Swyddog Cyflawni Prosiectau Tgch

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**

Mae’r adran TGCh yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor.

Prif swyddogaethau’r adran yw:

- darparu systemau a chymorth TG o safon uchel, a chynnal a chadw’r systemau TG, ym mhob rhan o’r sefydliad
- rhoi cyngor ac arweiniad strategol i’r gwasanaethau a’u cyfarwyddiaethau
- cyfrannu at y gwaith o gyflawni ymgyrch Dewis Digidol y Cyngor

Mae’r Gwasanaeth TGCh yn ymdrin â sawl swyddogaeth, gan gynnwys:

- y Ddesg Gymorth
- timoedd Systemau Menter a Data, sy’n gyfrifol am ddatblygu, rhoi cymorth a chynnal a chadw rhaglenni a ddatblygwyd yn fewnol yn ogystal â rhaglenni trydydd parti
- timoedd Gwasanaethau TGCh sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â ’r rhwydwaith, y gweinydd a’r defnyddwyr olaf
- Diogelwch a Chydymffurfiaeth
- Pensaernïaeth Menter

**Am Y Swydd**
Mae'r technolegau a gefnogir wedi'u seilio'n bennaf ar lwyfannau bwrdd gwaith, gliniaduron a gweinydd Microsoft Windows gyda chymwysiadau'n cael eu darparu drwy amrywiaeth o seilwaith ffisegol, rhithwir a chwmwl. O fewn amgylchedd yr ysgol mae Chromebooks ac iPads yn benodol yn cael eu mabwysiadu ynghyd â chynigion gwasanaethau cwmwl Google a Microsoft.

Byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig ac uchelgeisiol, a bydd cyfleoedd i weithio gydag ystod o dechnolegau o’r radd flaenaf.

Byddwch yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu i’ch galluogi chi i ddatblygu eich llwybr gyrfa ynghyd â mynediad at adolygiadau perfformiad a datblygu rheolaidd.

**Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau**
- Arwain a chydlynu gwaith dylunio a darparu seilwaith TGCh ar gyfer adeiladau ysgol newydd, y rhaglen adnewyddu asedau a phrosiectau adeiladau ysgol eraill.
- Rheoli perthnasoedd effeithiol rhwng timau Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion a thimau TGCh y Cyngor i sicrhau bod gwasanaethau TGCh yn cael eu darparu'n llwyddiannus i adeiladau ysgol newydd a datblygu, ehangu a gwneud gwelliannau i ysgolion presennol ledled Caerdydd.
- Gweithio'n agos gydag ysgolion, staff a'r holl randdeiliaid drwy ymgynghori a chydweithio yn fewnol ac yn allanol i ddarparu gwasanaethau TGCh i brosiectau adeiladau ysgol gan gynnwys manyleb a dyluniad seilwaith TGCh a chaffael a chomisiynu gwasanaethau TGCh.
- Trafod, caffael a rheoli, lle bo angen, ymgynghorwyr a chontractwyr allanol i gynorthwyo i ddarparu, gosod a chomisiynu seilwaith TGCh a chydrannau cysylltiedig.
- Rhoi cyngor, arweiniad a chymorth yn ystod camau cynllunio prosiectau i sicrhau bod yr holl ofynion yn cael eu hystyried yn y fanyleb gyffredinol.
- Monitro, arwain a chefnogi timau drwy gydol cylch bywyd prosiect i sicrhau bod holl elfennau TGCh prosiectau adeiladu ac adnewyddu ysgolion yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
- Cyd-drafod ac adolygu cytundebau mewnol ac allanol, a chydgysylltu â darparwyr gwasanaeth rhanddeiliaid ac ysgolion er mwyn cynnal neu wella lefelau gwasanaeth.
- Rheoli perthnasoedd a chontractau gyda chyflenwyr gan gynnwys gwasanaethau cymorth trydydd parti, contractwyr ceblau, cyflenwyr caledwedd, darparwyr AV a fframweithiau Llywodraeth Cymru.
- Datblygu darpariaeth y Gwasanaeth TGCh i ysgolion trwy gyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau er mwyn sicrhau bod cleientiaid yn manteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth.
- Gweithio gyda'r Rheolwr Seilwaith Technegol a'r Gwasanaeth Cymorth TGCh Ysgolion ehangach i nodi prosiectau sydd ar ddod, cynorthwyo i reoli'r prosiect a chydlynu, alinio a rheoli adnoddau i sicrhau darparu prosiectau llwyddiannus.
- Gweithio gyda Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cyngor ar lefel strategol i lunio, rheoli, adolygu a datblygu'r gwasanaeth.
- Cynghori ac arwain cwsmeriaid trwy bob agwedd ar y Gwasanaeth TGCh.
- Monitro lefel boddhad cwsmeriaid a chyflenwyr yn rheolaidd gan ymateb i ymholiadau a chwynion a, lle bo angen, sicrhau y cymerir camau unioni.
- Monitro cydymffurfiaeth â pholisïau corfforaethol a gofynion statudol.
- Sicrhau bod yr holl waith caffael TGCh yn cael ei wneud yn unol â rheoliadau statudol a sicrhau archebu a chyflenwi effeithiol ac effeithlon.
- Ymateb i ddigwyddiadau a cheisiadau gan gynnwys ceisiadau a gyflwynir trwy’r Ddesg Wasanaeth TGCh, gan flaenoriaethu a rhoi sylw i’r manylion perthnasol er mwyn galluogi’r gwaith o ymchwilio i fynd rhagddo yn effeithiol. Sicrhau bod CLGau yn cael eu bodloni a’u monitro ac yr adroddir amdanynt.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Hanes o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
- Dealltwriaeth ymarferol o brofiad defnyddwyr a dadansoddi gofynion a'r gallu i nodi amcanion defnyddwyr ar gyfer systemau, cynhyrchion neu wasanaethau a diffinio'r datrysiadau a’r adnoddau gofynnol i gyflawni a chefnogi’r canlyniad cytunedig.
- Profiad o greu, gweithredu a monitro cytundebau lefel gwasanaeth gyda chyflenwyr, gan gynnwys rheoli cyfleusterau gweithredol yn barhaus i gyrraedd y lefelau gwasanaeth y cytunwyd arnynt, gan geisio gwella'n barhaus ac yn rhagweithiol i wella targedau gwasanaethau.
- Hanes â thystiolaeth o reoli prosi



