Rheolwr Prosiectau

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cyfranogiad Tenantiaid. Nod y tîm yw dod â chyfleoedd trawsnewid ac ariannu at ei gilydd a defnyddio deallusrwydd a gwybodaeth leol i gynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein dinasyddion.

Mae'r Tîm Cyflenwi Partneriaeth Tai yn rheoli amrywiaeth o Grantiau Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Grant Cymorth Tai, arian Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a'r Grant Plant a Chymunedau.

Mae'r swydd hon yn amodol ar gyllid grant a chaiff ei hadolygu'n flynyddol.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn rheoli nifer o brosiectau allweddol i gefnogi'r gwaith o drawsnewid Gwasanaethau Tai a fydd yn golygu gweithio'n agos mewn partneriaeth ac integreiddio gydag Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant a'r Trydydd Sector.

Bydd deiliad y swydd yn arwain ar nifer o brosiectau sy'n cydgysylltu ac yn gwella'r cynnig Cymorth Tai i Bobl Agored i Niwed yn y Ddinas.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â rheolwyr eraill o fewn ystod o wasanaethau yn y Cyngor a phartneriaid allweddol gan gynnwys Iechyd a'r Trydydd Sector. Bydd y rôl yn golygu arwain ar y gwaith presennol sydd eisoes ar y gweill a datblygu prosiectau newydd i gyflawni'r canlyniadau gofynnol.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn goruchwylio'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau ac ysgogi prosiectau, gan sicrhau aliniad strategol â nodau ac amcanion unrhyw ganllawiau a meini prawf ariannu.

Fel rhan o'r agenda weddnewid bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo gyda'r ystod ehangach o gynllunio gweithredol, datblygu a gweithredu rhaglenni gwaith allweddol sy'n cefnogi cyfeiriad strategol cynllun corfforaethol y Cyngor, y cynllun Lles a'r cynllun Diogelwch Cymunedol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o reoli prosiectau a'r gallu i gyflawni newid yn effeithiol. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus, felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol yn hanfodol. Bydd gennych brofiad o reoli cyllidebau ac adnoddau sylweddol. Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i weithio gyda rhanddeiliaid ar y prosiect i sicrhau ymgysylltiad a chefnogaeth.

Byddai profiad a gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisïau a phrotocolau cysylltiedig mewn perthynas ag iechyd meddwl, gofal cymdeithasol neu dai yn fantais. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael profiad o weithio gyda thechnoleg newydd yn ogystal â meddu ar sgiliau digidol rhagorol. Bydd angen i chi weithio’n dda mewn tîm a gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu Uwch Swyddog Enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol ar ôl darllen y disgrifiad swydd a’r fanyleb person, cysylltwch â Natalie Southgate, Rheolwr Cyflenwi Partneriaethau ar (029) 2053 7277.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03128


  • Rheolwr Prosiectau

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae gennym 8 swydd wag ar gyfer rôl Rheolwr Prosiectau - Cyflawni Uniongyrchol** **Dim ond cyflogeion Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Caerdydd ar Waith a Gweithwyr Asiantaeth sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor ar hyn o bryd, all wneud cais am y swydd hon.** Oherwydd ailstrwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y...

  • Rheolwr Gweithredol

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...

  • Rheolwr RHaglen

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â thîm Datblygu ac Adfywio’r Cyngor. Rydym yn gweithio'n galed i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni cynlluniau adfywio ar draws y ddinas a chynyddu buddsoddiad yn ein cymunedau lleol. Rydym yn darparu prosiectau adfywio ar draws ein hystadau tai, gan gynyddu a gwella cyfleusterau cymunedol a dylunio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Rheolwr RHaglen X 2

    22 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...


  • Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Y Sefydliad Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal...

  • Prif Beiriannydd

    23 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...

  • Rheolwr Prosiect

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r rôl hon yn rhan o Dîm Diogelwch Cymunedol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion troseddu a gwrthgymdeithasol sy'n cael eu hwynebu ledled Caerdydd. Mae'r tîm yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n cynnwys ffyrdd o fyw ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau, atal trais, datrys problemau...

  • Rheolwr Prosiect

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y tîm Polisi a Strategaeth Parcio. Rydym yn cydnabod bod ein dull o ymdrin â pholisi parcio a rheolaeth ymyl y ffordd yn effeithio ar brofiad pawb o Gaerdydd. Fel Peiriannydd Polisi Parcio, byddwch yn flaenllaw wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth parcio ar gyfer y ddinas. O fynd i'r afael â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad o reoli prosiectau a diddordeb mewn cefnogi'r ystod o ddatblygiadau sy'n mynd rhagddynt yng ngwasanaeth rhanbarthol Ar Ffiniau Gofal ARC. Byddai'r rôl yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Bro Morgannwg ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio a...

  • Prif Beiriannydd

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...

  • Scheme Project Manager

    Found in: Talent UK C2 - 2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description An exciting opportunity has arisen to join the HEAM Buildings and Structures CEFA/CAFA Programme team as it embarks upon the next stage of expansion. W&W HEAM B&S CEFA/CAFA programme team carries out work region wide from Fishgaurd in the West Wales, through the major cities of Cardiff, Swindon, Reading, London and Plymouth down to...

  • Rheolwr Tîm

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter teithio byr, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, a llwybrau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hon yn swydd newydd sbon - a ddatblygwyd er mwyn creu rhywfaint o gapasiti ymroddedig ac arbenigol o ran ymgysylltu â darparwyr a siapio a rheoli'r farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartref Gofal allanol yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Deall gwybodaeth darparwyr am y farchnad a thueddiadau; deall y strwythur a'r capasiti sydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Welsh Headings

    23 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Caerdydd yn cynnwys seicolegwyr addysg cyfeillgar, hynod frwdfrydig, gydag ystod o brofiad a diddordebau proffesiynol amrywiol. Mae hwn yn gyfnod o newid i'r gwasanaeth ac mae'r rôl yn cynnig cyfleoedd i fod yn rhan o ddatblygiadau strategol o fewn yr Awdurdod Lleol yn ogystal â chefnogi'r Gwasanaeth...

  • Commercial Manager

    Found in: Talent UK C2 - 2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description To provide Commercial management and support precontract activity within Wales Route, providing specialist commercial advice, guidance, and recommendations to mitigate commercial risks. Darparu rheolaeth Fasnachol a chefnogi gweithgaredd rhag-gontract o fewn Llwybr Cymru, gan ddarparu cyngor masnachol arbenigol, canllawiau ac...

  • Senior Commercial Manager

    Found in: Talent UK C2 - 1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description To provide commercial management and support activity within the route team’s scope of work, providing specialist commercial advice, guidance and recommendations to mitigate commercial risks. Darparu rheolaeth fasnachol a gweithgaredd cefnogi o fewn cwmpas gwaith tîm y llwybr, gan ddarparu cyngor masnachol arbenigol, arweiniad ac...