Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd.

Mae Crosslands yn cynnig gofal o safon uchel i 6 o bobl ifanc 11-17 oed, gan fodloni anghenion pobl ifanc drwy hyrwyddo’r Fframwaith Arwyddion Diogelwch, sef dull arloesol yn seiliedig ar gryfderau sy'n cynnig lleoliadau sefydlog, diogel a meithringar. Fel tîm, rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd adferol, diogel, meithringar a strwythuredig sy'n cefnogi lles corfforol ac emosiynol.

Mae'n bosibl bod cartref teuluol neu leoliad blaenorol y bobl ifanc wedi methu. Maent wedi wynebu argyfwng yn eu bywydau ac o ganlyniad gallant arddangos amrywiaeth o symptomau ac ymddygiadau sy'n seiliedig ar drawma.

Mae ein tîm yn cynnig cymorth uniongyrchol, gan sicrhau ein bod yn cynnig amgylchedd cynnes a chroesawgar o'r cychwyn cyntaf.

Rydym yn cydnabod ac yn hyrwyddo anghenion unigol, unigryw ac amrywiol pobl ifanc a, pha fo'n briodol, yn cynnal ac yn cryfhau eu perthynas gyda theuluoedd, brodyr a chwiorydd a phobl eraill y maent wedi dweud wrthym sy’n bwysig iddynt.

Mae ein tîm yn cynnwys Rheolwr, 2 Ddirprwy, 2 Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl, 14 Swyddog Gofal Plant Preswyl, Staff sy’n Effro dros nos, 2 Gynorthwy-ydd Domestig, 1 Swyddog Cymorth Busnes a Pherson Cynnal a Chadw.

**Am Y Swydd**
Rydym yn chwilio am **Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl** i ddod i ymuno â'n tîm

Bydd gennych brofiad helaeth o weithio gyda phobl ifanc gydag ymddygiad cymhleth mewn lleoliad preswyl.

Gan weithio fel Uwch-swyddog Gofal Plant Preswyl, rhaid i chi fynd gam ymhellach ar ran y bobl ifanc - gan sicrhau eu bod yn cael profiadau a pherthnasoedd cadarnhaol wrth dyfu i fyny i'w galluogi i deimlo'n ddiogel ac yn hyderus ar gyfer eu dyfodol.

Er mwyn cyflawni'r rôl hon rhaid i chi allu cynnig profiad ac arbenigedd wrth weithio gyda phobl ifanc yn Crosslands i sicrhau eu bod yn cymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Rhaid i chi allu meithrin, cynnal ac adfer perthnasau gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Mae cyfrannu at hybu iechyd a lles cymdeithasol y bobl ifanc yn hanfodol, yn ogystal â chymryd rhan yn y gwaith o gynnal amgylcheddau ffisegol, cymdeithasol ac emosiynol effeithiol.

Uwch Swyddogion Gofal Plant Preswyl yw'r gweithwyr cyswllt ar gyfer addysg ac iechyd gan sicrhau bod cyfleoedd a chyflawniadau i bobl ifanc yn cael eu hyrwyddo er lles pobl ifanc.

Mae uwch swyddogion yn cyfrannu at asesu anghenion, canlyniadau a nodau'r person ifanc gan ddatblygu ac adolygu Cynlluniau Personol yn unol â gofynion rheoliadol.

Fel Uwch Swyddog, byddwch yn dangos sgiliau arwain a bydd rhaid i chi fodelu gofal da a chyson i gydweithwyr yn ogystal â goruchwylio a mentora, ac ar adegau, bydd rhaid i chi redeg y cartref yn absenoldeb y rheolwr a'r dirprwyon.

Mae cydymffurfio â'r holl bolisïau, gweithdrefnau a gofynion rheoleiddiol yn rhan hanfodol o’r rôl.

Mae’n rhaid i Uwch Swyddogion gyfrannu at wella'r cartref gan gynnwys cynllunio, cydgysylltu a rhoi prosiectau penodol ar waith.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ofalu am y bobl ifanc.

Byddwch yn frwdfrydig, yn meddu ar lythrennedd emosiynol, yn frwdfrydig iawn, yn dangos agwedd "gadarnhaol" ac yn barod i fynd gam ymhellach, yn barod i ddysgu ac i rannu profiadau.

Er mwyn gwneud cais am y swydd, mae'n rhaid i chi gael Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc - Cymru a Gogledd Iwerddon).

Bydd gofyn i chi weithio ar sail rota 4 wythnos lle mae'r patrymau shifft yn cynnwys sifftiau cynnar, sifftiau hwyr, cysgu i mewn, penwythnos a gweithio ar wyliau banc. Byddwch yn rhan o rota ar alw (y tu allan i oriau swyddfa) pan fo angen.

Gan weithio mewn modd cadarnhaol a pharchus, byddwch yn cynnig gofal unigol drwy ddatblygu perthnasoedd proffesiynol ac effeithiol.

Byddwch yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o anghenion sylfaenol person ifanc a'i hawliau. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn gallu cyfathrebu a gweithio'n unigol ac fel aelod o dîm, gyda phobl ifanc, eu teuluoedd, cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol.

**YR HYN Y GALLWN EI GYNNIG I CHI**

Swydd barhaol amser llawn mewn Cartref Plant sefydledig yn gweithio i Gyngor Caerdydd.

Yn ogystal â'r cyflog blynyddol, cynigir tâl ychwanegol am weithio gyda’r nos (ar ôl 8pm), ar benwythnosau, cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn ac ar alw.

Hawliau gwyliau blynyddol hael a chynlluniau pensiwn.

Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus gyda chyfleoedd hyfforddi rheolaidd.

Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Gan fod hon yn rôl mor ddiddorol,



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Iechyd ac Anabledd Plant (IAAP) Caerdydd Gan fabwysiadu dull Arwyddion Diogelwch, bydd eich gwaith rheoli achosion a monitro risgiau yn cynnwys cynnal amrywiaeth o asesiadau a gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth - ar sail Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym yn...

  • Uwch Swyddog Cyngor

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...

  • Swyddog Hyb

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...

  • Swyddog Effro’r NOS

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    Am Y Gwasanaeth Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...

  • Swyddog Gweinyddol

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Staff Effro Dros Nos ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r ddarpariaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys taliad atodol ar sail y farchnad o £3000 pro-rata yn ychwanegol at y cyflog a nodir a lwfans Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy o £2800 pro-rata lle bo hynny'n berthnasol. Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Nhîm...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy’n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...