Rheolwr Cofrestredig

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y tri chartref yn dal cyfanswm o bedwar person ifanc ac yn cael eu cefnogi'n llawn gan dimau aml-broffesiynol.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn gyfle i arloesi yn y ffordd yr ydym yn deall anghenion y grŵp pwysig hwn o bobl ifanc. Bydd y model aml-broffesiynol hwn yn gweithio ar sail dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) ac sy’n seiliedig ar drawma i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau arwain a rheoli gwych, gan sicrhau bod y lleoliadau yn bodloni pob safon reoleiddiol er mwyn cynnig gofal o safon ardderchog i’r plant a’r bobl ifanc sy’n preswylio yno am hyd at 12 wythnos. Y nod yw deall eu hanghenion yn fwy trylwyr a sicrhau llwybr neu leoliad a all fodloni eu hanghenion.

Bydd angen i chi allu bodloni gofynion Rheoliadau'r Gwasanaethau a Reoleiddir.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i chi feddu ar y cymwysterau priodol a bod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ogystal â meddu ar brofiad helaeth o weithio mewn lleoliad gofal plant preswyl ar lefel reoli. Bydd angen agwedd bositif a gweithgar, ynghyd â thechnegau rheoli effeithiol a phrofiad o weithredu newid ac arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau. Mae sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i negodi a chyfryngu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

***Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02782


  • Rheolwr Cofrestredig

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Gwasanaethau Plant - Preswyl** **Rheolwr Cofrestredig** Mae disgwyl i recriwtio i gartref plant newydd Caerdydd agor ym mis Ionawr 2024 Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio rheolwr ar gyfer ein tri Chartref newydd i Blant dan Asesiad, a fydd yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    15 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig. Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn un...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Gabalfa, a leolir yng Ngogledd Orllewin Caerdydd. Rydym yn dîm mawr, deinamig sy'n delio ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd â dalgylchoedd gwahanol. Mae gennym un...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...