Rheolwr Prosiect

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad o fewn Perfformiad a Phartneriaethau. Byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio a chydlynu gweithgareddau prosiect, cefnogi llywodraethu prosiect cryf, a chynnal dogfennau prosiect gofynnol. Byddwch yn rhan o dîm brwdfrydig, ymroddedig a chefnogol iawn, gydag ymrwymiad i gyflawni gwaith o ansawdd uchel.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, sy'n gallu cyflwyno gwybodaeth gymhleth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Mae'n rhaid bod gennych hanes o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus, gyda phrofiad o arwain timau traws-swyddogaethol. Byddwch yn drefnus ac yn gallu rheoli eich tasgau eich hun yn effeithlon, a thasgau eraill, gan flaenoriaethu ac amserlennu gwaith yn ôl yr angen.

Bydd angen bod yn hyderus wrth ddefnyddio TGCh, a byddai’n fanteisiol bod yn gyfarwydd â meddalwedd mwy arbenigol, fel Microsoft Visio a Microsoft Project.

Yn bwysicaf oll, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n frwd dros wella gwasanaethau cyhoeddus ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm effeithiol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd barhaol.

Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Am y gofynion llawn ar gyfer y rôl hon, darllenwch drwy'r Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person. Wrth gwblhau eich cais, rhan Gwybodaeth Ategol y cais yw’r rhan bwysicaf. Rhowch sylw manwl iddi. Yn y rhan hon byddwch yn dweud pam rydych chi’n addas ar gyfer y swydd ac asesir eich cais yn ôl meini prawf y Fanyleb Person.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithiwr gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02878


  • Rheolwr Prosiect

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor. **Am Y Swydd** Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn....

  • Rheolwr Prosiect

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...

  • Rheolwr Project

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...

  • Rheolwr Prosiectau

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion. Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau...

  • Diogelwch Cymunedol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain ar brosiectau diogelwch cymunedol cymhleth sy'n helpu i gefnogi ein cymunedau a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Bydd cyfrifoldebau'r swydd o ddydd i ddydd yn cynnwys arwain tîm o Swyddogion Diogelwch Cymunedol i gydlynu Grwpiau Datrys Problemau. Mae'r Grwpiau Datrys Problemau yn dwyn...

  • Project Manager

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Sustrans Full time

    £32,145 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser) Oriau Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – yn fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Cytundeb llawn amser hyd fis Mawrth 2027, gydag estyniad posibl yn dibynnu arariannu. Lleoliad: Hwb Caerdydd, o fewn polisi gweithio hybrid. Ynglŷn â’r rôl  Mae gennym gyfle newydd gwerth chweil i Reolwr Prosiect...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Diogelwch Cymunedol (TDC) Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau statudol ac anstatudol i nodi, a lliniaru trosedd, anhrefn, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r amcan o leihau troseddu, cefnogi'r rheini sy'n agored i niwed, a chynyddu diogelwch y gymuned. Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol wrthi'n canolbwyntio ar y...