Prif Beiriannydd

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.**

**Am Y Swydd**
Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n allweddol wrth ddylunio a chyflenwi prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd arwain y tîm bach mewn amgylchedd heriol sy'n cael ei yrru gan elw, gan ddarparu cynlluniau priffyrdd ar gyfer Caerdydd a'r awdurdodau cyfagos. Dyma rai o brif ofynion y rôl:

- Dylunio cynlluniau Priffyrdd yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth bresennol ac arferion da.
- Llunio a gwirio dogfennau contract yn seiliedig ar Ddull Mesur ar gyfer gwaith priffyrdd a NEC4
- Gweithredu fel Rheolwr Prosiect o dan gontract GGC NEC 4.
- Sicrhau bod y gwaith a gyflawnir (yn fewnol neu’n allanol) yn bodloni gofynion y cwsmer ac yn cynorthwyo i gyflawni gofynion statudol a deddfwriaethol.
- Rhaglennu a sicrhau adnoddau ar gyfer gwaith
- Rheoli perfformiad tîm cyflenwi.
- Cydlynu ymgynghorwyr i sicrhau y cyflenwir gwasanaethau.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad amlwg o gyflenwi prosiectau priffyrdd, rhaglennu a sicrhau adnoddau, profiad o fonitro ariannol ac adrodd ar gynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru o fewn awdurdod lleol, dealltwriaeth o ddylunio priffyrdd a chontractau NEC4 a bod yn fedrus yn y defnydd o Microsoft Project.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon cysylltwch â Neil Pugh.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Fel sefydliad sector cyhoeddus mawr, mae’n bwysig i ni ein bod yn cefnogi lles economaidd ein dinasyddion a bod ein gweithlu’n adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethwn yn well. Felly, er nad yw'n ofynnol i wneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion:

- dan 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant o’n cymunedau lleol, gan gynnwys yn arbennig y rhai o gymuned BAME Caerdydd sy'n gallu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00282



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About the service** Yn sgil ailstrwythuro Gwasanaeth mae cyfle gwych wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DACh) newydd ar gyfer Peiriannydd Strwythurol i ymgymryd ag ystod o wasanaethau peirianneg strwythurol ar gyfer ystâd adeiladau annomestig y Cyngor gan gynnwys ysgolion. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a...