Rheolwr Mecanyddol a Dylunio

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Mecanyddol a Thrydanol cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o peirianwyr mecanyddol a thrydanol.

Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladu ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. I’r perwyl hwn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, lles a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn eu cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.

**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau bod gwasanaethau dylunio, asesu a dichonoldeb mecanyddol a thrydanol technegol yn cael eu darparu’n effeithiol, a chynorthwyo'n rhagweithiol gyda’r gwaith o gyflawni ystod o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladu i safon gyson uchel yn unol â gofynion y cwsmer.

Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm o beirianwyr mecanyddol a thrydanol mewnol i gyflawni'r canlyniadau gofynnol, a hefyd lle bo angen yn sgil rhesymau capasiti neu dechnegol, bydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau proffesiynol a gwaith adeiladu i sefydliadau allanol.

Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:

- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Beiriannydd Mecanyddol a/neu Drydanol (Siartredig neu gyfatebol) gyda phrofiad da o reoli timau peirianneg â chyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn perthynas â phrosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladu mewn amryw fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:

- gwybodaeth dda am y polisïau a’r fframweithiau rheoleiddio sy'n berthnasol i adeiladu a rheoli adeiladu;
- gwybodaeth dechnegol dda am dechnegau adeiladu mecanyddol a thrydanol;
- profiad ymarferol o gomisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu;
- profiad ymarferol o nodi a rheoli risg, yn enwedig rhai o natur iechyd a diogelwch;
- sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- sgiliau trefnu personol da a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael trafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00388



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Rheolwr Prosiect

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Venture Graduates Full time

    **LOCATION**: Cardiff **EMPLOYER NAME**: spire renewables **APPLICATION DEADLINE**: 13/08/2023 **SALARY**: 21k/year - 21k/year **Great opportunity for a Graduate to become part of Spire Renewables: a fast-growing MCS accredited Renewable Energy Company based in Taff’s Well, Cardiff who design, supply and commission Air, Ground and Water Source Heat...

  • Arweinydd Is-adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...

  • Arweinydd Is-adran

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddinas fawr arall yn y DU y tu allan i Lundain, a disgwylir iddi dyfu’n fwy na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru gyda’i gilydd. Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...