Cyfreithiwr Dan Hyfforddiant

4 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau parcio da.

Mae gennym gyfreithwyr arbenigol sy’n ymgymryd â gwaith ymgyfreitha, caffael, eiddo, cynllunio, llywodraethu, gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, a’n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysol i’n cleientiaid.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg o gartref neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system rheoli achosion modern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach.

**Am Y Swydd** Mae rhai o'r rolau hyn ar gael ar unwaith. Er mwyn bod mewn sefyllfa i wneud cais, mae cwblhau'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu gwrs cyfatebol yn llwyddiannus yn hanfodol.**

Fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant byddwch yn derbyn hyfforddiant gyda golwg ar gael eich derbyn fel Cyfreithiwr. I’r perwyl hwnnw byddwch yn gwneud gwaith cyfreithiol neu led-gyfreithiol; delio â materion yn ymwneud ag achosion mewn Llysoedd a Thribiwnlysoedd; delio â chaffael, contractau, trawsgludo, trafodion eiddo a materion cynllunio; paratoi a chyhoeddi Gorchmynion, Hysbysiadau a dogfennau; a gwneud gwaith ymchwil cyfreithiol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr o safon uchel â phrofiad perthnasol a all ddelio â llwyth gwaith amrywiol a heriol ac sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol mewnol llwyddiannus.

Disgwyliwn i’r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni’r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau’r Cyngor.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gwaith hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae polisi Amser Hyblyg y Cyngor yn berthnasol i'r swydd ac mae patrymau gweithio hyblyg ar gael, yn amodol ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid ac ystyried trefniadau gwaith aelodau'r tîm presennol. Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio ar fyr rybudd yn unol â gofynion y swydd hon. **Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.**

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Wrth lenwi'r ffurflen gais ar-lein, mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau'r wybodaeth bersonol sy'n dangos sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol sydd wedi'u cynnwys gyda’r fanyleb person. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu na fydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer**

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES00986



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ond hefyd yn cynnig mynediad rhwydd i arfordir a chefn gwlad gwych ardal de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel gyda...


  • Cardiff, United Kingdom Crown Prosecution Service Full time

    **Details**: **Reference number**: - 310324**Salary**: - £62,030- £62,030 - £65,450 (Cenedlaethol)- A Civil Service Pension with an average employer contribution of 27%**Job grade**: - Grade 7- CA - Gradd 7**Contract type**: - Permanent**Business area**: - National**Type of role**: - Legal Services**Working pattern**: - Flexible working, Full-time,...

  • Mentor Cymorth Cynnar

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...

  • Trainee Journalist

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom ITV Jobs Full time

    **Newyddiadurwr dan hyfforddiant** **(Rhaglenni Cymraeg)** **ITV Cymru Wales** **2 x cytundeb 12 mis** **Lleoliad : Caerdydd** **Cyflog : £21.324 -** **£26329** **Mae eich gwaith yn bwysig** Mae siapio diwylliant yn rhan o DNA ITV. Nid yw’n syndod y byddwch yn dod o hyd i ni ym mhob cartref yn y DU, mae ein cynyrchiadau yn enwog ledled y byd ac...

  • Gweithredwr Morol

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Sefydlwyd Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) ar 1 Ebrill 2000 gan ysgwyddo cyfrifoldebau Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd fel y'u nodir yn Neddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993. Wrth wneud hynny mae Awdurdod yr Harbwr yn cyflawni swyddogaethau statudol Awdurdod yr Harbwr ar ran Cyngor Caerdydd. Mae tîm yr Harbwrfeistr yn gweithredu fflyd fach o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...

  • Ymarferydd RHianta

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Dechrau'n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae elfennau craidd y rhaglen wedi dod o amrywiaeth o opsiynau sydd wedi’u profi i ysgogi canlyniadau gwell i blant a'u teuluoedd. Mae’r rhain yn cynnwys: - Gofal plant rhan...

  • Swyddog Mynegai

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yng Nghyngor Caerdydd ac rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Cymorth i helpu i reoli Systemau Trafnidiaeth Deallus. Defnyddir y rhain fwyfwy i ddatrys problemau trafnidiaeth heddiw. Mae’r systemau hyn yn defnyddio gwybodaeth a thechnoleg gyfathrebu newydd i sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth mor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol/Cadeirydd Cynhadledd Amddiffyn Plant profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau sy’n tyfu gennym ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc.** Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...

  • Mentor Ieuenctid

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Diogelu Oedolion wedi'i leoli yn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Oedolion, Tai a Chymunedau ac mae'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r awdurdod lleol i Ddiogelu Oedolion mewn Perygl o dan Ran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gan fod Diogelu yn 'Fusnes i Bawb' mae'r Tîm Diogelu Oedolion yn gweithio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n tîm Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yn Gabalfa, a leolir yng Ngogledd Orllewin Caerdydd. Rydym yn dîm mawr, deinamig sy'n delio ag unigolion sy'n cyflwyno ystod eang o gyflyrau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd â dalgylchoedd gwahanol. Mae gennym un...