Cyfreithiwr Ymgyfreitha

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain ond hefyd yn cynnig mynediad rhwydd i arfordir a chefn gwlad gwych ardal de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang.

Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel gyda chyfleoedd gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, brwdfrydig a hyblyg. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth da a chyfleusterau parcio. Mae gennym gyfreithwyr arbenigol sy’n ymgymryd â gwaith caffael, ymgyfreitha, eiddo, cynllunio, llywodraethu, gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a’n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysol i’n cleientiaid.

Mae'r gwasanaeth erbyn hyn yn dilyn model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg o’u cartrefi neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system rheoli achosion modern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach. Mae gennym hefyd 4 swydd cyfreithiwr dan hyfforddiant yr ydym yn eu defnyddio er mwyn helpu i dyfu ein gweithlu ein hunain

**Am Y Swydd**
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Cyfreithiwr Ymgyfreitha ac rydym yn chwilio am ymgeisydd â phrofiad perthnasol i ymuno â Thîm Ymgyfreitha’r Cyngor. Mae'r tîm brwdfrydig a hynod broffesiynol hwn yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad a diddordeb yng ngwaith tîm ymgyfreitha Llywodraeth Leol.

Bydd deiliad y swydd yn delio ag erlyniadau rheoleiddiol troseddol, fel safonau masnach, diogelwch amgylcheddol, iechyd a diogelwch ac ati, ond bydd hefyd yn cynnwys y gallu i ymwneud â meysydd gwaith eraill sy'n gysylltiedig ag ymgyfreitha, yn amodol ar brofiad yr ymgeisydd, diddordebau gyrfa, a chapasiti llwyth gwaith - gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyfraith addysg (gan gynnwys Apeliadau Derbyniadau Addysg) ac ymgyfreitha sifil cyffredinol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod wedi’i dderbyn fel cyfreithiwr neu ei alw i’r bar a rhaid iddo allu gweithio’n rhan o dîm.

Disgwyliwn i’r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni’r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau’r Cyngor.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae ein polisïau gweithio hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae polisi Amser Hyblyg y Cyngor yn berthnasol i'r swydd ac mae patrymau gweithio hyblyg ar gael, yn amodol ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid ac ystyriaeth i drefniadau gwaith aelodau presennol y tîm.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio'n hyblyg ac mewn ffordd ystwyth, a chaiff ddewis gweithio gartref neu yn y swyddfa pan nad yn mynychu'r Llys.

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu **ar yr amod bod gweithiwr / ymgeisydd cymwys arall sydd â phrofiad addas yn dymuno ei rhannu.**

Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n llwyddiannus ar y cam ffurflen gais yn cael eu gwahodd i gyfweliad, a bydd y cyfweliad hwn yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams. Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, cysylltwch â James Williams am drafodaeth.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01006



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...