Rheolwr Cyflogadwyedd
4 weeks ago
**Unit**: The Open University in Wales
**Salary**: £35,333 - £42,155 y flwyddyn (Gradd 7)
**Location**: Cardiff
**Please quote reference**: 20515
Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2023, 37 awr yr wythnos
**Closing Date**: 5 January, 2023 - 12:00
**Uned**: Brifysgol Agored yng Nghymru
**Cyflog**:£35,333- £42,155 y flwddyn (Gradd 7)
**Lleoliad**:Gweithio hybrid, gydag ymweliadau wythnosol â'r Brifysgol Agored yn swyddfa Cymru
**Dyfynnwch y cyfeirnod hwn**:20515
**Hyd**:Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2023 / 37 awr yr wythnos
**Dyddiad Cau**:Dydd lau 5 Ionawr 2023, 12 hanner dydd
**Y Rôl**:
Bydd y Rheolwr Cyflogadwyedd yn rheoli darpariaeth rhaglen gyflogadwyedd newydd Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn llwyddiannus. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a bydd yn cefnogi'r myfyrwyr a'r graddedigion sydd bellaf o'r farchnad lafur i gael mynediad at gymorth cyflogadwyedd a phrofiad gwaith. Mae hon yn rôl gyffrous newydd sydd â'r potensial i drawsnewid bywydau myfyrwyr Y Brifysgol Agored.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli datblygiad strategol y broses o ymgysylltu â chyflogwyr ac yn goruchwylio gwaith Cynghorwyr Cyflogadwyedd. Bydd yn cael cyfle i lywio'r rhaglen newydd, cefnogi'r llwyth gwaith cychwynnol ac arwain y broses o gydweithio â chydweithwyr yn Y Brifysgol Agored a rhanddeiliaid allanol allweddol.
Byddwch yn nodi ac yn hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth, gwirfoddoli a lleoliadau i fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Y Brifysgol Agored, gan gefnogi myfyrwyr o grwpiau nas cynrychiolir, a meithrin perthnasau cryf â phartneriaid mewnol a rhanddeiliaid sydd hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr, i sicrhau dull integredig ym mhob rhan o'r brifysgol.
**Gwerthoedd ein Tîm**:
Mae ein gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn disgwyl i'n cydweithwyr ymddwyn mewn ffordd sy'n hybu'r rhain.
**Ymddiriedaeth**
Rydym yn ymddiried yn ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd i wneud ein gwaith gorau a chymryd cyfrifoldeb personol am ein rolau unigryw o fewn y tîm.
**Cydymdeimlad**
Rydym yn ymateb yn gydymdeimladol tuag at ein myfyrwyr, tuag at ein gilydd, ac yn y penderfyniadau a wnawn.
**Cynhwysiant**
Rydym yn gynhwysol, yn croesawu amrywiaeth ac yn cymeradwyo unigoliaeth - byddwch yn chi eich hun
**Datblygiad**
Rydym bob amser yn dysgu ac yn esblygu yr hyn rydym yn ei wneud i greu'r profiad gorau i'n myfyrwyr a'n staff.
**Sut i Wneud Cais**:
Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn wythnos i ddyddiad cau'r cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn, ond rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb ac yn eich annog i wneud cais am swyddi yn y dyfodol.
Ni dderbynnir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl hon cysylltwch â Tom Poultney ar 029 20 26 27 16 a fydd yn trefnu amser cyfleus i'r rheolwr cyflogi gysylltu â chi am sgwrs.
**Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. **Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein holl staff gyflawni eu potensial a denu ymgeiswyr amrywiol. **Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder
-
Rheolwr Project
1 month ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...