Rheolwr Tîm Ardal

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig.

Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Caiff ei chyfoethogi gan amrywiaeth ei phobl. Ar ben hynny, Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rydyn ni eisiau sicrhau bod Caerdydd yn ddinas sydd â phlant a phobl ifanc wrth ei chalon, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu gan bawb ac yn lle gwych i gael eich magu.

Mae angen ymarferwyr ar blant Caerdydd sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i’r unigolyn ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru gan sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond _y gorau. Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu trwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Rhieni a theuluoedd sy'n cael y dylanwad mwyaf sylweddol ar blant ac ar eu bywydau yn y dyfodol. Ein cred ni yw mai’r canlyniadau gorau i blant yw pan gânt eu cefnogi i dyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd eu hunain, y gred hon fu'r sbardun y tu ôl i'n strategaeth '_symud cydbwysedd y gofal_' sydd yn, ac a fydd yn parhau i fod yn, ganolbwynt i ni wrth symud ymlaen dros y 3 blynedd nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
**Am Y Swydd**
Arweinir y tîm gan Reolwr Gweithredol parhaol profiadol a byddwch yn ymuno â thri rheolwr tîm sefydledig i gwblhau'r tîm. Byddwch yn olynu’r rheolwr sy’n gadael sy’n chwilio am heriau newydd ar ôl arwain tîm sefydlog gyda gweithwyr parhaol sy’n perfformio i lefel uchel.

Gan ymuno â'r tîm byddwch yn cynnig arweiniad i dîm o weithwyr cymdeithasol a staff cymorth a dau Brif weithiwr Cymdeithasol. Bydd y Prif Weithiwr Cymdeithasol yn eich cynorthwyo i oruchwylio staff a dirprwyon. Bydd eich apwyntiad yn ein galluogi i wneud y cam olaf yn ein model Ardal ac yn ein galluogi i weithio o fewn ardaloedd clwstwr ysgolion sy'n cyd-fynd yn agos â'r cymunedau a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gwasanaethu'r cymunedau hynny. Rhagwelir y bydd y rhwydwaith agos hwn o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r gymuned yn creu '_pentref o fewn y ddinas'_ rithwir i gefnogi pob plentyn yn y gymuned i ffynnu.

O fewn ardal ddaearyddol y tîm byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy asesiad cadarn, cynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymyrraeth effeithiol i'w cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r timau'n gweithio o ddull sy'n seiliedig ar gryfderau gan ddefnyddio modelau fel Fframwaith Arwyddion Diogelwch ac Ailuno i lywio ymarfer a diwallu anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae gennym amrywiaeth amrywiol o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn modelu’r dull Arwyddion Diogelwch, a bydd yn gyfrifol am sicrhau bod safonau arferion gwaith rhagorol ar waith yn y timau, a diweddaru a datblygu gwybodaeth am waith ymchwil, arferion, mentrau a gweithdrefnau newydd ac yn defnyddio’r rhain wrth oruchwylio a chynllunio ar gyfer plant.

Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, yn ogystal â phrofiad sylweddol mewn amgylchedd Gwasanaethau wedi'i Dargedu gyda goruchwyliaeth staff a myfyrwyr. Byddwch yn gallu gweithio’n dda mewn tîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Yn weithredol o 1 Ebrill 2024, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£50,441- £53,474) Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddioge



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Gyngor Caerdydd Ganolfan Derbyn Larymau a Theledu Cylch Cyfyng achrededig sy'n llawn offer ac sy'n cynnig gwasanaeth 24/7 365 diwrnod y flwyddyn i lawer o'r adeiladau uchel a safleoedd y cyngor ledled y Ddinas. Yn gysylltiedig â Chanolfan Derbyn Larymau'r Cyngor mae'r tîm Wardeiniaid Ardal. Mae'r wardeiniaid yn gweithredu fel...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Wasanaethau Plant Caerdydd Bartneriaeth a Gwasanaeth Diogelu Pobl Ifanc rhag Camfanteisio (SAFE) sy'n goruchwylio ei waith sy'n gysylltiedig â Chamfanteisio ar Blant, Plant Coll a Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol y Swyddfa Gartref ar gyfer Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth Fodern. Mae Mynd i'r Afael â Chamfanteisio ar Bobl Ifanc...

  • Rheolwr Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter teithio byr, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, a llwybrau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...

  • Dirprwy Reolwr Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n...

  • Dirprwy Reolwr Tîm

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cyfoeth Naturiol Cymru Natural Resources Wales Full time

    Tîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau Cyflog cychwynnol: £41,150 yn codi i £46,147 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser) Math o gytundeb: Parhaol  Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor –...

  • Rheolwr Arlwyo Ardal

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Mae'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol swydd wag gyffrous ar gyfer Rheolwr Trydanol Cymwys; byddwch yn gyfrifol i sicrhau bod y gofynion trydanol statudol ar gyfer stoc ddomestig y cyngor yn cael eu bodloni yn ogystal â bod yn rheolwr llinell o ddydd i ddydd i drydanwyr tai. **Am Y Swydd** Yn ychwanegol, bod yn gyfrifol am sicrhau bod...

  • Rheolwr Datblygu

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Tai’r Cyngor i helpu i lywio’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy ar draws y ddinas. Oherwydd maint ein rhaglen ddatblygu, rydym yn recriwtio Rheolwr Datblygu i helpu i reoli'r rhaglen ddatblygu cyn contract, gan lywio ein prosiectau adeiladu o’r newydd o’r cam dylunio cychwynnol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Mecanyddol a Thrydanol cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o peirianwyr mecanyddol a thrydanol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni ystod eang o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig cyfle i ymuno â nhw fel Rheolwr Gweithredu a Chyflenwi gyda’r Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae'r Tîm...

  • Rheolwr Cydymffurfio

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu...

  • Rheolwr RHaglen

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...

  • Arweinydd Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae buddsoddi yn y Ddinas yn golygu bod canol y ddinas yn cael ei adfywio'n helaeth. Mae gan y Cyngor dîm o beirianwyr priffyrdd proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd am recriwtio prif weithwyr cymdeithasol yn ein timau ardal a'r gwasanaeth Iechyd ac Anabledd Plant. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr angerdd a'r brwdfrydedd i ddarparu dim ond y gwasanaeth 'gorau oll' i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth a'r fframwaith cyllidebol. Bydd yr ymgeisydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw hyd at £46,591 gan gynnwys taliad atodol ar sail y farchnad. Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei...