliedig ar gynlluniau - paratoi cynlluniau a chanllawiau;
- cyflawni datblygiadau newydd drwy uwch-gynllunio a chreu lleoedd;
- darparu gwasanaeth rheoli datblygu effeithlon - gan brosesu’r nifer fwyaf o geisiadau cynllunio yng Nghymru; a
- gweithio’n barhaus i wella perfformiad ac effeithlonrwydd.

Mae canlyniadau cadarnhaol y Gwasanaeth yn cynnwys:

- creu’r cartrefi sydd eu hangen ar bobl, yn enwedig tai fforddiadwy;
- cynhyrchu buddsoddiad sylweddol yn y ddinas a chefnogi’r economi leol;
- cymeradwyo cynlluniau newydd sy’n creu ystod eang o swyddi;
- sicrhau seilwaith newydd drwy gynigion datblygu;
- cymeradwyo cynlluniau sy’n cefnogi rôl canol y ddinas a chanolfannau lleol;
- sicrhau bod datblygiadau newydd yn ymateb yn gadarnhaol i gyd-destun lleol;
- creu lleoedd sy’n ddeniadol i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr; a
- gwarchod a gwella’r amgylchedd adeiledig a naturiol.

**Am Y Swydd**
Mae’r swydd hon yn y tîm Rheoli Datblygu Anstrategol a Gorfodaeth sy’n delio â’r nifer fwyaf o geisiadau o fysg holl awdurdodau Cymru, a hynny o gryn dipyn. Mae’r Tîm yn perfformio’n dda ac mae’r lefelau o foddhad cwsmeriaid yn uchel ac yn parhau i wella bob blwyddyn er gwaethaf y llwyth achos mawr.

Mae’r Tîm yn delio ag ystod o geisiadau gan gynnwys caniatâd hysbysebu, newidiadau i ddeiliaid tai a chynlluniau tai a masnachol mwy sy’n cyfrannu at dwf a gynllunnir y ddinas fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Gan helpu i reoli’n effeithiol sut mae Caerdydd yn datblygu, bydd deiliaid y swyddi’n helpu’r Tîm i gyflawni’r gwaith canlynol:

- negodi a phenderfynu ar geisiadau ar gyfer cynigion datblygu anstrategol, adnewyddu, amrywio amodau, cymeradwyaeth ymlaen llaw, ceisiadau hysbysebu, diwygiadau cynllunio ansylweddol, tystysgrifau datblygiadau cyfreithlon a chydsyniadau treftadaeth;
- cyflawni amodau;
- amddiffyn penderfyniadau cynllunio’r Cyngor mewn apeliadau;
- cynorthwyo â’r swyddogaeth orfodi; a
- darparu gwasanaethau diamod a rhai statudol cyn gwneud cais.

Mae manylion llawn dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a all reoli llwyth achos amrywiol a phrysur o geisiadau ac ymholiadau cynllunio cyffredinol.

Bydd gennych gymhwyster cynllunio trefol neu gymhwyster cyfatebol, sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i reoli blaenoriaethau lluosog. Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad o reoli datblygu gyda ffocws ar gyflawni canlyniadau o ansawdd.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Wrth gwblhau’r ffurflen gais, sicrhewch fod eich datganiad yn dangos tystiolaeth eich bod yn bodloni pedwar Cymhwysedd Ymddygiadol craidd y Cyngor, ynghyd â’r sgiliau a’r profiad hanfodol/dymunol yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00186

We have other current jobs related to this field that you can find below

  • Swyddog Cynllunio

    5 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf ac yn un o'r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi'r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.Mae'r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu Lleoedd; a Rheoli...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy'n tyfu gennym.**Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o brofiad...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12292** **Teitl y Swydd**:Swyddog Ymgysylltu x 2** **Contract: Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad)** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ymgysylltu o fewn adrannau Academaidd Coleg Caerdydd a'r Fro. Lleolir y...

  • Swyddog Cyfathrebu

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:CO2023** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cyfathrebu** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £28,648 - £30,599 y flwyddyn** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Swyddog Cyfathrebu wedi’i leoli o fewn tîm Marchnata a Chyfathrebu mewnol deinamig y Coleg. Byddwch yn gweithio â’r...

  • Swyddog Arweiniol

    4 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd...

  • Swyddog Arweiniol

    5 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.**Am Y Swydd**Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae'n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...

  • Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Cwmni newydd yw Adnodd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, dwyieithog ac o’r ansawdd uchaf i gyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr...

  • Cardiff, United Kingdom WJEC CBAC Ltd Full time

    **Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu** Cyflog: £27,639 - £29,445 y flwyddyn Math o gontract: Parhaol, Llawn amser Hoffem benodi Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu cyfrwng Cymraeg i ymuno â'n tîm AD. Gan gydweithio'n agos â'r Uwch Bartner Busnes AD: Datblygu Sefydliadol, byddwch chi'n cefnogi'r gwaith o ddarparu strategaethau Dysgu a Datblygu ac Ymgysylltu â'r...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Rydym yn chwilio am Brif Swyddog Cynaliadwyedd (Bwyd) i ymuno â'n Tîm Ynni a Chynaliadwyedd sy'n tyfu yn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd.**Am Y Swydd**Yn ddiweddar, mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi Caerdydd Un Blaned, ei strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Mae gweledigaeth Caerdydd Un Blaned ar gyfer awdurdod...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o'r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd.Mae...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...

  • Cardiff, Wales, Wales, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    Cwmni newydd yw Adnodd a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad hawdd i bob dysgwr ac athro at adnoddau arloesol, dwyieithog ac o’r ansawdd uchaf i gyfoethogi eu profiad o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd Adnodd yn darparu cyfeiriad strategol ac yn gweithio gydag ymarferwyr a chrewyr cynnwys ar draws y dirwedd addysg i gomisiynu a sicrhau ansawdd yr...

  • Cardiff County, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time