Swyddog Marchnata

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn bobl addas a phriodol i wneud hynny, yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cydymffurfio â gofynion a roddir arnynt yn ôl y gyfraith ac amodau trwydded. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.

**Am Y Swydd**
Arwain y gwaith o ddatblygu cyfathrebu a marchnata gan gynnwys rheoli cyfathrebu, cynllunio a darpariaeth strategol, datblygu perthynas waith dda gyda rhanddeiliaid ar gyfer ymgyrchoedd a phrosiectau ar gyfer Rhentu Doeth Cymru a’i bwerau dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thîm Cyfathrebu a Chyfryngau’r Cyngor i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau allweddol (mewnol ac allanol) i gefnogi blaenoriaethau cyfathrebu Rhentu Doeth Cymru a sicrhau bod Cyfathrebiadau Marchnata a’r Cyfryngau’n effeithiol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

Bydd deiliad y swydd:

- Wedi ei addysgu i lefel gradd neu â phrofiad amlwg (2 flynedd+) mewn tîm marchnata / cyfathrebu sy'n gwneud gwaith perthnasol
- Yn siaradwr Cymraeg Rhugl

Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar ynghyd â lefel uchel o sgiliau rhyng-bersonol.
- Yn gallu dangos tystiolaeth o gyflwyno ymgyrch gyfathrebu / marchnata gyda chanlyniadau llwyddiannus
- Yn meddu ar sgiliau amlwg mewn ystod o ddisgyblaethau marchnata gan gynnwys, cysylltiadau Cyfryngau, Brandio, Arddangosfeydd, ymchwil Marchnad, Marchnata E-bost, Rheoli Cyfryngau Cymdeithasol, Post Uniongyrchol, Sgiliau Sgwennu a Golygu Copi
- Yn ddefnyddwyr TG cymwys, yn gyfarwydd ag ystod o feddalwedd priodol gan gynnwys MS Office
- Fod â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio o fewn yr Adobe Creative Cloud e.e. InDesign, Photoshop ac Illustrator

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar newidiadau i'r sector rhentu preifat yng Nghymru; gan weithio'n agos gyda phartneriaid o lywodraeth leol mewn 22 o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, landlordiaid a sefydliadau asiantau a chwmnïau hyfforddi i sicrhau ei lwyddiant.

Dylai’r ymgeiswyr llwyddiannus allu cyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at Lefel 5 - Hyfedredd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00892



  • Cardiff, United Kingdom Careers Wales Full time

    **Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata **(Rhan Amser)** **Gradd Cyflog 2: cyflog cychwynnol yw £13,575, pro-rata i £22,625.** **Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru.** **Rydym yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfaoedd hanfodol sy’n annibynnol, yn ddiduedd ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel ymdrech hirdymor, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i seilio ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol, sy’n cwmpasu deg Awdurdod Lleol De-ddwyrain Cymru, sy’n addasu’n gyson i fynd i’r afael â heriau diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol mawr y dydd. Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol sydd newydd ei...

  • Swyddog Ymgysylltu

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12331** **Teitl y Swydd**:Swyddog Ymgysylltu (Rhaglen Multiply)** **Contract: Contract Cyfnod Penodol tan fis Mawrth 2025, Llawn Amser** **Lleoliad: Heol Colcot, Y Barri** **Oriau: 37** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata (yn ddibynnol ar brofiad)** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Ymgysylltu i...


  • Cardiff, United Kingdom MIND Full time

    **Fixed Term Contract (Full Time) - 35 Hours** We have big goals over the next few years. We’re going to be fighting for mental health in a way we never have before. Together we’ll be working to make sure everyone experiencing a mental health problem gets the support and respect they deserve. **Will you join us?** We have ambitious plans to help...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Helpu i hyrwyddo a rheoli'r Hybiau Pobl Hŷn, gan roi cymorth i Reolwyr Cynllun Byw yn y Gymuned i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau'n llwyddiannus, gan ganolbwyntio'n benodol ar iechyd a lles integredig, gan alluogi mwy o gysylltiadau cymdeithasol a lleihau arwahanrwydd ar gyfer pobl hŷn o fewn y gymuned. Cefnogi’r Rheolwyr Cynllun...