Rheolwr Project

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â'r gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli.

**Ynglŷn â’r swydd**
Bydd Rheolwr y Prosiect yn rheolwr llinell ar dîm bach o staff Ansawdd a Pherfformiad a Swyddogion Cyflawni Canlyniadau o fewn y Gwasanaeth i Mewn i Waith. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dros gyflwyno hawliadau ariannol chwarterol ar gyfer prosiectau wedi eu cyllido’n allanol, arwain ar gyflwyniadau ystadegol, monitro yn erbyn targedau prosiectau a gwella’r gwasanaeth.

Bydd y gwaith yn cefnogi gwaith y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith sy’n darparu cymorth cyflogadwyedd i bobl ledled y ddinas.

**AM BETH RYDYM YN CHWILIO GENNYCH CHI**
O leiaf 2 flynedd o brofiad o oruchwylio a rheoli eraill, i gynnwys hyfforddi a chefnogi. Y gallu i arwain tîm, dangos ymrwymiad i gynnwys staff ac annog cyfathrebu'r naill ffordd a’r llall. Gwybodaeth ardderchog am yr ystod eang o gymorth cyflogadwyedd, cyngor ac arweiniad gyrfaol, gyda phrofiad amlwg. Dealltwriaeth drylwyr o'r ddeddfwriaeth Budd-daliadau Lles gan gynnwys newidiadau Diwygio Lles, a’r effaith ar Gymorth i Mewn i Waith.

Profiad o reoli tîm, sy'n gweithio gyda’r ceiswyr gwaith di-waith sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Profiad helaeth o gwblhau archwilio data gan sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno yn unol â gofynion cyrff cyllido.

Profiad o reoli prosiectau lluosog a ariennir yn allanol (gan gynnwys prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop), gan gynnwys staff, cyllideb a thargedau Profiad o weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol, gan gynnwys gwasanaethau Awdurdodau Lleol.

Profiad o ddatblygu, rheoli a chynnal cronfeydd data ar-lein.

Profiad amlwg o baratoi dogfennau ac adroddiadau o safon uchel.

**GWYBODAETH YCHWANEGOL**
Bydd y swydd yn gofyn am weithio o nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys Hyb y Llyfrgell Ganolog a Hybiau Cymunedol eraill.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Dirprwy Gyfarwyddwr / Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Cyflwyno Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: PEO02752


  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd...

  • Project Manager

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Remote Work Freelance Full time

    Project Manager (Wales) £32,145 per annum (pro rata for part time hours) (Ref: SUS4245) Full Time 37.5 hours per week – happy to talk flexible working.  FTC to March 2027, with possible extension depending on funding. Base: Cardiff Hwb, within a hybrid working policy. About the role We have a new and worthwhile opportunity as a Project...

  • Project Manager

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Full time

    £32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser) Oriau Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Cytundeb llawn amser hyd fis Mawrth 2027, gydag estyniad posibl yn dibynnu arariannu. Lleoliad: Hwb Caerdydd, o fewn polisi gweithio hybrid. Ynglŷn â’r rôl  Mae gennym gyfle newydd gwerth chweil i Reolwr Prosiect...

  • Prif Beiriannydd

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...


  • Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    Cymraeg: Rydym yn Cyflogi: Swyddog Cymrodoriaeth - The Learned Society of Wales (cymdeithasddysgedig.cymru) Ydych chi'n chwilio am rôl sy'n cyfuno eich sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'ch arbenigedd o ran trefnu a rheoli prosiect? Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus iawn, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol - sy'n gallu rhedeg a...

  • Swyddog Cymrodoriaeth

    8 hours ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full time

    Cymraeg:Rydym yn Cyflogi: Swyddog Cymrodoriaeth - The Learned Society of Wales )Ydych chi'n chwilio am rôl sy'n cyfuno eich sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'ch arbenigedd o ran trefnu a rheoli prosiect? Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus iawn, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol - sy'n gallu rhedeg a gwella proses sefydledig yn effeithiol, ar yr un pryd...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...

  • Arweinydd Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae buddsoddi yn y Ddinas yn golygu bod canol y ddinas yn cael ei adfywio'n helaeth. Mae gan y Cyngor dîm o beirianwyr priffyrdd proffesiynol...