Swyddog Adolygu Annibynnol

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn awyddus i recriwtio Swyddog Adolygu Annibynnol profiadol a pharhaol i ymuno â'n gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc, gwasanaethau sy’n tyfu gennym.**

Byddwch yn ymuno â thîm deinamig a sefydledig i barhau â'r gwaith da yn y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol. Bydd gennych o leiaf 6 mis o brofiad diweddar fel Swyddog Adolygu Annibynnol ac o gadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant. Dylech hefyd allu dangos sgiliau cadeirio ac adolygu cynlluniau gofal.

Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfder, gan ddefnyddio Arwyddion Diogelwch. Mae gwybodaeth a phrofiad o'r dull hwn yn hanfodol, ond darperir hyfforddiant.

**Am Y Swydd**
Fel Swyddog Adolygu Annibynnol, mae cyfleoedd i weithio'n hyblyg yn unol â pholisi gweithio hyblyg Caerdydd.

Mae Rheoliadau Lleoli Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 yn gofyn bod SAA yn cadeirio adolygiadau o blant sydd mewn lleoliad mabwysiadol cyn i orchymyn mabwysiadu gael ei roi; yn derbyn gofal sy’n destun gorchymyn statudol neu mewn llety gyda chaniatâd rhiant a Phobl ifanc mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc sy’n destun Gorchymyn Gofal neu wedi eu traddodi fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol a Deddf Cosbi Troseddwyr 2012 (LASPO 2012)

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Prif ddyletswyddau deiliad y swydd fydd sicrhau eich bod yn canolbwyntio ar anghenion plant a sicrhau yr eir i’r afael â nhw, lleihau drifftio a gwirio cysondeb cynllunio gofal a phrosesau penderfynu.

Dylech fod yn Weithiwr Cymdeithasol profiadol cofrestredig, bod â phrofiad o weithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal yn ogystal â’r gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynau amser ac amserlenni caeth. Mae sgiliau cyfathrebu a threfnu da yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Sara Jones ar rif ffôn 029 22330900.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02861


  • Swyddog Atebion Llety

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...

  • Swyddog Cyswllt

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i...

  • Swyddog Cyswllt

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol. Mae'r Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) yn cefnogi oedolion agored i niwed i fyw'n annibynnol gartref ac yn gysylltiedig â'u cymunedau, drwy wybodaeth, cyngor a chymorth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y gwasanaeth Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Asesydd Datblygu’r Gweithlu. Byddwch yn gweithio fel aelod o dîm Datblygu ac Achredu’r Gweithlu sy’n meddu ar brofiad o gyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a’r teuluoedd y mae’r timau yn gweithio...

  • Grants Officer

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Community Foundation Wales Full time

    Job description ✨ Join Our Team at Community Foundation Wales as a Grants Officer! ✨ Are you passionate about making a positive impact in communities across Wales? Community Foundation Wales is looking for a dedicated Grants Officer to join our dynamic team! ✨ About Us: At Community Foundation Wales, we are committed to supporting local initiatives...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

  • Grants Officer

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Community Foundation Wales Full time

    Join Our Team at Community Foundation Wales as a Grants Officer! Go to our website to see the Job Pack and learn how to apply. Are you passionate about making a positive impact in communities across Wales? Community Foundation Wales is looking for a dedicated Grants Officer to join our dynamic team! About Us: At Community Foundation Wales, we are...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Rhieni’n Gyntaf yw’r gwasanaeth a arweinir gan seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd 0-18. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o Wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Sir Caerdydd sydd ar gael i bob teulu ar draws Caerdydd sydd a phlentyn neu person ifanc o dan 18. Ariannir Rhianta Caerdydd 0-18 drwy grant Llywodraeth Cymru ac mae’n ategu y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...

  • Swyddog Prosiect

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae tîm Archifau Morgannwg yn casglu, cadw ac yn sicrhau bod dogfennau yn ymwneud â hanes Morgannwg o’r 12fed ganrif hyd heddiw ar gael i’r cyhoedd. Mae dros 12 mil o ddogfennau wedi eu cadw mewn ystafelloedd diogel yn y cyfleuster a adeiladwyd yn bwrpasol. Rydym am gyflogi Swyddog Prosiect yn Archifau Morgannwg, Clos Parc...

  • Swyddog Storfa

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Swyddog Storfa wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Diogelwch Cymunedol (TDC) Cyngor Dinas Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau statudol ac anstatudol i nodi, a lliniaru trosedd, anhrefn, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda'r amcan o leihau troseddu, cefnogi'r rheini sy'n agored i niwed, a chynyddu diogelwch y gymuned. Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol wrthi'n canolbwyntio ar y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ariennir y Rhaglen Dechrau'n Deg gan Lywodraeth Cymru ac mae'n helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol: - Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd estynedig - Mynediad at Raglenni Rhianta - Cymorth Lleferydd ac Iaith i helpu plant i siarad a chyfathrebu. Gofal...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yn ymgorffori dwy adran Gwasanaethau Oedolion a Thai a Chymunedau ac mae'n cynnwys llawer o wasanaethau rheng flaen pwysig y cyngor. Mae'r tîm Gwella Gwasanaethau a ffurfiwyd yn ddiweddar yn ymroddedig i ddatblygu arferion gwaith o fewn y gyfarwyddiaeth ac yn rhoi cymorth i'w timau...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous gennym ar hyn o bryd ar gyfer hyfforddwr profiadol i ymuno â’n Tîm Gwasanaethau 24/7. Mae gwasanaethau 24/7 yn cynnig cyfle cyffrous i gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac annibynnol yn eu cymunedau, gan ymrymuso pobl i aros yn annibynnol gartref trwy ddatblygu a darparu ystod o Wasanaethau Atal. Ar ben hynny,...