Gweithredwr Morol

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Sefydlwyd Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) ar 1 Ebrill 2000 gan ysgwyddo cyfrifoldebau Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd fel y'u nodir yn Neddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993. Wrth wneud hynny mae Awdurdod yr Harbwr yn cyflawni swyddogaethau statudol Awdurdod yr Harbwr ar ran Cyngor Caerdydd. Mae tîm yr Harbwrfeistr yn gweithredu fflyd fach o gychod gwaith arbenigol a ddefnyddir i sicrhau bod swyddogaethau statudol Awdurdod yr Harbwr yn cael eu bodloni a bod diogelwch mordwyo yn cael ei gynnal o fewn terfynau'r Harbwr.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle wedi codi i Weithredwr Morol weithio yn Nhîm yr Harbwrfeistr yn Awdurdod Harbwr Caerdydd. Gan adrodd i'r Cwchfeistr ar ddyletswydd, byddwch yn rhan o dîm sy'n cynnal ac yn rheoli dyfroedd Bae Caerdydd.

Byddwch yn gweithredu fel aelod o’r criw ar fwrdd y cychod arbenigol a weithredir gan AHC, gan gynorthwyo'r cwchfeistri yn y gwahanol ddyletswyddau rhedeg, cynnal a chadw a gorfodi o ddydd i ddydd ar ddyfroedd a glannau Bae Caerdydd ym mhob tywydd, gan ymgymryd â gweithgareddau fel clirio sbwriel ar y dŵr, ar y glannau, a jet-olchi pontynau. O bryd i’w gilydd bydd hefyd angen i chi weithredu fel aelod o’r criw dec, gwyliwr a llywiwr wrth gefn ym Mae Caerdydd gan gynnwys ar y môr ac o fewn terfynau codio'r cychod.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am aelod o’r tîm sy'n mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac ym mhob tywydd o dan amodau heriol. Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad addas o weithio mewn amgylchedd morol er y darperir hyfforddiant, a bydd cyfleoedd datblygu ar gael.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
- Bydd deiliad y swydd yn gweithio patrwm shifft sy'n cwmpasu penwythnosau a Gwyliau Banc ac amseroedd gweithredu gwahanol yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r dyletswyddau dan sylw.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: ECO00405