Peiriannydd (Polisi Parcio)

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y tîm Polisi a Strategaeth Parcio.

Rydym yn cydnabod bod ein dull o ymdrin â pholisi parcio a rheolaeth ymyl y ffordd yn effeithio ar brofiad pawb o Gaerdydd. Fel Peiriannydd Polisi Parcio, byddwch yn flaenllaw wrth ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth parcio ar gyfer y ddinas.

O fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i wneud y briffordd yn werddach, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bobl ag anableddau, mae'r rôl hon yn ymwneud â chadw Caerdydd i symud a chydbwyso buddiannau preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, wrth ystyried effaith y newidiadau a wnawn heddiw ar y ddinas yn y dyfodol.
**Am Y Swydd**
Byddwch wrth wraidd penderfyniadau ar sut rydym yn rheoli'r galw am barcio i wneud ein ffyrdd yn wyrddach, yn fwy diogel ac yn decach. Bydd hyn yn golygu penderfynu pwy all barcio ble a phryd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy'r Cyngor.

Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:

- Rheoli a chydlynu’r gwaith o gynllunio a gweithredu prosiectau parcio a gorchmynion rheoli traffig. Gall prosiectau o'r fath gynnwys cyflwyno cynlluniau parcio trwyddedau preswylwyr, parthau parcio bach i ganolig, a rhai cynlluniau symud traffig lle bo hynny'n briodol.
- Rheoli a chydlynu prosiectau ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymgynghori â'r cyhoedd a gweithgareddau hyrwyddo i helpu i gyflawni prosiectau parcio
- Cynorthwyo arweinydd y Tîm Polisi a Strategaeth Parcio wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau parcio newydd; hyrwyddo gwelliannau mewn diogelwch, hygyrchedd a pherfformiad amgylcheddol, a sicrhau bod y cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn
- Ateb ymholiadau gan y cyhoedd, aelodau, cydweithwyr ac eraill ynglŷn ag amrywiaeth o faterion parcio
- Casglu a dadansoddi data a llunio adroddiadau i gefnogi'r gwaith o gyflawni cynlluniau parcio a newidiadau polisi

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae’r rôl ar gyfer unigolyn brwdfrydig sy’n gallu dangos ei fod yn meddu ar y gofynion a’r profiad a nodir yn y Fanyleb Person.

Rydym yn chwilio am berson diwyd a llawn cymhelliant sy’n gallu gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun ac sy’n meddu ar sgiliau rhyngbersonol da i ymuno â’n tîm.

Bydd y rôl yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am ddylunio a chyflawni cynlluniau parcio a phroses Gorchmynion Rheoli Traffig.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00339



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ond hefyd yn cynnig mynediad rhwydd i arfordir a chefn gwlad gwych ardal de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel gyda...