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12197** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cefnogi Prosiectau** **Contract: Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cefnogi Prosiectau yn adran Prosiectau a Chyllid Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y...

  • Rheolwr Prosiectau

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd mae gennym 8 swydd wag ar gyfer rôl Rheolwr Prosiectau - Cyflawni Uniongyrchol** **Dim ond cyflogeion Cyngor Caerdydd, gan gynnwys Caerdydd ar Waith a Gweithwyr Asiantaeth sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor ar hyn o bryd, all wneud cais am y swydd hon.** Oherwydd ailstrwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael yn Nhîm Perfformiad a Phartneriaethau'r Cyngor ar gyfer Uwch Swyddog Ymchwil sydd â diddordeb mewn cefnogi agenda ymgynghori ac ymgysylltu'r Cyngor. Bydd y rôl yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymgysylltu Caerdydd, sy’n cynnwys arbenigwyr ar ymgynghori ac ymgysylltu ac yn gyfrifol am ddeall barn rhanddeiliaid ar ystod eang...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Arweiniol, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu. **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant yn chwilio am unigolyn deinamig, rhagweithiol sydd â phrofiad o reoli prosiectau a diddordeb mewn cefnogi'r ystod o ddatblygiadau sy'n mynd rhagddynt yng ngwasanaeth rhanbarthol Ar Ffiniau Gofal ARC. Byddai'r rôl yn canolbwyntio ar ddarpariaeth Bro Morgannwg ac yn cynorthwyo gyda'r gwaith o oruchwylio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr yn rhan o'r Adran Llety ac Asesu â Chymorth ac mae'n darparu llety sy'n briodol yn ddiwylliannol, sy'n addas i anghenion y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Drwy safleoedd, mae rheoli safleoedd yn cyflawni'r darpariaethau canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a chynnal...

  • Rheolwr Gweithredol

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth y Cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth reoli twf cyflym Caerdydd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ar hyn o bryd rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o brosiectau sy’n gynwysedig yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar sydd â’r nod o weddnewid system drafnidiaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Yolk Recruitment Ltd Full time

    **Business Support Officer** Yolk Recruitment are working with a well-known charity based in Wales who are a Welsh Government Sponsored Body to find a part time business support officer to join their team and assist in the project management of their new capital strategy. We are looking for an independent and original thinker who can bring a fresh...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n chwilio am waith neu'n edrych i uwchsgilio. Gall y tîm gynnig cymorth a mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd i wirfoddoli. Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn cyn-gyflogi cyflawn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol: - Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig - Mynediad at Raglenni Rhianta - Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu. Gofal...

  • Welsh Headings

    8 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hon yn swydd newydd sbon - a ddatblygwyd er mwyn creu rhywfaint o gapasiti ymroddedig ac arbenigol o ran ymgysylltu â darparwyr a siapio a rheoli'r farchnad yn y sectorau Gofal Cartref a Chartref Gofal allanol yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Deall gwybodaeth darparwyr am y farchnad a thueddiadau; deall y strwythur a'r capasiti sydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full time

    **Advert** **The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.** **Swyddog Gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd** Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ymuno gyda thîm gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd. Mae'r ddarpariaeth yma yn cynnig gwersi Cymraeg i Oedolion ar draws y rhanbarth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli...


  • Cardiff, United Kingdom Integral UK Full time

    **Mae'n adeg gyffrous i ddechrau gyrfa gyda Integral UK LTD gan mai ni yw'r cwmni mwyaf (sy'n tyfu gyflymaf) sy'n darparu gwasanaethau peirianegol a chynnal a chadw cynhwysfawr o ansawdd uchel ar gyfer adeiladau masnachol ac adeiladau yn y sector cyhoeddus ym Mhrydain. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw ataliol ac adweitheddol i dros 1600 o...

  • Swyddog Marchnata

    7 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn...