Rheolwr Prosiect

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r rôl hon yn rhan o Dîm Diogelwch Cymunedol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion troseddu a gwrthgymdeithasol sy'n cael eu hwynebu ledled Caerdydd. Mae'r tîm yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n cynnwys ffyrdd o fyw ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau, atal trais, datrys problemau yn y gymuned, cydlyniant cymunedol a diogelu cyd-destunol.

Bydd deiliad y swydd hon yn arwain y flaenoriaeth i atal trais trwy gydlynu gwahanol gyfarfodydd a phrosiectau partneriaeth. Byddant hefyd yn sicrhau ein bod yn bodloni rhwymedigaethau statudol y Ddyletswydd Trais Difrifol a ddechreuodd ddiwedd Ionawr 2023, trwy ddatblygu Strategaeth Leol. Bydd y Strategaeth hon yn cynnwys canolbwyntio ar ddiogelu a thrais sy'n gysylltiedig â'r economi gyda'r nos, trais difrifol sy'n ymwneud ag arfau a throsedd cyfundrefnol megis delio mewn cyffuriau, a thrais yn erbyn menywod a merched.

Bydd cyfrifoldebau'r swydd o ddydd i ddydd yn cynnwys rheoli Swyddog Diogelwch Cymunedol i gynorthwyo gyda phrosiectau lleol. Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i'r ymateb wrth fynd i'r afael â'r flaenoriaeth hon ac mae angen archwilio a gwerthuso dulliau ariannu ar y cyd.

Rôl heriol, brysur ac amrywiol yw hon, sy'n ymateb i faterion cymhleth a pharhaus sy'n effeithio ar gymunedau Caerdydd.

**Am Y Swydd**
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm cynyddol sy'n ymgymryd â blaenoriaethau heriol wrth barhau i wneud gwahaniaethau sylweddol wrth fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda phartneriaid.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda Rheolwyr Prosiect eraill sy'n arwain meysydd blaenoriaeth diogelwch cymunedol, i sicrhau cysylltedd a llinell weld glir. Byddwch yn rheoli Swyddog Diogelwch Cymunedol, a fydd yn cynorthwyo gyda'ch ymateb partneriaeth leol.

Byddwch yn gweithio gyda phartneriaid statudol ac anstatudol i ddatblygu modelau datrys problemau, fframweithiau, pecynnau cymorth a dangosfyrddau monitro perfformiad yn effeithiol, sy'n allweddol i werthuso ein canlyniadau.

Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae'r Tîm wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau cyllid sy'n cefnogi ein prosiectau a arweinir gan bartneriaethau ac rydym yn gobeithio parhau i adeiladu ymhellach ar hyn. Bydd y rôl hon yn ceisio ac yn arwain cyfleoedd ariannu a nodir gyda phartneriaid er mwyn ehangu ein hadnoddau a'n hymyriadau i fynd i'r afael â thrais.

Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn frwdfrydig ac yn ymroddedig, gydag ymrwymiad i gyflawni gwaith o ansawdd uchel a chefnogi datblygiad ei gilydd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth am faterion sy'n gysylltiedig â diogelwch cymunedol ac sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth. Mae'r rôl yn gofyn am brofiad o lywodraethu a rheoli prosiectau mewn lleoliad partneriaeth, felly byddwch chi'n gwybod o brofiad personol sut i feithrin perthnasoedd a sut i ddelio â pherthnasoedd gwleidyddol sensitif.

Mae'n bwysig meddu ar brofiad o reoli neu ddirprwyo, gan y bydd angen i chi gymell, datblygu a chefnogi eich staff i lwyddo.

Mae'n rhaid i chi fod yn ddatryswr problemau brwd gydag agwedd gadarnhaol. Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog sy'n hyderus wrth arwain trafodaethau, cyflwyno gwybodaeth ac ysgrifennu sesiynau briffio i wahanol gyfarfodydd uwch am y cynnydd rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â thrais gyda phartneriaid.

Bydd gennych brofiad â thystiolaeth o ddod o hyd i gyfleoedd ariannu a chydlynu’r broses o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Ariennir y swydd hon dros dro tan fis Mawrth 2025. Mae'r rôl hon yn gyfle gwych i ymgeisydd addas ddatblygu ei yrfa neu fynd ar secondiad.

**Sicrhewch fod eich ffurflen gais yn dangos gwybodaeth a phrofiad perthnasol a amlinellir yn y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person amgaeëdig, ynghyd â Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Cyngor Caerdydd.**

Oherwydd natur y swydd hon, mae Archwiliad Heddlu NPV2 yn ofynnol wrth benodi.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Dirprwy Gyfarwyddwr/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

**Oherwydd ein trefniadau gwaith presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn dderbyn ffurflenni cais trwy'r post chwaith.**

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rhai:

- sy’n 25 oed neu’n iau;
- nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
- o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymuned LHDT+ Caerdydd;
- sy’n gallu cyfathrebu’


  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor. **Am Y Swydd** Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn....

  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...

  • Rheolwr Project

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...

  • Rheolwr Gweithredol

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r rôl hon yn rhan o Dîm Diogelwch Cymunedol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion troseddu a gwrthgymdeithasol sy'n cael eu hwynebu ledled Caerdydd. Mae'r tîm yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n cynnwys ffyrdd o fyw ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau, atal trais, datrys problemau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...

  • Project Manager

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Full time

    £32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser) Oriau Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Cytundeb llawn amser hyd fis Mawrth 2027, gydag estyniad posibl yn dibynnu arariannu. Lleoliad: Hwb Caerdydd, o fewn polisi gweithio hybrid. Ynglŷn â’r rôl  Mae gennym gyfle newydd gwerth chweil i Reolwr Prosiect...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description An exciting opportunity has arisen to join the HEAM Buildings and Structures CEFA/CAFA Programme team as it embarks upon the next stage of expansion. W&W HEAM B&S CEFA/CAFA programme team carries out work region wide from Fishgaurd in the West Wales, through the major cities of Cardiff, Swindon, Reading, London and Plymouth down to...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae uned Gwasanaethau 24/7 Cyngor Caerdydd yn gartref i Ganolfan Derbyn Larymau Categori 2, sydd wedi’i hachredu gan ISO a’r Bwrdd Archwiliadau Systemau a Larymau Diogelwch (BASLD) / ystafell reoli Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) sy’n defnyddio detholiad o dechnoleg i sefydlu trawsyriant gyda safleoedd ledled y ddinas ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolion ymrwymedig, sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â'r tîm Iechyd a Lles. Mae ein tîm Iechyd a Lles yn cefnogi cwsmeriaid drwy ddarparu cyngor ar ystod eang o bynciau iechyd a lles a chyngor cyffredinol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cydlynu ac yn cefnogi...