Rheolwr RHaglen a Phrosiectau

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas.

Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y rôl bwysig y maent yn ei chwarae mewn ymateb i’r agendâu hinsawdd, gweithgaredd corfforol ac iechyd ac mae wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o fuddsoddi a datblygu cynaliadwy.

Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys 395 o barciau a mannau gwyrdd unigol, 15 ohonynt â statws Baner Werdd, 47 o safleoedd coetir, 28 o safleoedd rhandiroedd statudol, 171 o gyfleusterau chwarae a 151 o gaeau chwaraeon / arwynebau chwarae.

**Am Y Swydd**
Gan weithio i un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, mae cyfle rheoli cyffrous yn bodoli i unigolyn ymroddedig a phrofiadol ymuno â grŵp brwdfrydig ac angerddol o swyddogion, sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Parciau, Awdurdod Chwaraeon a'r Harbwr, gan arwain tîm dylunio tirwedd y parciau a swyddogaeth gynllunio i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o fuddsoddiad mewn prosiectau Chwarae a Seilwaith Parciau gyda phrosiectau parciau gwariant gwerth £3 miliwn yn flynyddol ar gyfartaledd.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn dylunio tirwedd, rheoli prosiectau neu faes cysylltiedig, ac yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Lefel amlwg o brofiad o ran datblygu parciau a mannau gwyrdd ac â’r gallu i ysgogi a datblygu unigolion gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn arwyddocaol, a byddwch yn fedrus wrth gefnogi ac annog partneriaid a rhanddeiliaid allweddol, o ystyried lefel yr ymgysylltu, byddwch â sgiliau rhyngbersonol cryf ac mae’r gallu i ddangos cyflawniad wrth ddarparu gwasanaethau drwy bartneriaethau yn ofyniad hanfodol, yn ogystal â’r gallu i reoli cyllidebau sy'n gysylltiedig â chyfraniadau datblygwyr, cyllid cyfalaf a chyllidebau refeniw yng nghyd-destun pwysau ariannol.

Bydd gofyn i chi hefyd gefnogi llunio polisi a strategaeth ar gyfer gwasanaeth dylunio'r parciau, gan sicrhau aliniad i'r themâu allweddol yng Nghynllun Corfforaethol Caerdydd, Deddf Iechyd a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru 2015 a'r polisïau cysylltiedig mewn perthynas â darparu prosiectau. Rhaid i chi hefyd allu gweithio'n agos ac yn effeithiol gydag uwch reolwyr, ac aelodau etholedig, deall prosesau gwleidyddol a rheoli materion sy'n sensitif yn wleidyddol.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Rhaid dangos ymrwymiad hefyd i bolisïau'r Cyngor ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gyda hygrededd, egni a phenderfyniad, byddwch yn effro ac yn ymatebol gyda'r gallu i ddatrys ystod eang o broblemau yn gyflym, gan weithio'n gyflym, o dan bwysau i derfynau amser tra'n cynnal cywirdeb.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ei adnoddau pobl a bydd y rôl yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygiad personol gyda'r ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan yng Nghymru gyfan, dinasoedd craidd a rhwydweithiau a fforymau rhyngwladol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Steve Morris, Rheolwr Gweithredol, Chwaraeon, Hamdden a Datblygu ar 077942396726.

Job Reference: ECO00406


  • Rheolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn dwyn ynghyd ystod o bartneriaid strategol o'r sector statudol, y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg drwy oruchwylio dyluniad a darpariaeth rhaglen gyfalaf ar y...

  • Rheolwr y RHaglen

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd ar raddfa fawr a llwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Gan ddefnyddio atebion arloesol a symud yn gyflym tuag at safon carbon isel rydym yn...

  • Rheolwr Cyflogadwyedd

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom The Open University UK Full time

    **Unit**: The Open University in Wales **Salary**: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 7) **Location**: Cardiff **Please quote reference**: 20515 Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2023, 37 awr yr wythnos **Closing Date**: 5 January, 2023 - 12:00 **Uned**: Brifysgol Agored yng Nghymru **Cyflog**:£35,333- £42,155 y flwddyn (Gradd 7) **Lleoliad**:Gweithio...

  • Uwch Reolwr Prosiect

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn eistedd o fewn y Gyfarwyddiaeth Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, mae Tîm y Rhaglen Drafnidiaeth a'r Tîm Teithio Llesol a Diogelwch Ffyrdd yn gyfrifol am gyflawni rhaglenni a phrosiectau allweddol sy'n gysylltiedig â Phapur Gwyn y Cyngor Gweledigaeth Trafnidiaeth. Mae'r prosiectau'n cynnwys datblygu canol y ddinas, llwybrau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau 18.5hrs Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd...

  • Digital Manager

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Rheolwr Digidol** Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid) **Y cwmni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd cyfleoedd...

  • Swyddog Cymorth

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm Cyllid o fewn Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd. Mae'r tîm Cyllid yn cefnogi Priffyrdd, Trafnidiaeth a Gorfodi Parcio Sifil, **Am Y Swydd** Bod yn atebol i’r Arweinydd Tîm/Is-adran am: Monitro, dyrannu ac adrodd ar weithgaredd ariannol Trafnidiaeth, Priffyrdd a GPS. Rheoli anghenion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor. Prif swyddogaethau’r adran yw: - darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad - rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau - cyfrannu at y gwaith o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Datblygu ac Adfywio Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynlluniau adfywio lleol a phrosiectau adeiladu tai newydd i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ac i wella ein cymunedau lleol. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau lleol, Cynghorwyr lleol a rhanddeiliaid...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Datblygu’r Ganolfan Achredu Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achredu sefydledig sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno a chefnogi rhaglenni hyfforddi i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae ein...


  • Cardiff, United Kingdom Network Rail Full time

    Brief Description An exciting opportunity has arisen to join the HEAM Buildings and Structures CEFA/CAFA Programme team as it embarks upon the next stage of expansion. W&W HEAM B&S CEFA/CAFA programme team carries out work region wide from Fishgaurd in the West Wales, through the major cities of Cardiff, Swindon, Reading, London and Plymouth down to...

  • Mentor Cynghori

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Cyngor Ariannol yn dîm lles a budd-daliadau sy'n gweld tua 1500 o bobl y mis gan nodi cymorth ariannol, grantiau a gostyngiadau a delio â dyledion. Mae'r Tîm yn ehangu oherwydd galw ac angen hanfodol y bobl sy’n ymweld â'r 20+ o leoliadau'r wythnos y mae'r tîm wedi ymrwymo i’w mynychu. **Am Y Swydd** Mae cyfle...

  • Ymarferydd RHianta

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...

  • Mentor Cymorth Cynnar

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Comisiynu Caerdydd yn rhan o Oedolion, Tai a Chymunedau. Mae'r Tîm yn gweithio ar y cyd â'r sector gofal cymdeithasol ar draws y ddinas, y sector statudol a’r trydydd sector. Mae gan Dîm Comisiynu Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth gynllunio, rheoli datblygu a sicrhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...