Swyddog Gofal Plant Preswyl

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i ddiwallu eu hanghenion unigol a goresgyn heriau sy'n eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos, yn ychwanegol at eich cyflog.

Byddwch yn derbyn taliad chwyddo cyflog ychwanegol o 30% ar ôl 8pm yn ystod yr wythnos, 50% ar benwythnosau a £38 ar gyfer dyletswyddau cysgu dros nos.

**Am Y Swydd**
Mae'n cymryd math arbennig o berson i neilltuo ei yrfa i gefnogi eraill. Byddai eich amynedd, eich empathi a'ch natur ofalgar yn eich gwneud yn berson delfrydol i gefnogi unigolion sy'n defnyddio ein cartref seibiant byr yn Nhŷ Storrie. Os ydych chi'n teimlo mai dyma'r math o berson ydych chi, yna chi yw'r person yr ydym yn chwilio amdano.

Byddwch yn gweithio mewn tîm sy'n cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, meithrin perthnasau priodol a chael hwyl, bod yna bob cam o’u datblygiad. Mae angen i chi fod yn barod i ddysgu a rhannu profiadau, meddu ar sgiliau a gwybodaeth tra hefyd yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd eich rôl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal uniongyrchol a chymorth effeithiol i bobl ifanc yn ein cartref seibiant byr i'w galluogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol gofal plant.

Mae pob diwrnod yn wahanol, a byddwch yn wynebu heriau newydd, mae arnom angen aelodau o staff sydd ag agwedd gadarnhaol, sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol i'r bobl ifanc yn eu gofal.

Mae angen i’n tîm helpu i gydnabod a hyrwyddo unigoliaeth, natur unigryw ac anghenion amrywiol pobl ifanc tra'n darparu amgylchedd meithringar a chadarnhaol.

**Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwch yn derbyn**:

- Hawliau i wyliau blynyddol cystadleuol a chynlluniau pensiwn.
- Help a chefnogaeth i gwblhau:

- Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (Gofal Cymdeithasol Cymru)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 2 (Craidd)
- Cymhwyster Plant a Phobl Ifanc Lefel 3 (Ymarfer)
- Anogir a chefnogir datblygiad proffesiynol parhaus a chynnydd o fewn y proffesiwn a chynigir cyfleoedd hyfforddi rheolaidd.
- Cyfleoedd hyfforddi i ddysgwyr Cymraeg ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
- Darperir goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol.
- Mynediad at wasanaethau lles staff CareFirst.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant a phlant sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn a pherson ifanc, a byddant yn gweithredu i ddiogelu ei les. Maent yn cydnabod bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol Cyngor Caerdydd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Job Reference: PEO01680



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio 2 Gweithiwr Cymdeithasol profiadol a pharhaol i ymuno â'n tîm newydd ac arloesol a fydd yn adolygu Cynlluniau Gofal a Chymorth yn annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.** Byddwch yn ymuno â Hyb Adolygu gwell a diwygiedig, yn eistedd ochr yn ochr â Chadeiryddion Cynadleddau...

  • Swyddog Effro’r NOS

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Staff Effro Dros Nos ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r ddarpariaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Iechyd ac Anabledd Plant (IAAP) Caerdydd Gan fabwysiadu dull Arwyddion Diogelwch, bydd eich gwaith rheoli achosion a monitro risgiau yn cynnwys cynnal amrywiaeth o asesiadau a gweithredu ac adolygu cynlluniau gofal a chymorth - ar sail Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym yn...

  • Rheolwr Cofrestredig

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12322** **Teitl y Swydd**:Darlithydd mewn Gofal Plant** **Contract**:0.5 Cyfwerth â llawn amser, Cytundeb Cyfnod Penodol o fis Awst 2024 tan fis Gorffennaf 2025** **Cyflog: £24,051 - £47,333 pro rata, (yn ddibynnol ar brofiad)** **Oriau**: 18.5 awr yr wythnos** **Lleoliad**:Caerdydd** Mae swydd wag gyffrous ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau’r Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Swyddog Gweinyddol Llawn-amser ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r...

  • Swyddog Hyb

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs Full time

    Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs is delighted to be expanding its team, and offering an exciting opportunity for the right person to fill the following position: **Welsh Language Training Officer (WL/TO/06/23)** - £28,226 per annum, increasing to £30,151 upon successful confirmation in post - 18.5 hours per week - This position will be based from our...

  • Swyddog Storfa

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Swyddog Storfa wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfle yn Nhîm Plant Digwmni Sy’n Ceisio Lloches. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n rhoi...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hon yn swydd newydd sbon - a ddatblygwyd er mwyn creu rhywfaint o gapasiti ymroddedig ac arbenigol o ran ymgysylltu â darparwyr a siapio a rheoli'r farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartref Gofal allanol yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Deall gwybodaeth darparwyr am y farchnad a thueddiadau; deall y strwythur a'r capasiti sydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn '_Ddinas sy’n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan...