Rheolwr Prosiect

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y cyd ar gyfer y Rhanbarth.

Mae’r agenda uchelgeisiol hon yn cael cymorth gan Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a'r Cyllid Tai â Gofal.

Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rydym yn datblygu Tîm Cydweithredu Prifddinas-Ranbarthol i'n cefnogi i gyflawni'r agenda hon a gweithredu ein strategaeth gyfalaf integredig 10 mlynedd.

Bydd y tîm yn cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd ar ran y partneriaid rhanbarthol. Bydd yn cael ei arwain gan Reolwr Rhaglen a'i gefnogi gan Reolwr Prosiect a Swyddog Cymorth Prosiectau. Bydd y tîm yn darparu cymorth strategol a gweithredol i bartneriaid o bob rhan o’u sefydliadau i ddarparu ystod eang o gynlluniau a phrosiectau cyfalaf. Bydd y swyddfa hefyd yn gyswllt â thîm cyfalaf Llywodraeth Cymru ac yn gweithio fel rhan o'n tîm BPRh ehangach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Os oes gennych chi brofiad o ddatblygu Cynlluniau Cyfalaf, Rhaglen neu Reoli Prosiectau, efallai mai dyma'r cyfle i chi.
**Am Y Swydd**
Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, dylunio a monitro'r prosiectau cyfalaf trawsbynciol ar gyfer yr ystod o ffrydiau ariannu sy’n cefnogi gwaith y BPRh. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi rheolwr y rhaglen wrth ddylunio a chyflwyno'r rhaglen gyfalaf gyffredinol.

Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â thimau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, awdurdodau lleol, y trydydd sector a chymdeithasau tai i ddeall anghenion cyfalaf ac atebion dylunio presennol ac yn y dyfodol yn llawn.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd a bydd yn gweithio ochr yn ochr â thîm medrus, gwybodus ac uchel ei barch o reolwyr rhaglenni a phrosiectau
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad a gwybodaeth sylweddol o reoli a gweithredu rhaglenni a phrosiectau cyfalaf traws-sefydliadol. Mae dealltwriaeth o’r elfennau sy’n rhan o brosiectau cyfalaf a phrofiad o reoli rhaglenni cyfalaf yn hanfodol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gyda hanes cryf o weithio gyda rhanddeiliaid ar draws ystod o sefydliadau. Bydd ganddo neu ganddi hanes amlwg o weithio mewn amgylchedd ymgynghorol a diddorol, gyda'r gallu i ddylanwadu, trafod a gweithio ar draws timau â disgyblaethau gwahanol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai ac adfywio.
**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. =

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03367


  • Rheolwr Prosiect

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd...

  • Rheolwr Prosiect

    10 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r rôl hon yn rhan o Dîm Diogelwch Cymunedol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion troseddu a gwrthgymdeithasol sy'n cael eu hwynebu ledled Caerdydd. Mae'r tîm yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n cynnwys ffyrdd o fyw ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau, atal trais, datrys problemau...

  • Rheolwr RHaglen

    10 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...


  • Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Y Sefydliad Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal...

  • Commercial Manager

    Found in: Talent UK C2 - 2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description To provide Commercial management and support precontract activity within Wales Route, providing specialist commercial advice, guidance, and recommendations to mitigate commercial risks. Darparu rheolaeth Fasnachol a chefnogi gweithgaredd rhag-gontract o fewn Llwybr Cymru, gan ddarparu cyngor masnachol arbenigol, canllawiau ac...

  • Scheme Project Manager

    Found in: Talent UK C2 - 1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description An exciting opportunity has arisen to join the HEAM Buildings and Structures CEFA/CAFA Programme team as it embarks upon the next stage of expansion. W&W HEAM B&S CEFA/CAFA programme team carries out work region wide from Fishgaurd in the West Wales, through the major cities of Cardiff, Swindon, Reading, London and Plymouth down to...

  • Senior Commercial Manager

    Found in: Talent UK C2 - 1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description To provide commercial management and support activity within the route team’s scope of work, providing specialist commercial advice, guidance and recommendations to mitigate commercial risks. Darparu rheolaeth fasnachol a gweithgaredd cefnogi o fewn cwmpas gwaith tîm y llwybr, gan ddarparu cyngor masnachol arbenigol, arweiniad ac...

  • Prif Beiriannydd

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...

  • Finance Business Partner

    Found in: Talent UK C2 - 1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description To work with the supported business leadership team, under the direction of the Financial Controller/Senior Finance Business Partner, to deliver professional finance and accounting advise. Provides proactive, value add finance support to the business leaders across the function/route. Gweithio gyda'r tîm arweinyddiaeth busnes â...