Therapydd Galwedigaethol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd cyfleoedd hefyd i ymwneud â phrosiectau gwahanol o fewn y gwasanaeth, gan gynnwys rheoli gofalwyr unigol ac adolygu/nodi pobl sydd â’r potensial o gael eu hailalluogi.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gallu gweithio i derfynau amser tynn a bod yn hyblyg iawn. Rhaid i chi allu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a threfnu gwych a’r gallu i ddatrys problemau a chynnig ymyriadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn denu At chwanegiad Marchnad o £1000 y flwyddyn/pro rata

Rydym yn ymrwymedig i’ch datblygiad ac mae gennym gynlluniau goruchwylio a Datblygiad a Pherfformiad Personol sefydledig, rhaglenni hyfforddi a DPP (lle y bo’n briodol), a chlwb Dyddlyfr.

Mae'n hanfodol bod gennych brofiad o weithio'n rhagweithiol gyda chleientiaid ag anableddau corfforol a/neu bobl hŷn, trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd o gerbyd gydag yswiriant busnes.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â

Caryn Abbott (Rheolwr Gwasanaeth) neu Zara Grant (Rheolwr Tîm), Gwasanaethau Byw'n Annibynnol 029 2023 4222

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO01577



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i Therapydd Galwedigaethol yn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal asesiadau o angen a chytuno ar ganlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae ymyriadau yn debygol o gynnwys darparu cyfarpar a chyflawni addasiadau mawr. Bydd cyfleoedd...

  • Senior Lecturer

    Found in: beBee S GB - 3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Rhyngbroffesiynol.pdf Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-ordinator.pdf Job description Cardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality...

  • Senior Lecturer

    Found in: beBee jobs GB - 3 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...