Dirprwy Swyddog Cyfrifol

2 months ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930***

**Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol**

**Gradd 7**:

- £33,945 - £38,223**

**Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant newydd, a all arwain, ysbrydoli, ysgogi a datblygu’r Cartref, y staff a lles y bobl ifanc rydym yn eu gwasanaethu.**
**Am Y Swydd** Ynglŷn â’r rôl**

Fel Dirprwy Reolwr, byddwch yn cynorthwyo i reoli gweinyddu’r Cartref, i sicrhau ei fod yn cyrraedd pob safon reoleiddiol ac yn cynnig gofal o safon ardderchog i’r plant a’r bobl ifanc a all aros yn y cartref am hyd at 12 wythnos. Y nod yw deall eu hanghenion yn fwy trylwyr a sicrhau lleoliad a all ddiwallu eu hanghenion yn well.

**Bydd y cyfrifoldebau allweddol fel Dirprwy Swyddog Cyfrifol yn cynnwys**:
Sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwasanaeth sensitif, sy'n diwallu eu hanghenion cymdeithasol, hiliol, seicolegol, addysgol, diwylliannol, corfforol yn ogystal â’u hanghenion gofal iechyd
- Sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu grymuso i gael llais wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau a’u dyfodol ac annog annibyniaeth
- Meithrin perthynas gadarnhaol gyda theuluoedd ac eraill, gan sicrhau ymgynghoriad a chyfranogiad
- Bwrw ati i integreiddio â chymunedau, gan ddefnyddio cyfleusterau lleol wrth ddatblygu a chynnal perthynas gyda’r gymuned leol.
- Cynorthwyo’r rheolwr i sicrhau y cynhelir cymhwysedd proffesiynol y tîm staff.
- Bod yn gyfrifol, dan gyfarwyddyd y Rheolwr, am sicrhau bod cyllidebau dirprwyedig yn cael eu rheoli’n effeithiol a bod yr arian a ddefnyddir yn cael ei fonitro’n briodol
- Cydlynu, mynychu a chadeirio cyfarfodydd yn ôl yr angen a sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn modd sy’n hyrwyddo cynhwysiant a chyflawni amcanion

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Rydyn ni’n chwilio am berson sydd â**:

- Phrofiad o weithio ar lefel uwch gyda phobl ifanc mewn amgylchedd gofal plant preswyl.
- Cymhwyster perthnasol sy'n bodloni meini prawf cofrestriadau Gofal Cymdeithasol Cymru yn ychwanegol at
- Ddiploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol

**Bydd angen i chi fod â gallu, sgiliau a gwybodaeth ynghylch**:

- Gwybodaeth am Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a gofynion deddfwriaethol cyfredol eraill
- Gwybodaeth am fonitro cyllidebau a systemau rheoli
- Gwybodaeth am ddatblygiad plant a dealltwriaeth o anghenion pobl ifanc
- Y gallu i gynnal a chwblhau asesiadau
- Profiad o weithio gyda model cefnogi ymddygiad
- Yn gallu cynllunio, trefnu a pharatoi adroddiadau a chadeirio cyfarfodydd.
- Profiad o reoli staff
- Y gallu i ddeall dyletswydd gofal er mwyn diogelu a hybu buddiannau pobl ifanc a herio arferion amhriodol
- Sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau

**Ac fe gewch chi**:
Yn ogystal ag ymuno â thîm bywiog, cyfeillgar a chefnogol, byddwch yn cyfrannu tuag at wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. Byddwch hefyd yn derbyn y pecyn buddion canlynol:

- Mae Caerdydd yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith sy’n dda, hyblygrwydd ac ymreolaeth i gefnogi eich cydbwysedd bywyd gwaith /teulu chi eich hun
- Cynnig i weithio’n hybrid
- Cefnogaeth i iechyd a lles gweithwyr
- Credyd o amser fflecsi / toil
- Hawl awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhagorol a diogel
- Hawl i wyliau blynyddol hael
- Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Gweithio gyda Rheolwyr Tîm a chydweithwyr sy'n rhagorol ac yn angerddol dros sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl ifanc

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fel rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw Cyflwyno Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cefnogi unigolion sy'n chwilio am waith neu sydd am uwchsgilio. Mae'r tîm wedi'i wasgaru ar draws y ddinas yn cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth un i un wedi’i bersonoli, ym maes cyflogaeth, hyfforddiant, dysgu neu...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. Mae pedwar swydd ar gael, x2 parhaol a x2 dros dro, i gyd yn gweithio 37.00 awr yr wythnos. **Mae’r dau swydd dros dro yn parhau tan y 1af o Dachwedd 2024...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brosiectau cyflogadwyedd a ariennir yn...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel ymdrech hirdymor, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi’i seilio ar ddaearyddiaeth economaidd weithredol, sy’n cwmpasu deg Awdurdod Lleol De-ddwyrain Cymru, sy’n addasu’n gyson i fynd i’r afael â heriau diwydiannol, polisi cyhoeddus a chymdeithasol mawr y dydd. Mae ein Cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol sydd newydd ei...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grwp ac unigol ac ymyriadau. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Rhieni yn Gyntaf yn wasanaeth rhianta a arweinir gan seicoleg o fewn Cymorth Cynnar...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (GBA) Caerdydd. Mae'r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag oedolion sy'n agored i niwed i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'u teilwra - gan alluogi pobl i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd yn tyfu’n gynt nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop. Er bod y twf yn arwydd o gryfder, bydd yn dod â heriau yn ei sgil hefyd. Felly, mae'r adran Strategaeth Gwastraff yn chwilio am unigolyn deinamig i ddatblygu a gweithredu strategaeth wastraff gynaliadwy a chost effeithiol ar gyfer Caerdydd. Mae...

  • Rheolwr Prosiect

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r rôl hon yn rhan o Dîm Diogelwch Cymunedol sy'n ceisio mynd i'r afael â'r materion troseddu a gwrthgymdeithasol sy'n cael eu hwynebu ledled Caerdydd. Mae'r tîm yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n cynnwys ffyrdd o fyw ar y stryd a chamddefnyddio sylweddau, atal trais, datrys problemau...

  • Welsh Headings

    2 months ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Dysgu Oedolion, Dysgu ar gyfer Gwaith yn cynnig cyrsiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u cynllunio i helpu unigolion i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu a'u helpu i symud ymlaen i ddysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. **Am Y Swydd** Byddwch yn datblygu ac yn...

  • Rheolwr Project

    4 days ago

    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddgar sydd â hanes llwyddiannus o reoli projectau wedi eu cyllido ac o fod yn rheolwr llinell ar dîm. Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Caerdydd yn cynnwys seicolegwyr addysg cyfeillgar, hynod frwdfrydig, gydag ystod o brofiad a diddordebau proffesiynol amrywiol. Mae hwn yn gyfnod o newid i'r gwasanaeth ac mae'r rôl yn cynnig cyfleoedd i fod yn rhan o ddatblygiadau strategol o fewn yr Awdurdod Lleol yn ogystal â chefnogi'r Gwasanaeth...